Lles anifeiliaid
Diweddarwyd y dudalen ar: 30/10/2024
Mae amrywiaeth eang o ddeddfwriaeth yn y DU sydd â'r nod o ddiogelu iechyd a lles anifeiliaid domestig ac anifeiliaid gwyllt.
Rydym yn gorfodi deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid ochr yn ochr ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Weithiau, byddwn yn cynnwys cyrff eraill y llywodraeth a sefydliadau annibynnol megis yr RSPCA.
Rydym ni'n gyfrifol am ac yn ymateb i atgyfeiriadau cyhoeddus ym mhob un o'r meysydd hyn:
- Archwilio anifeiliaid ar ffermydd
- Archwilio anifeiliaid mewn marchnadoedd da byw, lladd-dai, ierdydd naceriaid, cynelau hela a digwyddiadau anifeiliaid trwyddedig
- Archwilio cerbydau sy'n cludo anifeiliaid
- Gorfodi amrywiaeth o ddeddfwriaeth wrth wneud ymweliadau o'r fath gan gynnwys deddfwriaeth yn ymwneud â rheoli clefydau, adnabod anifeiliaid, symud anifeiliaid, bioddiogelwch, lles anifeiliaid a sgil-gynhyrchion anifeiliaid
- Cofrestru anifeiliaid perfformio
- Monitro anifeiliaid sy'n cael eu mewnforio'n anghyfreithlon a chymryd camau gorfodi ynghylch hyn
- Trwyddedu sefydliadau marchogaeth ceffylau, bridio cŵn a lletya anifeiliaid
- Anifeiliaid gwyllt peryglus
- Rheoli cŵn strae
- Rheoli sŵn (cŵn yn cyfarth a sŵn gan anifeiliaid eraill)
Cŵn peryglus - Deddf Anifeiliaid Anwes 1951
DEFRA
Mae DEFRA yn gyfrifol am:
- Y strategaeth iechyd a lles anifeiliaid genedlaethol
- Masnach ryngwladol mewn anifeiliaid
- Cadwraeth bywyd gwyllt a bioamrywiaeth
- Troseddau bywyd gwyllt (mae'r heddlu'n ymwneud â hyn hefyd)