Gwnewch gais am arian Adran 106
Diweddarwyd y dudalen ar: 25/01/2023
I fod yn gymwys i gael cyllid Adran 106 mae'n rhaid i brosiect ddarparu gwell seilwaith cymunedol neu gymdeithasol neu fwy ohono (megis prosiectau llecynnau glas a chyfleusterau cymunedol) y mae'r angen am hynny wedi codi, o leiaf yn rhannol, yn sgil datblygiad newydd. Rhaid i'r cyfleusterau a ddarperir fod ar agor i'r cyhoedd a bod o fudd i'r cyhoedd a'r gymuned.
Gall pob mudiad sefydliad cymunedol sy'n gweithredu ar sail ddielw yn Sir Gaerfyrddin wneud cais am gyllid.
Os yw'ch cais yn llwyddiannus bydd swm y cyllid a ddyfernir yn dibynnu ar faint o arian Adran 106 sydd ar gael ar gyfer i'ch cymuned. Gellir darparu 100% o gostau prosiectau os bydd digon o arian ar gael. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr i geisio arian cyfatebol gan gyrff grantiau a ffynonellau cymunedol eraill lle bo modd fel y gall arian Adran 106 gefnogi cynifer o brosiectau lleol â phosibl.
Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol fel rhan o'ch cais:
- Manylion y prosiect
- Sut defnyddir yr arian adran 106
- Manteision y prosiect i'r gymuned
- A yw wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Tref/Cymuned neu Gynghorydd Lleol
- Manylion y sefydliad a'r prif gyswllt ar gyfer y cais
- Costau'r prosiect, ffynonellau o gyllid a chynaliadwyedd/cynnal a chadw
I wneud cais am gyllid Adran 106, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais a'i dychwelyd at biwro@sirgar.gov.uk.
Cynllunio
Canllaw Cais Cynllunio
Croeso i'w Hwb cynllunio
Brosiectau Cynllunio Mawr
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig