Gwneud Cais am Chwiliad Priffyrdd
Gofynnir am chwiliad priffyrdd fel arfer pan fydd eiddo neu dir yn cael ei brisio, ei brynu neu ei brydlesu. Gall y cais ddod gan gyfreithiwr neu gan gwmni chwilio trydydd parti.
Bydd chwiliad priffyrdd safonol yn darparu gwybodaeth am y canlynol mewn perthynas ag eiddo neu ffordd benodol:
- Statws priffordd ffyrdd a enwir
- Cynlluniau ffyrdd (o fewn 200m)
- Cynlluniau traffig
- Hysbysiadau sydd heb ddod i ben sy'n ymwneud â phriffyrdd
- Gorchmynion prynu gorfodol
I wneud cais am Chwiliad Priffordd, bydd angen y canlynol arnoch:
- Gwybodaeth Bersonol
- Manylion y Chwiliad
- Cyfeiriad neu leoliad yr eiddo neu'r tir
- 'Dwyreiniol' a 'Gogleddol' neu Gyfeirnod Grid Cenedlaethol ar gyfer yr eiddo y mae angen y chwiliad ar ei gyfer
- Fanylion am ba ffyrdd sydd o ddiddordeb i chi
Cwestiynau Cyffredin am Chwiliadau Priffyrdd
Maint priffyrdd yw lled bras priffordd gyhoeddus, mae’r wybodaeth yn cael ei chadarnhau o wahanol gofnodion a gedwir gan yr Awdurdod Lleol.
Mae cynllun Arolwg Ordnans yn cyfeirio at fap manwl o'r Arolwg Ordnans sy'n darparu gwybodaeth am nodweddion ffisegol y tir dan sylw. Mae pob map yn cynnwys y raddfa ar y blaen gyda'r raddfa safonol yn 1:1250 neu 1:2500.
Pethau i'w gwneud:
- Byddwch yn benodol. Os oes angen chwiliad priffyrdd arnoch am ffordd/priffordd benodol, rhowch enw'r ffordd (dim ond hyd at 3 ffordd ychwanegol).
- Cyflwynwch gynllun priodol (graddfa ddelfrydol 1:1250 neu 1:2500).
- Darparwch unrhyw wybodaeth ychwanegol a allai helpu eich cais.
- Rhaid cyflwyno POB cais am chwiliad priffyrdd personol drwy'r ffurflen ar-lein:
Pethau i beidio â’u gwneud:
- Peidiwch â chyflwyno nifer o geisiadau am yr un eiddo os nad ydych wedi clywed gennym ni ar unwaith, byddwch yn cael gwybod os oes oedi gyda'ch cais am chwiliad.
- Peidiwch â llwytho gwybodaeth amherthnasol. Nid oes yn rhaid i chi lwytho 3 dogfen os nad oes eu hangen. Er mwyn sicrhau effeithlonrwydd wrth brosesu ceisiadau, cyflwynwch wybodaeth sy'n berthnasol i'ch cais yn unig.
Ar hyn o bryd, gofynnwn i bob cais chwiliad priffyrdd gael ei gyflwyno'n unigol gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein. Mae'r dull hwn yn ein helpu i sicrhau bod y data a gasglwn yn gywir ac wedi'i gysylltu'n glir â phob cais penodol. Mae hefyd yn caniatáu inni brosesu ac ymateb i ymholiadau yn fwy effeithlon a chyson.
Rydym yn ceisio ymateb i bob cais o fewn 20 diwrnod gwaith.