Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Diweddarwyd y dudalen ar: 25/07/2024
Rydym wedi sefydlu ‘Tasglu’ gyda’r bwriad o oruchwylio’r gwaith o adfywio canol trefi. Mater allweddol y mae'r Tasglu wedi bod yn ceisio mynd i'r afael ag ef yw nifer yr unedau manwerthu gwag yng nghanol trefi. Nodir y cyfraniad posibl y gallai newid mewn polisi cynllunio ei wneud i hwyluso buddsoddiad a helpu i gymell datblygiad.
Mae'r Gorchmynion Datblygu Lleol yn cydnabod rôl symud canol y dref i fod yn gyrchfan ac amgylchedd byw yn ogystal â chanolfan fanwerthu. Mae'n ceisio cyflwyno trefn gynllunio ganiataol a fyddai'n caniatáu i newidiadau defnydd penodol ddigwydd heb i'r ymgeisydd orfod gwneud cais am ganiatâd cynllunio.
Mae gennym LDO yn y canol trefi a ganlyn:
- Rhydaman
- Caerfyrddin
Mewn perthynas â GDLl Canol Tref Llanelli a gaeodd ar 28/2/2022 - gall y rheini sydd â Thystysgrifau Cydymffurfio eisoes yn eu lle cyn y dyddiad cau wneud cais am Gymeradwyaeth Hysbysiad Cychwyn yn unol ag unrhyw amodau a nodir ar eu Tystysgrifau Cydymffurfio.
Proses sy'n cynnwys dau gam yw hon. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ymgeiswyr gael Tystysgrif Cydymffurfiaeth ac yna Cymeradwyaeth Hysbysiad Cychwyn.
P'un ai i Dystysgrif Cydymffurfiaeth gael ei chyflwyno ai peidio, ni all cynigion ddechrau tan i Gymeradwyaeth Hysbysiad Cychwyn gael ei chyflwyno gennym ni. Anogir ymgeiswyr i gysylltu â ni cyn gwneud unrhyw gyflwyniadau.
Mae cyflwyno Tystysgrif Cydymffurfiaeth dim ond yn cadarnhau bod y cynnig yn cydymffurfio â'r agweddau cynllunio. Mae'n bosibl y bydd amodau mewn perthynas â rheoliadau eraill, er enghraifft rheoliadau adeiladu, yn cael eu cadw yn ôl a byddai angen bod yn fodlon ar y rhain cyn cyflwyno Cymeradwyaeth Hysbysiad Cychwyn.
Bydd angen i'r holl gyflwyniadau gael eu gwneud yn uniongyrchol i ni gan na all y rhain gael eu cyflwyno drwy'r Porth Cynllunio neu Gais Cynllunio Cymru.
Mae'r ffurflenni cais (fersiynau pdf y gellir eu newid) ar gael i'w lawrlwytho. Cyflwynwch eich cais wedi'i gwblhau at: regplanningregistrations@sirgar.gov.uk
- Y ffi ar gyfer cyflwyno cais am Dystysgrif Cydymffurfiaeth yw £90.00.
- Ni chodir tâl am gyflwyno cais am Gymeradwyaeth Hysbysiad Cychwyn.
Mae'n rhaid cyflwyno'r ffi gywir gyda'ch cais neu fel arall ni fydd yn ddilys ac ni chaiff unrhyw waith ei wneud o ran prosesu ac asesu eich cais.
I dalu bydd angen i chi ddarparu'r manylion canlynol:
- Math o gais e.e. cais cynllunio
- Cyfeirnod y cais (neu enw a lleoliad y cais os nad oes gennych gyfeirnod eto)
- Y ffi ymgeisio gywir (cysylltwch â ni os oes angen esboniad arnoch)
Dros y Ffôn
Rydym yn derbyn cardiau debyd Maestro, Solo neu Visa. Os hoffech siarad ag aelod o staff o'r tîm arianwyr, ffoniwch 01267 228686 yn ystod oriau swyddfa.
Taliadau BACS
Anfonwch neges e-bost at planningregistrations@sirgar.gov.uk i gael rhagor o fanylion.
Ar ôl i ni dderbyn y wybodaeth angenrheidiol, byddwn ni'n ceisio cyflwyno penderfyniad ysgrifenedig ynghylch p'un ai cyflwyno Tystysgrif Cydymffurfiaeth o fewn 28 diwrnod. Cynghorir cyn cyflwyno'r cais hwn, i bartïon sydd â diddordeb gysylltu â'r Gwasanaethau Cynllunio i ganfod unrhyw ofynion a phroblemau posibl.
Mae'n rhaid i newid defnydd arfaethedig ddechrau o fewn 3 blynedd i gyflwyno Tystysgrif Cydymffurfiaeth. Bydd Tystysgrif Cydymffurfiaeth yn cynnwys gofyniad bod y cais am Gymeradwyaeth Hysbysiad Cychwyn yn cael ei dderbyn o fewn 2 flynedd i'r dyddiad cyflwyno.
Na, fodd bynnag bydd cyrff penodol yn cael gwybod am y cynnig.
Bydd pob cais am Orchymyn Datblygu Lleol yn ymddangos ar y rhestr wythnosol.
Sylwch nad yw cael y Dystysgrif Cydymffurfiaeth yn golygu y gallwch chi fynd ati i newid y defnydd. Cyfeiriwch at ‘Sut mae gwneud cais’ os gwelwch yn dda.
Cynllunio
Canllaw Cais Cynllunio
Croeso i'w Hwb cynllunio
Brosiectau Cynllunio Mawr
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig