Dŵr ymdrochi
Diweddarwyd y dudalen ar: 22/09/2026
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn monitro ansawdd dŵr yn y dyfroedd ymdrochi dynodedig ar draethau Pen-bre a Phentywyn, yn ogystal â'r dŵr ymdrochi afon dynodedig ger Pont Siglo Llandeilo.
Mae canlyniadau samplu ansawdd dŵr yn cael eu cyhoeddi gan CNC drwy gydol y tymor ymdrochi. Mae'r wybodaeth isod yn dangos y dosbarthiad ansawdd dŵr diweddaraf sydd ar gael ar gyfer pob lleoliad ac a yw'n bodloni'r safonau a nodir yn y Cyfarwyddebau Dŵr Ymdrochi (76/160/EEC a 2006/7/EC).
Gwybodaeth am Ansawdd Dŵr
Sylwer: Mae'r wybodaeth am ansawdd dŵr sydd ar y dudalen hon yn dod yn uniongyrchol o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Er bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn anelu at sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf ar gael cyn gynted â phosibl, efallai y bydd oedi o bryd i'w gilydd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn a dilysu canlyniadau monitro a'r canlyniadau hynny yn ymddangos ar eu gwefan.
Pan fydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn derbyn hysbysiadau ansawdd dŵr yn uniongyrchol gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi ar-lein, byddwn yn rhoi crynodeb o'r diweddariadau hynny isod i helpu i roi gwybod i ymwelwyr.
Y Wybodaeth Ddiweddaraf gan Cyfoeth Naturiol Cymru
"Ar hyn o bryd nid oes unrhyw wybodaeth ychwanegol i'w hadrodd. Gweler y tabl gwybodaeth ansawdd dwr isod i gael y canlyniadau diweddaraf."
Cyn i chi fynd i mewn i'r Dŵr
Gall ansawdd dŵr newid yn gyflym, yn enwedig yn dilyn cyfnodau o law trwm. Mae canlyniad ansawdd dŵr ffafriol yn adlewyrchu amodau ar adeg samplu yn unig ac ni ddylid ei ystyried fel gwarant bod amodau'n parhau i fod yn ddigyfnewid.
Dylai ymdrochwyr:
- Bwrw golwg ar broffil dŵr ymdrochi diweddaraf CNC cyn taro ymweliad.
- Bod yn ymwybodol o unrhyw rybuddion llygredd, cyngor rhag ymdrochi neu hysbysiadau am sefyllfa annormal.
- Ystyried amodau tywydd diweddar, yn enwedig glaw trwm, a all effeithio ar ansawdd dŵr arfordirol ac afonydd.
- Gwneud eu hasesiad eu hunain o'r amodau cyn mynd i mewn i'r dŵr.
Gwybodaeth Bwysig
Nid yw ansawdd dŵr ymdrochi a diogelwch dŵr yr un peth. Mae dŵr ymdrochi dynodedig yn ymwneud â monitro ansawdd dŵr ac nid yw'n nodi nad yw'r lleoliad heb beryglon ffisegol nac yn cael ei oruchwylio gan achubwyr bywyd. Dylai ymwelwyr bob amser ddilyn cyngor diogelwch lleol, sylwi ar arwyddion rhybuddio a chymryd cyfrifoldeb am eu diogelwch eu hunain.
