Twristiaeth
Fe gyfrannodd y diwydiant twristiaeth £731m i economi Sir Gâr yn 2024, gan gyflogi dros 6,656 o bobl. Mae'r Cyngor Sir yn rhanddeiliad pwysig wrth dyfu'r sector yn gynaliadwy, gan weithredu fel y corff statudol ar gyfer gwasanaethau fel cynllunio, iechyd y cyhoedd a phriffyrdd, yn ogystal â nifer o gyfleusterau ymwelwyr a hamdden fel theatrau, traethau, pyllau nofio a pharciau gwledig. Rydym hefyd yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o'r Sir fel cyrchfan i dwristiaid, gan ddarparu gweithgareddau marchnata i gefnogi partneriaid fel Croeso Cymru a Croeso Prydain.