19 Cysgod Y Gors,Gorslas
19 Cysgod Y Gors, Gorslas, Llanelli, SA14 7NW

£106,964

Manylion Allweddol

Mae'r eiddo wedi'i adeiladu trwy ddulliau traddodiadol ac mae ganddo waliau ag wyneb brics o dan do teils.

Mae gan yr eiddo ffenestri gwydr dwbl UPVC a gwres canolog trydanol. Mae gan yr eiddo 2 le parcio dynodedig ar yr ochr a gardd gefn amgaeedig. 

Mae'r datblygiad hwn ger Cross Hands, lle y mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael, sy'n cynnwys siopau manwerthu, sinema, canolfannau meddygol a deintyddol a champfa. 

Mae cysylltiadau ffordd gwych lle bydd gennych fynediad i'r A48 a'r M4. Mae Llanelli, Abertawe a Chaerfyrddin oll o fewn pellter teithio hawdd, ac felly mae'r lleoliad hwn yn un delfrydol.

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein meini prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi. 

Enwebir prynwyr ar gyfer y cartref hwn ar ôl 20 Rhagfyr 2026.

I gael rhagor o wybodaeth am yr eiddo anfon e-bost at affordablehomes@carmarthenshire.gov.uk

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.