Ie plîs

 

  • Bagiau te wedi'u defnyddio a gwaddodion coffi
  • Plisgyn wyau
  • Pilion/crwyn ffrwythau a llysiau 
  • Cig a physgod amrwd ac wedi'u coginio, gan gynnwys esgyrn a chregyn
  • Sbarion diangen ar blât
  • Hen fara
  • Gweddillion na ellir eu storio'n ddiogel i'w bwyta'n ddiweddarach
  • Bwyd nad yw bellach yn ddiogel i'w fwyta
  • Bwyd anifeiliaid anwes

 

Dim diolch

 

  • Deunydd pecynnu o unrhyw fath
  • Unrhyw ddeunydd nad yw'n wastraff bwyd
  • Hylifau fel llaeth. Gallwch arllwys symiau bach o fwyd hylifol neu ddiod i lawr y sinc, yn ddelfrydol ar yr un pryd ag ychydig o ddŵr i sicrhau bod y gwastraff yn rhedeg i ffwrdd yn hawdd, heb achosi rhwystr.

Ewch â’r eitemau hyn i’ch Canolfan Ailgylchu leol mewn cynhwysydd addas:

  • Olewau neu frasterau hylifol

Rhowch yr eitemau hyn yn eich sach goch ar gyfer metelau, plastigion a chartonau:

  • Podiau coffi