Pwy yw pwy yn nhwristiaeth y DU a Chymru

Diweddarwyd y dudalen ar: 18/01/2024

Rydym yn darparu ystod o wasanaethau o dan adain y cynghorwyr sir etholedig yn Sir Caerfyrddin. Ymhlith y gwasanaethau hynny y mae addysg, cynllunio, trafnidiaeth, gwasanaethau cymdeithasol a diogelwch y cyhoedd. Mae'r cyngor ymhlith y ddau ar hugain o awdurdodau unedol yng Nghymru. Mae nifer o wasanaethau'r cyngor yn effeithio ar yr economi twristiaeth ac yn cyfrannu ati; mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys ffyrdd a phriffyrdd, cadw'r strydoedd yn daclus, cynnal atyniadau mawr i ymwelwyr, o ddydd i ddydd, megis Parc Gwledig Pen-bre, a chyflawni datblygiadau mwy ar lan y môr ym Mhentywyn er enghraifft. Rydym hefyd yn cynnal ymgyrchoedd marchnata, yn darparu data a gwaith ymchwil i gynorthwyo datblygiadau twristiaeth ac mae yma ganolfan wybodaeth i ymwelwyr yng Nghaerfyrddin.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag ystod o sefydliadau, gan sicrhau bod y Sir yn cael cynrychiolaeth gadarnhaol, ac ychwanegu gwerth a chael budd lle bo'n bosibl. Rydym wedi eu rhestru isod fel y gallwch chi hefyd elwa o'u gwasanaethau.