Gwastraff gardd

Mae angen i bob cwsmer presennol a newydd danysgrifio'n flynyddol i gael y gwasanaeth.

Mae casgliadau ar gyfer 2026 yn dechrau'n gynharach a gallwch bellach danysgrifio drwy'r ddolen isod.

Y tymor hwn bydd 21 casgliad bob pythefnos rhwng Chwefror a Rhagfyr.

Rydyn ni'n argymell i bob cwsmer ddarllen telerau ac amodau diweddaraf y gwasanaeth.

Ar ôl i'r casgliadau'r gwasanaeth gwastraff gardd ddechrau, ni fydd ad-daliad yn cael ei roi os byddwch yn gadael ran o'r ffordd drwy'r tymor.

Mae'r gwasanaeth yn costio £60.60 am dymor 2026. Fodd bynnag, os byddwch yn talu'n llawn drwy gerdyn credyd neu ddebyd, byddwch yn derbyn gostyngiad o 10%, cyfanswm cost y gwasanaeth yw £54.54 yn unig.

Hefyd, bydd angen i chi dalu tâl untro ychwanegol o £19 os nad oes gennych bin olwynion 240 litr eisoes. Dim ond biniau a roddwyd gan y cyngor at ddibenion y casgliad hwn fydd yn cael eu gwagio.

Mae biniau ychwanegol ar gael. Bydd y tâl gwasanaeth ar gyfer pob bin ychwanegol yn cael ei ostwng 10%

Wrth dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd angen talu am unrhyw finiau a brynir ar wahân i'r tâl gwasanaeth a fydd yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng 6 taliad.

Os ydych chi'n dewis peidio â pharhau â'ch gwasanaeth, cysylltwch â ni fel y gallwn fynd â'r bin, fel arall bydd yn cael ei adael gyda chi. Gallwch ailddefnyddio'ch bin i gadw gwastraff arall, ond peidiwch â'i roi allan i'w gasglu.

Gofalwch fod eich cerdyn credyd/debyd wrth law pan fyddwch chi'n tanysgrifio.

tanysgrifio