Map a Data Gwrthdrawiadau
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Mae hwn yn map ar-lein am ddim, mae'n arddangos data or 5 mlynedd diwethaf. Caiff data am wrthdrawiadau ei gyhoeddi bob blwyddyn tua mis Mai gan yr Adran Drafnidiaeth.
Ni fydd pob un gwrthdrawiad a ddigwyddodd yn ein sir yn cael ei gofnodi ar y map; os nad oedd gwrthdrawiad wedi arwain at anaf personol a/neu ni chafodd ei riportio i'r heddlu, ni fydd yn cael ei gofnodi yn y set ddata hon fel y nodir yng nghanllawiau yr Adran Drafnidiaeth.
Mae lleoliadau'r gwrthdrawiadau a welwch ar y map yn cael eu cofnodi gan Heddlu Dyfed-Powys.
Os ydych yn credu bod gwrthdrawiad wedi'i nodi'n anghywir, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost.
Ceisiadau am ddata ynghylch gwrthdrawiadau
Cewch bris wrth wneud cais, bydd hyn yn amrywio ac yn dibynnu ar y math o ddata y gofynnir amdano a faint ohono.
Bydd anfoneb yn cael ei hanfon drwy e-bost i'r cyfeiriad a ddarperir, gan ofyn am daliad cyn rhyddhau'r data gwrthdrawiadau.
I wneud cais am blot ac adroddiad anfonwch e-bost atom gyda'r wybodaeth ganlynol
- Enw Cyswllt
- Enw'r Cwmni (os yw'n berthnasol)
- Cyfeirnod yr archeb ar gyfer anfoneb (os yw'n berthnasol)
- Cyfeiriad
- Rhif ffôn
- Disgrifiad byr o'r ardal sydd o ddiddordeb
- Atodi map sy'n dangos faint o'r ardal y dylid ei chynnwys
- Rheswm dros y cais
- Cyfnod amser i'w gynnwys
Bydd eich cais yn cael ei brosesu o fewn 2 wythnos.
Priffyrdd, Teithio a Pharcio
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Tywydd Garw
Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd
Ymgeisio am...
Gwneud Cais am Chwiliad Priffyrdd
Gwasanaethau bws
Bws Bach y Wlad
Rhannu ceir
Tocyn teithio consesiwn
Ceir Cefn Gwlad
Seilwaith Cerbydau Trydan
Graeanu
Mwy ynghylch Priffyrdd, Teithio a Pharcio