Tîm Gofal Cymdeithasol ac Amddiffyn Iechyd Prosiect brechiad ffliw plant oedran ysgol

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd n drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth rydym yn casglu amdanoch chi a'ch plentyn er mwyn cysylltu â chi fel rhiant neu warchodwr i annog bod y ffurflen cydsyniad brechiad ffliw yn cael ei gwblhau, a dychwelyd yn ôl i’r ysgol.

Mae’r wybodaeth hyn yn cael eu prosesu ar sail gyfreithlon i gyflawni tasg er budd y cyhoedd ac iechyd y cyhoedd.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn:

  • Eich enw llawn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Rhif ffôn

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Er mwyn cyflawni’r dasg yma, rydym yn derbyn enw llawn eich plentyn, ei dyddiad geni, rhyw, dosbarth a blwyddyn ysgol wrth Dîm Nyrsio Ysgolion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Fydd y Tîm Gofal Cymdeithasol ac Amddiffyn Iechyd yn rhannu eich gwybodaeth derbyniwyd wrth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyda’r Tîm SRhG a Data y Cyngor, er mwyn paru enwau’r plant sydd heb dychwelyd y ffurflen cydsyniad nôl i’r ysgol ag enw a rhif ffôn eu rhiant neu warchodwr. Fydd y wybodaeth gyfunol yma wedyn yn cael ei drosglwyddo yn ôl i’r Tîm Gofal Cymdeithasol ac Amddiffyn Iechyd er mwyn caniatau’r cyswllt gyda rhieni a gwarchodwyr. Ni fydd y Tîm Gofal Cymdeithasol ac Amddiffyn Iechyd yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw sefydliad arall.

Mae rhai sefyllfaoedd penodol lle mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw.

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw am y cyfnod fydd y rhaglen ffliw nyrsio ysgolion yn mynd ymlaen. Fydd y data yna yn cael eu gwared arno’n ddiogel pan fydd y rhaglen brechu wedi dod i ben.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth