Newid defnydd (Cynllunio)
Diweddarwyd y dudalen ar: 17/06/2024
Arweiniad i’r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd
Mae'r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd yn ymwneud â'r broses cynllunio gwlad a thref, gan grwpio eiddo a thir i wahanol ddosbarthiadau yn ôl swyddogaeth.
Sut mae cael gwybod dosbarth defnydd eiddo?
Ni ellir dibynnu ar ddefnydd presennol yr eiddo bob amser. Bydd angen sefydlu a oes gan y defnydd presennol y caniatâd gofynnol yn ei le. Gallwch ddefnyddio ein tudalen we “Chwilio am Gais Cynllunio” i weld a yw caniatâd cynllunio wedi’i roi i’r eiddo yn hanesyddol a’r defnydd dan sylw. Os nad ydych yn siŵr, yna fe’ch cynghorir i gyflwyno cais tystysgrif cyfreithlondeb, gan ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl ynglŷn â defnydd yr eiddo ar hyn o bryd ac yn hanesyddol.
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
A yw'r eiddo dan sylw yng Nghanol Tref Rhydaman neu Gaerfyrddin ac a yw'r newid defnydd wedi'i nodi yn y tabl isod? Os felly, gofynnwn i chi wneud cais am ganiatâd o dan y Gorchymyn Datblygu Lleol.
Dosbarthiadau Defnydd yn cael eu hystyried gyda Gorchymyn Datblygu Lleol
Dosbarth Defnydd | Y Llawr Gwaelod | Lloriau Eraill (ac eithrio isloriau) |
A1 Siopau | Oes | Oes |
A2 Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol | Oes | Oes |
A3 Bwyd a Diod - Bwytai a Chaffis | Oes | Oes |
A3 Bwyd a Diod -Sefydliadau Yfed (Dim Clybiau Nos) | Oes | Oes |
A3 Bwyd a Diod -Siopau cludfwyd poeth | Oes | Nac oes |
B1 Busnes (swyddfeydd ac eithrio rhai o fewn A2) | Nac oes | Oes |
C1 Gwestai, tai preswyl a thai llety | Nac oes | Oes |
C3 Anheddau (preswyl yn cynnwys fflatiau) | Nac oes | Oes |
D1 Sefydliadau amhreswyl (Sylwer – mae GDLl yn eithrio Llysoedd Barn, Neuaddau Eglwys a Llyfrgelloedd) | Oes | Oes |
D2Adeiladau ymgynnull a hamdden (Sylwer – mae’r GDLl ond yn caniatáu campfeydd a llecynnau ar gyfer chwaraeon neu hamdden dan do – ac eithrio chwaraeon modur, neu lle defnyddir arfau) | Oes | Oes |
Arall (sui generis) Golchdai a busnesau tacsi yn unig | Oes | Oes |
Ar gyfer pob maes arall:
Nid yw newid defnydd o fewn yr un dosbarth yn ddatblygiad ac felly nid oes angen caniatâd cynllunio [gweler y tabl dosbarthiadau defnydd]. Fodd bynnag, cofiwch y gall amodau fod wedi'u gosod ar rai eiddo pan roddwyd caniatâd yn flaenorol i gyfyngu ar newid defnydd o fewn yr un categori. Gwiriwch ddwywaith unrhyw ganiatâd cynllunio ar gyfer yr eiddo dan sylw cyn newid ei ddefnydd.
Nid yw popeth yn dod o dan y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd, gyda rhai eithriadau nodedig yn cynnwys theatrau, iardiau sgrap, gorsafoedd petrol a chlybiau nos. Gelwir busnesau sydd y tu allan i'r system yn ‘Defnydd unigryw’, sef Lladin am ‘o'i fath ei hun’. Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio er mwyn newid defnydd y rhain, ac yna gofynnwn i chi gyflwyno tystysgrif cyfreithlondeb yn y lle cyntaf. Bydd hyn yn ein galluogi i ganfod a oes angen cais cynllunio ar gyfer y caniatâd angenrheidiol.
Os bydd angen i mi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer newid dosbarth defnydd, sut mae hyn yn cael ei ystyried?
Os bydd angen cais cynllunio, byddwn yn ystyried unrhyw newid defnydd ar sail darparu cydbwysedd addas rhwng ardaloedd preswyl a’r rhai a ddefnyddir eisoes at ddibenion busnes. Bydd datblygiad busnes mewn ardaloedd preswyl yn cael ei asesu i sicrhau na fydd yn creu effaith andwyol ar y gymuned leol.
Er enghraifft, efallai y bydd busnes sy'n gweithredu'n hwyr yn y nos, megis clwb nos, yn cael ei ystyried yn anaddas ar gyfer ardal breswyl oherwydd aflonyddwch sŵn posibl, a gellir gwrthod caniatâd i uned ddiwydiannol o fewn ardal breswyl oherwydd y risg o beiriannau trwm a thraffig yn defnyddio strydoedd preswyl bach.
Bydd y tabl hwn yn eich galluogi i weld beth yw datblygiad a ganiateir o fewn y dosbarth defnydd – nid oes angen cais cynllunio ar gyfer y newid hwn.
Os nad yw'r newid yr ydych yn dymuno ei wneud wedi'i restru fel datblygiad a ganiateir, byddem yn gofyn i chi gyflwyno cais cynllunio llawn.
DOSBARTH DEFNYDD |
DISGRIFIAD |
NEWID A GANIATEIR |
Dosbarth A1 – Siopau | Defnydd ar gyfer pob un neu unrhyw un o'r dibenion canlynol: (a) fel siop, (b) fel warws manwerthu, (c) fel swyddfa bost, (d) ar gyfer gwerthu tocynnau neu fel asiantaeth deithio, (e) ar gyfer gwerthu brechdanau neu fwyd oer arall ar gyfer bwyta oddi ar y safle, (f) ar gyfer trin gwallt, (g) ar gyfer trefnu angladdau, (h) ar gyfer llogi nwyddau domestig neu bersonol, (i) ar gyfer sychlanhau ac ar gyfer golchi neu lanhau dillad neu ffabrigau (ond nid golchdy) | Newid a ganiateir i ddefnydd cymysg at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth A1 ac fel fflat sengl |
Dosbarth A2 – Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol | Defnydd ar gyfer darparu: (a) fel banc, (b) ar gyfer cymdeithasau adeiladu, (c) ar gyfer asiantaethau tai, (d) ar gyfer asiantaethau cyflogaeth, (e) gwasanaethau proffesiynol ac ariannol (ac eithrio gwasanaethau iechyd neu feddygol) |
Newid a ganiateir i Ddosbarth A1 lle mae ffenestr arddangos ar lefel llawr gwaelod Newid a ganiateir i ddefnydd cymysg at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth A2 ac fel fflat sengl Newid a ganiateir i siop Dosbarth A1 ac fel fflat sengl lle mae arddangosfa ar lefel llawr gwaelod |
Dosbarth A3 – Bwyd a diod | Defnydd ar gyfer y canlynol: (a) fel bwyty, (b) fel caffi, (c) ar gyfer siopau cludfwyd poeth, (d) fel tafarn, bar neu sefydliad yfed arall | Newid a ganiateir i Ddosbarth A1 Newid a ganiateir i Ddosbarth A2 |
Dosbarth B1 – Busnes | Defnydd ar gyfer pob un neu unrhyw un o'r dibenion canlynol: (a) swyddfa ac eithrio defnydd o fewn Dosbarth A2, (b) ymchwil a datblygu cynhyrchion neu brosesau, (c) ar gyfer unrhyw broses ddiwydiannol y gellir ei chyflawni mewn unrhyw ardal breswyl heb achosi niwed i amwynder yr ardal | Newid a ganiateir i Ddosbarth B8 yn amodol ar gyfanswm yr arwynebedd llawr heb fod yn fwy na 500 metr sgwâr o’r arwynebedd llawr yn yr adeilad |
Dosbarth B2 – Diwydiannol cyffredinol | Defnydd ar gyfer cynnal proses ddiwydiannol heblaw un sy'n dod o fewn Dosbarth B1 | Newid a ganiateir i Ddosbarth B1 Newid a ganiateir i Ddosbarth B8 Mae newid a ganiateir i Ddosbarth B8 yn amodol ar gyfanswm yr arwynebedd llawr heb fod yn fwy na 500 metr sgwâr o’r arwynebedd llawr yn yr adeilad |
Dosbarth B8 – Storio neu ddosbarthu | Defnydd ar gyfer storio neu fel canolfan ddosbarthu (adeilad neu dir) | Newid a ganiateir i Ddosbarth B1 yn amodol ar gyfanswm yr arwynebedd llawr heb fod yn fwy na 500 metr sgwâr o’r arwynebedd llawr yn yr adeilad |
Dosbarth C1 – Gwestai | Defnydd fel gwesty neu fel llety preswyl neu westy lle, ym mhob achos, ni ddarperir elfen sylweddol o ofal | Dim newid a ganiateir |
Dosbarth C2 – Sefydliadau preswyl | Defnydd ar gyfer darparu llety preswyl a gofal i bobl sydd angen gofal Defnydd fel ysbyty neu gartref nyrsio Defnydd fel ysgol breswyl, coleg neu ganolfan hyfforddi | Dim newid a ganiateir |
Dosbarth C2A – Sefydliadau preswyl diogel | Defnydd ar gyfer darparu llety preswyl diogel, gan gynnwys defnydd fel carchar, sefydliad troseddwyr ifanc, canolfan gadw, canolfan hyfforddi ddiogel, canolfan dalfa, canolfan gadw tymor byr, ysbyty diogel, llety awdurdod lleol diogel, neu ddefnydd fel barics milwrol | Dim newid a ganiateir |
Dosbarth C3 – Tai annedd a ddefnyddir fel unig breswylfeydd neu brif breswylfeydd | Defnydd fel tŷ annedd, fel unig breswylfa neu brif breswylfa ac yn cael ei feddiannu am fwy na 183 o ddiwrnodau mewn blwyddyn galendr gan – (a) person sengl neu gan bobl yr ystyrir eu bod yn ffurfio aelwyd sengl, (b) dim mwy na chwe phreswylydd yn byw gyda’i gilydd fel un aelwyd lle darperir gofal i breswylwyr, (c) dim mwy na chwe phreswylydd yn cyd-fyw fel un aelwyd lle na ddarperir gofal i breswylwyr (ac eithrio defnydd o fewn Dosbarth C4) | Newidiadau a ganiateir i Ddosbarth C5 Newid a ganiateir i Ddosbarth C6 Newid a ganiateir i ddefnydd cymysg sy’n cyfuno defnydd fel tŷ annedd o fewn Dosbarth C3 gyda defnydd sy’n dod o fewn Dosbarth C6 rhwng y dosbarthiadau defnydd newydd C3, C5 ac C6 Newid a ganiateir i ddefnydd cymysg sy’n cyfuno defnydd fel tŷ annedd o fewn Dosbarth C5 gyda defnydd sy’n dod o fewn Dosbarth C6 Ni chaniateir datblygiad os byddai’n arwain at ddefnydd fel dau neu fwy o dai annedd ar wahân sy’n dod o fewn Dosbarth C3, Dosbarth C5 neu Ddosbarth C6 unrhyw adeilad a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel tŷ annedd sengl |
Dosbarth C4 – Tŷ amlfeddiannaeth | Defnydd o dŷ annedd gan ddim mwy na chwe phreswylydd fel “tŷ amlfeddiannaeth”. Mae tai amlfeddiannaeth mawr (o fwy na chwech o bobl) yn annosbarthedig ac felly defnydd unigryw | Newid a ganiateir i Ddosbarth C3 |
Dosbarth C5 – Tai annedd a ddefnyddir heblaw fel unig neu brif breswylfeydd | Defnydd fel tŷ annedd, ac eithrio unig neu brif breswylfa, ac a feddiennir am 183 o ddiwrnodau neu lai gan – (a) person sengl neu gan bobl yr ystyrir eu bod yn ffurfio aelwyd sengl, (b) dim mwy na chwe phreswylydd yn byw gyda’i gilydd fel aelwyd sengl lle darperir gofal i breswylwyr, neu (c) dim mwy na chwe phreswylydd yn cyd-fyw fel un aelwyd lle na ddarperir gofal i breswylwyr (ac eithrio defnydd o fewn Dosbarth C4) | Newid a ganiateir i Ddosbarth C3 Newid a ganiateir i Ddosbarth C6 Newid a ganiateir i ddefnydd cymysg sy’n cyfuno defnydd fel tŷ annedd o fewn Dosbarth C5 gyda defnydd sy’n dod o fewn Dosbarth C6 Newid a ganiateir i ddefnydd cymysg sy’n cyfuno defnydd fel tŷ annedd o fewn Dosbarth C3 gyda defnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C6 Ni chaniateir datblygiad pe bai’n arwain at ddefnydd fel dau neu fwy o dai annedd ar wahân sy’n dod o fewn Dosbarth C3, Dosbarth C5 neu Ddosbarth C6 unrhyw adeilad a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel tŷ annedd sengl |
Dosbarth C6 – Gosodiadau tymor byr | Defnydd o dŷ annedd ar gyfer gosod masnachol tymor byr heb fod yn hwy na 31 diwrnod ar gyfer pob cyfnod preswylio | Newid a ganiateir i Ddosbarth C3 Newid a ganiateir i Ddosbarth C5 Newid a ganiateir i ddefnydd cymysg sy’n cyfuno defnydd fel tŷ annedd o fewn Dosbarth C3 gyda defnydd sy’n dod o fewn Dosbarth C6 Newid a ganiateir i ddefnydd cymysg sy’n cyfuno defnydd fel tŷ annedd o fewn Dosbarth C5 gyda defnydd sy’n dod o fewn Dosbarth C6 Ni chaniateir datblygiad pe bai’n arwain at ddefnydd fel dau neu fwy o dai annedd ar wahân sy’n dod o fewn Dosbarth C3, Dosbarth C5 neu Ddosbarth C6 unrhyw adeilad a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel tŷ annedd sengl |
Dosbarth D1 – Sefydliadau dibreswyl | Unrhyw ddefnydd heb gynnwys defnydd preswyl: (a) ar gyfer darparu unrhyw wasanaethau meddygol neu iechyd ac eithrio defnyddio mangre sydd ynghlwm wrth breswylfa'r ymgynghorydd neu'r ymarferydd, (b) fel crèche, meithrinfa ddydd neu ganolfan ddydd, (c) ar gyfer darparu addysg, (d) ar gyfer arddangos gweithiau celf (ac eithrio ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi), (e) fel amgueddfa, (f) fel llyfrgell gyhoeddus neu ystafell ddarllen gyhoeddus, (g) fel neuadd gyhoeddus neu neuadd arddangos, (h) ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag, addoliad cyhoeddus neu addysg grefyddol, (i) fel llys barn | Dim newid a ganiateir |
Dosbarth D2 – Ymgynnull a hamdden | Defnydd fel: (a) sinema, (b) neuaddau cyngerdd, (c) neuadd bingo (d) casino, (e) neuadd ddawns, (f) pwll nofio, llawr sglefrio, campfa, neu ar gyfer chwaraeon neu weithgareddau hamdden eraill dan do ac awyr agored nad ydynt yn ymwneud â cherbydau modur neu ddrylliau | Dim newid a ganiateir |
Defnydd unigryw – dim dosbarth wedi'i nodi | Yn cynnwys: (a) fel tai amlfeddiannaeth mawr (mwy na chwech o bobl yn rhannu), (b) fel theatr, (c) fel arcedau difyrrwch neu ffair hwyl, (d) fel golchdy, (e) ar gyfer gwerthu tanwydd ar gyfer cerbydau modur, (f) ar gyfer gwerthu neu arddangos cerbydau modur i'w gwerthu, (g) ar gyfer busnes tacsis neu logi cerbydau, (h) fel hostel, (i) fel iard sgrap, (j) ar gyfer unrhyw waith y gellir ei gofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio Gwaith Alcali etc. 1906 fel gosodiad gwaredu gwastraff, (k) fel swyddfa fetio |
Cynllunio
Canllaw Cais Cynllunio
- Syniad Datblygu
- A oes arnaf angen Asiant Cynllunio?
- Gwybodaeth Allweddol
- Cam Cyn Ymgeisio
- Math o Gais Cynllunio
- Cyflwyno Cais
- Dilysu
- Cais Byw
- Pwyllgor Cynllunio
- Apeliadau
- Compliance / Enforcement
- Cwblhau Datblygiad
Brosiectau Cynllunio Mawr
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwiliwch am gais cynllunio
Torri rheolau cynllunio
Newid defnydd (Cynllunio)
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Systemau Draenio Cynaliadwy
Gwnewch gais am arian Adran 106
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
- Ardaloedd Cadwraeth
Cadwraeth a chefn gwlad
Enwi a rhifo strydoedd
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Archwiliad Annibynnol
- Dogfennau Cyflwyno
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Ail Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Ynni Adnewyddadwy
Cynllunio Ecoleg
Targedau ffosffad newydd
- Pa gamau ydym wedi eu cymryd?
- Cyfrifiannell Gorllewin Cymru
- Mesurau Lliniaru
- Y Camau Nesaf
- Cwestiynau Cyffredin Ffosfad
- Prosiect Dalgylch Arddangos Teifi
- “Effaith canllawiau CNC ar Asesiadau Amonia”
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
- Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
- Sefyllfa Byd Natur yn Sir Gaerfyrddin
Gwastraff
Mwy ynghylch Cynllunio