Gerddi sydd wedi gordyfu

Nid yw gerddi sydd wedi gordyfu, yn y rhan fwyaf o achosion, yn achosi nac yn creu niwsans i iechyd y cyhoedd neu broblem iechyd yr amgylchedd ac, er eu bod yn edrych yn annymunol, ni fydden nhw fel arfer yn cyfiawnhau cymryd camau gweithredu gan y Cyngor.

Gallwch dorri llystyfiant sydd wedi gordyfu o erddi eich cymydog, ond dim ond i'r ffin sy'n rhedeg rhwng eich eiddo chi ac eiddo eich cymydog. Fodd bynnag, byddem yn eich cynghori i siarad â'ch cymydog yn gyntaf i drafod unrhyw faterion a cheisio dod o hyd i ddatrysiad addas cyn torri llystyfiant.

Efallai bod eich cymydog yn cael trafferth ymdopi â'r ardd a byddai'n gwerthfawrogi rhywfaint o gymorth, efallai gennych chi neu efallai gan elusennau lleol neu grwpiau gwirfoddol.

Mae difrod a achosir gan lystyfiant sydd wedi gordyfu (fel difrod i ffensys ffiniau) yn fater sifil a dylech gael cyngor cyfreithiol annibynnol os yw hyn yn wir. Nid yw'r Cyngor yn gallu helpu â'r materion hyn.

Os ydych chi'n torri unrhyw lystyfiant sydd wedi gordyfu, eich cyfrifoldeb chi yw ei waredu, oni bai bod eich cymydog wedi gofyn amdano yn ôl. Os ydych chi'n taflu unrhyw beth a dorrwyd dros ffens eich cymydog, gellid ystyried hyn yn dipio anghyfreithlon.

Gall gerddi sydd wedi gordyfu weithiau ddarparu hafan i blâu fel llygod mawr a bach yn y tymor byr. Fodd bynnag, nid yw hyn fel arfer yn arwain at bla parhaus neu hirdymor a fyddai'n cael ei ystyried yn fater iechyd y cyhoedd. Bydd cnofilod yn aml yn ymweld â'r rhan fwyaf o erddi neu'n pasio drwyddynt, boed wedi gordyfu neu beidio, wrth iddyn nhw deithio rhwng safleoedd bwydo neu nythu neu wrth iddyn nhw grwydro. Nid yw eu gweld o reidrwydd yn golygu bod yna broblem a fydd yn dod yn broblem fwy neu'n gofyn am gymryd unrhyw gamau gweithredu.

Os ydych chi'n credu bod gennych lygod mawr neu lygod bach ar eich eiddo, efallai yr hoffech gysylltu â gwasanaeth rheoli plâu, a fydd yn gallu cynnig cyngor ar sut i'w trin.Os oes gennych dystiolaeth i gefnogi eu bod yn dod o'r eiddo cyfagos, rhowch wybod i ni fel y gallwn ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau gweithredu.

Efallai y bydd yr adran Gynllunio yn gallu helpu os yw'r tir sydd wedi gordyfu yn effeithio ar amwynder yr ardal, yn dibynnu ar amgylchiadau'r achos. Gallwch roi gwybod am broblem i'r Adran Gynllunio drwy ddilyn y ddolen isod.

https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/cynllunio/torri-rheolau-cynllunio/ 

Mewn perthynas â chwyn ymledol, fel Clymog Japan, nid ydym yn delio â'r mater hwn nac yn darparu cyngor. Byddai hwn yn fater preifat rhwng y parti yr effeithir arno a'r tirfeddiannwr, a gellir dod o hyd i gyngor pellach drwy fynd i: 

https://www.gov.uk/guidance/prevent-the-spread-of-harmful-invasive-and-non-native-plants