Landlordiaid

Pa un a ydych yn berchen ar gartref yr hoffech ei rentu, neu'n edrych ar fuddsoddi mewn eiddo prynu i osod, rydym yn hapus i'ch cynghori o ran y rheolau a'r rheoliadau sy'n rhaid ichi gydymffurfio â nhw er mwyn rhentu'n ddiogel i denantiaid.

Mae'n bosibl y gallwn gynnig cymhellion ichi yn gyfnewid am ddarparu tai fforddiadwy o safon i bobl sydd, ar hyn o bryd, ar ein cofrestr tai cymdeithasol a'r rheiny sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Yn ogystal gallem eich helpu i reoli eich eiddo a'ch tenantiaethau drwy ein Hasiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol.