Troi allan eich tenant neu anghydfodau

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/08/2023

Caiff eich tenantiaid eu gwarchod o dan Ddeddf Gwarchod rhag Dadfeddiannu 1977, sy’n datgan ei bod yn drosedd i chi eu troi allan heb ddilyn y weithdrefn gyfreithiol gywir.  Mae’r Ddeddf hefyd yn pennu ei bod hi’n drosedd i chi, eich asiant neu unrhyw berson arall aflonyddu ar eich tenant gyda’r bwriad o beri iddo adael eich cartref. Os caiff landlordiaid eu herlyn gallent wynebu dirwy sylweddol gan y llys ac mewn rhai achosion gallent wynebu dedfryd o garchar.

Os hoffech gyngor ynghylch y ffordd briodol o droi allan eich tenant, cysylltwch â ni i drafod y mater. Efallai y bydd modd i ni eich helpu mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft y gwaith clirio gan y Cyngor neu holl ôl-ddyledion rhent y tenant os byddech yn fodlon iddo aros a bod y rhent yn fforddiadwy.

Troi Allan

Os oes gennych denant anodd a’ch bod yn dymuno ei droi allan mae’n rhaid i chi ddilyn y broses gyfreithiol gywir a chyflwyno’r hysbysiad priodol iddo. Bydd hyn yn dibynnu ar y canlynol:

  • Faint o amser y mae eich tenant wedi bod yn byw yn yr eiddo a chyfnod y cytundeb gwreiddiol h.y. o leiaf chwe mis. I ddod â thenantiaeth i ben cyn pen y chwe mis cyntaf, neu’r cyfnod a bennwyd yn y cytundeb gwreiddiol, mae’n rhaid i chi gyflwyno Hysbysiad Adran 8 o dan Ddeddf Tai 1988 ac yna mynd i’r llys.
  • Pan ddaw’r cyfnod byrddaliad sicr i ben, bydd y denantiaeth yn troi’n awtomatig yn ‘denantiaeth gyfnodol statudol’ a fydd yn parhau o’r naill gyfnod rhent i’r llall. Mae’n rhaid i chi roi o leiaf ddeufis o rybudd (ac nid wyth wythnos) yn nodi eich bod am feddiannu’r eiddo. Mae’n rhaid i’r rhybudd gael ei roi cyn y cyfnod rhent nesaf a rhaid iddo ddod i ben o leiaf ddeufis yn ddiweddarach ond ar y diwrnod cyn bod y taliad rhent nesaf yn ddyledus.   
  • Os nad yw’r tenant yn gadael mae’n rhaid i chi gyflwyno cais i’r llys sirol am feddiant a rhoi tystiolaeth. Gallwch hefyd wneud cais am unrhyw gostau y mae’n rhaid i chi eu talu ac unrhyw rent yr ydych wedi’i golli etc.
  • Os ydych yn gweithredu Tŷ Amlfeddiannaeth nad yw’n drwyddedig, neu os nad ydych wedi rhoi blaendal eich tenant mewn cynllun ardystiedig, ni fydd modd i chi gyflwyno hysbysiad dilys i’ch tenant.

Mae enghreifftiau cyffredin o droi allan anghyfreithlon yn cynnwys:

  • Cloi allan eich tenant
  • Amddifadu eich tenant o ddefnyddio ystafell sy’n cael ei rhannu â phobl eraill fel arfer e.e. cegin neu ystafell fyw
  • Amddifadu eich tenant o ran o’r eiddo o ganlyniad i waith adeiladu.

Aflonyddu

Oni bai y gallwch brofi bod gennych reswm da dros wneud hynny, mae’n drosedd i chi neu eich asiantwyr:

  • Amharu ar heddwch a chysur eich tenantiaid
  • Tynnu gwasanaethau angenrheidiol yn ôl oddi wrth bobl sy’n byw yn eich eiddo (mae gwasanaethau angenrheidiol yn cynnwys dŵr, nwy a thrydan neu lifftiau mewn bloc o fflatiau)
  • Ymddwyn mewn modd sy’n achosi i’ch tenantiaid adael eich eiddo neu sy’n eu hatal rhag arfer eu hawliau.

Os bydd tenant yn honni eich bod yn aflonyddu arno, byddwn yn ceisio helpu i unioni’r sefyllfa, os yw hynny’n briodol. Os bydd tystiolaeth ddigonol mae’n bosibl y byddwn yn ystyried cychwyn erlyniad troseddol ac yn gofyn i’ch tenant fynd i’r llys i roi tystiolaeth. Os bydd yr erlyniad yn llwyddiannus gallech wynebu dirwy neu gyfnod yn y carchar, a fyddai’n arwain at gofnod troseddol.