Ymestyn / newid eich cartref
8. Newidiadau i adeilad rhestredig
Os ydych yn berchen ar adeilad rhestredig, mae dyletswydd gyfreithiol arnoch chi i'w gynnal a chadw ac mae yna ofynion ychwanegol ar gyfer unrhyw newidiadau yr hoffech eu gwneud.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi adroddiadau newydd yn ddiweddar am iechyd ardaloedd morol gwarchodedig o amgylch Sir Gaerfyrddin. Gelwir yr ardaloedd hyn yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac yn Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), ac maent yn bwysig ar gyfer gwarchod bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol.
Oherwydd y wybodaeth newydd hon, bydd yn rhaid i ni nawr wirio'n ofalus yr holl geisiadau cynllunio sydd eto i'w penderfynu yn yr ardaloedd hyn yr effeithir arnynt.
Bydd pob cais newydd hefyd yn cael ei asesu yn erbyn y wybodaeth newydd.
Proses dros dro yw hon wrth inni aros am ragor o ganllawiau gan CNC.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan CNC: Cyfoeth Naturiol Cymru / Asesiadau cyflwr ar gyfer safleoedd morol Ewropeaidd Cymru (EMS)
Byddwn yn darparu diweddariadau pellach cyn gynted ag y byddant ar gael.
Os ydych yn berchen ar adeilad rhestredig, mae dyletswydd gyfreithiol arnoch chi i'w gynnal a chadw ac mae yna ofynion ychwanegol ar gyfer unrhyw newidiadau yr hoffech eu gwneud.