Hysbysiadau Tâl Cosb

Mae Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor yn mynd ar batrôl o amgylch y dref i atal gyrwyr rhag cyflawni tramgwyddau parcio ac i gadw Sir Gaerfyrddin yn symud.

Mae yna hefyd Gerbyd Gorfodi Parcio. Mae'r cerbyd gorfodi parcio wedi'i nodi'n glir. Mae ganddo gamera a thechnoleg adnabod platiau rhif yn awtomatig (ANPR) i ddal unrhyw drosedd parcio.

Mae camerâu sefydlog wedi'u gosod mewn lleoliadau amrywiol ar draws Sir Gaerfyrddin i fonitro a dal troseddau traffig.

Bydd unrhyw gerbydau y canfyddir eu bod yn torri rheolau parcio neu draffig Sir Gaerfyrddin yn cael Hysbysiad Tâl Cosb (HTC).

Y gosb fydd naill ai £50.00 neu £70.00 yn dibynnu ar y math o drosedd. Bydd hyn yn cael ei leihau 50% os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod.

Os byddwch yn derbyn HTC yna mae'n rhaid i chi benderfynu a ydych am dalu’r gosb ynteu apelio.

Os byddwch yn anwybyddu'r HTC yna bydd y gosb yn cynyddu a bydd y Cyngor yn gwneud cais i gofrestru'r swm sy'n weddill gyda'r Ganolfan Gorfodi Traffig fel dyled, fydd wedyn yn mynd yn adenilladwy fel pe bai'n daladwy dan orchymyn llys sirol. Bydd hyn yn achosi costau cyfreithiol pellach.

Talu dirwy parcio NEU TRAFFIG Gwrthwynebu HTC

Os ydych yn teimlo eich bod wedi cael dirwy barcio neu draffig yn anghywir ac yn dymuno herio, bydd arnoch angen:

  • Rhif yr Hysbysiad Tâl Cosb
  • Rhif Cofrestru’r Cerbyd
  • Cyfeiriad E-bost/Cartref

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried unrhyw her anffurfiol yn erbyn cosb parcio o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y tramgwydd. Os derbynnir her anffurfiol ar ôl 28 diwrnod, efallai na fydd yn cael ei hystyried.

Cofiwch, er mwyn herio'ch Hysbysiad Tâl Cosb, rhaid i chi wneud hynny'n ysgrifenedig, drwy ein porth heriau ar-lein neu drwy'r post. Fel arall, gallwch herio drwy ein e-bost Parking@sirgar.gov.uk. Ni fydd her yn cael ei hystyried dros y ffôn.

Peidiwch â thalu os ydych yn bwriadu herio'r HTC. Ni fydd y gosb yn cynyddu tra caiff eich her ei hadolygu.

Unwaith y byddwn wedi cydnabod derbyn eich her, bydd yr achos yn cael ei ohirio wrth ddisgwyl am benderfyniad gan swyddog achos, a gaiff ei anfon atoch fel arfer o fewn 4-12 wythnos. Peidiwch â chysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwn.

Os bydd eich her anffurfiol yn aflwyddiannus, neu os na fyddwch yn ymateb i'ch Hysbysiad Tâl Cosb o fewn 28 diwrnod, byddwn yn rhoi 'Hysbysiad i Berchennog'. Bydd yn esbonio sut i dalu neu wneud her ffurfiol.

Os byddwch yn dymuno herio ar yr adeg yma, cewch gyflwyno achos ar-lein. Argymhellir eich bod yn darparu tystiolaeth ategol bellach i gefnogi eich apêl neu efallai mai’r un canlyniad a gewch.

Mae perchennog y cerbyd yn parhau i fod yn atebol hyd yn oed os nad oedd yn gyrru ar adeg y tramgwydd. Os ydych wedi gwerthu eich cerbyd bydd angen i chi roi gwybod i'r DVLA a herio'ch HTC. Bydd angen i chi gadarnhau i bwy y gwerthwyd y cerbyd (enw a chyfeiriad) a phryd. Byddai unrhyw dystiolaeth ategol y gellwch ei darparu o fudd i'r her/apêl.

Mae'n cymryd 24 awr i fanylion y ddirwy ymddangos ar ein system barcio. Ar ôl i'r 24 awr fynd heibio, byddwch yn gallu herio neu dalu’r ddirwy ar-lein.

Cewch dalu eich dirwy (Hysbysiad Tâl Cosb):

  • Trwy ein Gwasanaeth ar-lein
  • Drwy'r Post – I sylw’r Gwasanaethau Parcio, Cyngor Sir Caerfyrddin, Blwch Post 90, Caerfyrddin, SA31 3WR
  • Trwy ymweld â'ch hwb lleol

I dalu dirwy bydd angen:

  • Rhif yr Hysbysiad Tâl Cosb (edrychwch am y rhif HTC ar y tocyn)
  • Rhif cofrestru eich cerbyd
  • Cerdyn debyd neu gredyd dilys

Caiff y tâl cosb ei ostwng drwy ddisgownt o 50% os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod. Mae'r cyfnod o 14 diwrnod yn dechrau ar y dyddiad y cyflwynwyd yr Hysbysiad Tâl Cosb.

Os na allwch dalu eich dirwy mewn un taliad, e-bostiwch parcio@sirgar.gov.uk i ofyn am cynllun talu am swm fforddiadwy i chi. Cofiwch gynnwys:

  • Rhif yr Hysbysiad Tâl Cosb
  • Cofrestriad Eich Cerbyd
  • Cyfeiriad e-bost/cartref
  • Y swm yr hoffech ei dalu dros gyfnod o amser (e.e. £10 y mis am 5 mis) a dyddiad dechrau
  • Y dull talu y dymunwch, naill ai archeb sefydlog, trosglwyddiad uniongyrchol neu daliadau ffôn

Unwaith y byddwn wedi cydnabod derbyn eich cais bydd yr achos yn cael ei ohirio a byddwch yn derbyn ymateb. Rhaid i chi wedyn drefnu archeb sefydlog gyda'ch banc. Os methwch â gwneud y taliadau y cytunwyd arnynt bydd y gosb yn cynyddu.

Isod mae rhestr o rai o'r Cyfyngiadau Parcio a beth maen nhw'n ei olygu, i'ch atal rhag derbyn dirwy.

01 –Llinellau Melyn Dwbl - Parcio mewn stryd gyfyngedig yn ystod oriau penodedig (24 awr, 7 diwrnod yr wythnos)

Mae cyfyngiadau aros a nodir gan linellau melyn yn berthnasol i'r ffordd gerbydau, y palmant a'r ymyl.

  • Cewch stopio tra bydd teithwyr yn mynd i mewn neu allan o'r cerbyd, ond ni ddylid gadael y cerbyd heb neb i ofalu amdano.
  • Cewch ddadlwytho a llwytho os gwelir yn gyson bod llwytho neu ddadlwytho'n digwydd.
  • Caiff deiliaid bathodyn glas barcio am hyd at dair awr, heb ddychwelyd o fewn awr, gyda bathodyn glas dilys wedi'i arddangos yn glir a’r cloc amser wedi'i osod yn gywir (cyfeiriwch at y llyfryn).
  • Does dim angen arwydd ar gyfer y cyfyngiad.
  • Mae’r llinellau melyn hefyd yn berthnasol i'r palmant neu'r briffordd neu ymyl.
  • Dim aros ar unrhyw adeg.

Llinellau Melyn Sengl

  • Y tu allan i'r amseroedd hyn nid yw cyfyngiad y llinell felen yn berthnasol.
  • Yn ystod amseroedd gweithredu fel y dangosir ar y plât amser, mae'r marciau hyn yn gweithredu fel llinellau melyn dwbl.

02 / 02J – Wedi Parcio ar Gyfyngiad Llwytho – Parcio neu lwytho/dadlwytho mewn stryd gyfyngedig lle mae cyfyngiadau aros a llwytho/dadlwytho mewn grym

Cyfyngiadau llwytho:

  • Caiff cerbydau stopio tra bydd teithwyr yn mynd i mewn neu allan o'r cerbyd, ond dim aros a rhaid i'r gyrrwr aros yn y cerbyd.
  • Nid oes angen amser arsylwi i orfodi'r tramgwydd hwn.
  • Mae llinellau melyn (blipiau) ar ymyl y palmant neu ar ymyl y ffordd gerbydau yn dangos bod cyfyngiad llwytho.
  • Mae un blip ar ymyl y palmant yn golygu dim llwytho rhwng yr amseroedd a nodir ar y plât amser (plât gwyn - gall amseroedd amrywio a rhaid edrych ar y plât amser).
  • Mae blipiau melyn dwbl ar ymyl y palmant yn golygu dim llwytho na dadlwytho ar unrhyw adeg.
  • Ni chaiff deiliaid bathodyn glas barcio ar gyfyngiad llwytho.
  • Efallai y gorfodir y cyfyngiad hwn drwy gamera ac felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen ond bydd yn cael ei anfon yn y post yn lle hynny.

11– Parcio heb dalu’r tâl parcio

  • Rhaid i docynnau Talu ac Arddangos gael eu harddangos yn glir ar y dangosfwrdd neu daliad a wneir drwy'r ap 'Mipermit' neu'r wefan.
  • Rhaid i docynnau gael eu gosod y ffordd gywir i fyny a dangos manylion cofrestru’r cerbyd cywir.
  • Rhoddir Hysbysiad Tâl Cosb os yw cerbyd yn cael ei barcio mewn man parcio heb arddangos tocyn neu hawlen ddilys neu daliad heb ei wneud.

12 – Parcio mewn Man Parcio i Breswylwyr heb hawlen – Parcio mewn man parcio i breswylwyr, neu ddefnydd a rennir, heb arddangos yn glir naill ai hawlen neu Fathodyn Glas dilys i’r Anabl.

  • Cewch barcio i ddibenion llwytho a dadlwytho. Rhaid i lwytho a dadlwytho'n barhaus ddigwydd a rhaid i swyddog arsylwi arno, yna rhaid symud y cerbyd i fan parcio anghyfyngedig.
  • Ni ddylech barcio mewn man parcio i breswylwyr yn ystod ei gyfnod gweithredu heb hawlen ddilys neu fathodyn glas i'r anabl sy'n cael ei arddangos yn glir. Bydd y cyfnod gweithredu yn cael ei ddangos ar yr arwydd cyfagos.

22 – Dychwelyd i fan parcio aros cyfyngedig o fewn yr amseroedd rhagnodedig – Parcio yn yr un man neu barth parcio o fewn awr (neu amser penodedig arall) i adael

  • Caiff deiliaid bathodyn glas barcio’n hwy na’r amser a ddangosir ar yr arwyddion gyda bathodyn glas wedi ei arddangos yn glir, oni fydd yn arwyddion yn datgan yn wahanol. Ond unwaith y caiff y cerbyd ei symud, yna bydd y rheol ‘dim dychwelyd’ yn berthnasol.
  • Mae’r wybodaeth ‘dim dychwelyd’ wedi ei harddangos ar yr arwydd. Mae hyn yn golygu nad oes caniatâd i chi ddychwelyd i’r man parcio aros cyfyngedig o fewn yr amser a ddangosir. Bydd swyddogion gorfodi parcio yn cofnodi pob cerbyd sydd wedi ei barcio mewn man parcio aros cyfyngedig er mwyn sicrhau nad yw yn goraros nac yn dychwelyd i’r man parcio o fewn yr amserlen benodedig.

25 – Parcio mewn man llwytho yn ystod oriau cyfyngedig heb lwytho

Mannau llwytho:

  • Ni chewch wneud dim ond llwytho a dadlwytho yn y mannau hyn ac unwaith y byddwch wedi cwblhau rhaid i chi symud eich cerbyd o’r man llwytho. Efallai y rhoddir Hysbysiad Tâl Cosb os bydd swyddog yn sylwi nad oes llwytho na dadlwytho’n digwydd.
  • Mannau a ddynodir ‘llwytho yn unig’ neu ‘man llwytho’.
  • Efallai y bydd y mannau hyn wedi eu cyfyngu i fathau arbennig o gerbydau, megis cerbydau nwyddau.
  • Os nad oes amseroedd wedi eu nodi, yna mae’r man yn weithredol drwy’r amser.

27 – Parcio yn ymyl troedffordd isel

  • Nid oes angen amser arsylwi.
  • Rhoddir Hysbysiad Tâl Cosb pan fydd cerbyd wedi ei barcio yn rhannol neu’n llawn ar draws cwrb isel.
  • Gall parcio wrth ochr cwrb isel ac yn y blaen achosi anghyfleustra sylweddol a gosod defnyddwyr ffordd, agored i niwed, mewn perygl difrifol. Gall parcio wrth gwrb isel wrth fynediad i adeilad achosi niwsans sylweddol i yrwyr sydd eisiau mynd i mewn neu adael y safle.
  • Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn cynghori gyrwyr “PEIDIWCH AG AROS NA PHARCIO ….lle mae’r cwrb yn isel er mwyn cynorthwyo defnyddwyr cadeiriau olwyn a cherbydau symudedd peiriannol neu lle y byddai’n rhwystro beicwyr rhag defnyddio cyfleusterau beicio...ac eithrio pan gewch eich gorfodi gan draffig llonydd”.

40 – Parcio mewn man a ddynodwyd ar gyfer person anabl heb arddangos bathodyn person anabl dilys yn glir

  • Pan fyddwch yn parcio mewn man sydd ar gyfer deiliaid bathodyn anabledd yn unig rhaid arddangos bathodyn glas dilys yn glir ac yn gywir bob amser.
  • Nid oes angen amser arsylwi i orfodi'r tramgwydd hwn.
  • Rhaid i chi beidio â pharcio mewn mannau parcio sydd wedi eu neilltuo ar gyfer defnyddwyr penodedig megis deiliaid bathodyn glas os nad oes gennych hawl i wneud hynny.

45 / 45J – Parcio mewn Safle Tacsis

  • Nid oes angen amser arsylwi i orfodi'r tramgwydd hwn.
  • Rhaid i chi beidio â pharcio mewn safle tacsis yn ystod ei amser gweithredu. Dangosir y cyfnod gweithredu ar yr arwyddion gerllaw. Os nad oes amseroedd ar yr arwyddion yna mae’r safle tacsis yn weithredol drwy’r amser.
  • Efallai y gorfodir y cyfyngiad hwn drwy gamera ac felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen ond bydd yn cael ei anfon yn y post yn lle hynny.

47 / 47J – Aros mewn arosfan neu safle bws cyfyngedig

  • Rhaid i fysiau beidio â defnyddio arosfan bws i ddim ond i ganiatáu i deithwyr ddod i mewn neu allan. Fodd bynnag, caniateir iddynt aros yn hwy er mwyn cadw at amserlen neu i newid gyrwyr.
  • Nid oes angen amser arsylwi i orfodi'r cyfyngiad hwn.
  • Ni chaniateir i gerbyd aros mewn arosfan/safle bws ond Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus; nid yw hyn yn cynnwys tacsis.
  • Efallai y gorfodir y cyfyngiad hwn drwy gamera ac felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen ond bydd yn cael ei anfon yn y post yn lle hynny.

48 / 48J – Aros ar Farciau Igam-Ogam Ysgol

Marciau igam-ogam melyn:

  • Nid oes angen amser arsylwi i orfodi'r tramgwydd hwn.
  • Pan fydd y marciau hyn y tu allan i ysgol byddant yn dynodi’r rhan o’r ffordd lle na ddylech aros, dim hyd yn oed i godi neu ollwng eich plant neu deithwyr eraill.
  • Lle bydd arwydd wedi ei osod i fyny, mae aros yn cael ei wahardd yn ystod yr amseroedd a ddangosir.
  • Gosodir y marciau hyn y tu allan i ysgolion er mwyn sicrhau bod plant yn gweld ac yn cael eu gweld yn glir pan fyddant yn croesi’r ffordd.
  • Efallai y gorfodir y cyfyngiad hwn drwy gamera ac felly efallai na fyddwch yn gweld hysbysiad tâl cosb ar y ffenestr flaen ond bydd yn cael ei anfon yn y post yn lle hynny.
  • Maent yn dal yn berthnasol yn ystod gwyliau’r ysgol oni ddangosir fel arall.


Yr Heddlu sy’n gyfrifol am y canlynol:

  • Rhwystrau ar y briffordd
  • Cyrbau isel (cerbydau’n croesi) a lle mae rhwystrau’n broblem
  • Parcio ar y palmant (lle nad oes cyfyngiad e.e llinell felen ddwbl neu sengl)

Yr Heddlu yw’r unig awdurdod sydd â’r grym i symud cerbyd sy’n achosi rhwystr.

Rhoi gwybod am boblem i'r heddlu 

 

Lonydd bysus

M​ae gwasanaethau bysiau yn arbennig o agored i effeithiau tagfeydd traffig. Gall unrhyw oedi gynyddu costau gweithredu ac arwain at brisiau uwch. ​​​​

Gall lonydd bysiau a phyrth bysiau:

  • gyflymu amseroedd teithio
  • cynyddu dibynadwyedd
  • annog y defnydd o drafnidiaeth gynaliadwy.

Byddwn yn rhoi Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) i chi os na fyddwch yn cydymffurfio â chyfyngiadau lonydd bysiau.

Mae Rheol 141 Rheolau’r Ffordd Fawr (141) yn datgan:

'Lonydd Bysus. Dangosir y rhain gan farciau ffordd ac arwyddion sy’n dangos pa gerbydau (os unrhyw rai) y caniateir iddynt ddefnyddio’r lôn fysus. Heblaw os y dangosir fel arall, ni ddylech yrru mewn lôn fysus yn ystod ei chyfnod gweithredu'.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae pob lôn fysus yn gweithredu 24 awr y dydd, bob dydd.

Y cerbydau gaiff ddefnyddio lonydd bysus yng Nghaerdydd

  • Bysus
  • Cerbydau Hacni Trwyddedig
  • Cerbydau trwyddedig i’w llogi’n breifat
  • Beiciau Modur (heb gerbydau ochr)
  • Beiciau â Phedalau
  • Cerbydau gwasanaethau brys

Adnabod lonydd busus

Cofiwch sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'r holl arwyddion sy'n ymwneud â lonydd bysiau:

Mae gan lonydd bysiau hefyd ffin o linell wen solet. Ni ddylech groesi'r llinell oni bai y caniateir i chi wneud hynny. Byddwch yn amyneddgar. Os yw traffig yn brysur yn y lonydd anghyfyngedig, nid yw hyn yn golygu y gallwch ddefnyddio lonydd bysiau neu byrth bysiau yn anghyfreithlon.Mae llawer o bobl yn credu bod pellter gras o 20 metr i gerbyd heb awdurdod ddefnyddio lôn fysiau. Nid oes gan y 'rheol 20 metr' hon unrhyw sail gyfreithiol.​


Strydoedd Ysgol

Mae cynllun 'Strydoedd Ysgol' yn gweithredu cyfyngiad dros dro ar y rhwydwaith ffyrdd lleol yn union y tu allan i safle ysgol er mwyn cyfyngu ar fynediad cerbydau modur. Mae'r cyfyngiad ar fynediad i gerbydau modur yn berthnasol yn ystod amseroedd gollwng a chasglu ysgolion ar gyfer traffig ysgol a thraffig drwodd.
Ar hyn o bryd mae dau gynllun Strydoedd Ysgol ar waith yn y sir, ac mae gwaith dichonoldeb yn cael ei wneud ar gynllun arall ar hyn o bryd. Y ddau gynllun sy'n gweithredu yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd yw:

  • Ysgol Gynradd Maes y Morfa (Stryd Olive a Theras Bowen, Llanelli)
  • Ysgol Gynradd Porth Tywyn (Parc Elkington, Porth Tywyn) 

Adnabod strydoedd Ysgol

Mae strydoedd ysgol wedi’u nodi ag arwydd tebyg i’r un a ddangosir yma:

Dim ond yn ystod y cyfnodau a nodir ar yr arwydd y gorfodir cyfyngiadau Ffordd Ysgol.

Cydnabyddir na ellir cyfyngu ar yr holl draffig modur yn ystod amseroedd y cynllun Strydoedd Ysgol, ac felly rhoddir rhai eithriadau gan ddefnyddio hawlenni. Mae angen awdurdodiad ymlaen llaw i bob cerbyd sydd angen mynediad i dir yr ysgol yn ystod yr amseroedd gwahardd.

Fel arfer, mae staff yr ysgol yn cael mynediad i'r ffyrdd sydd ar gau er mwyn cael mynediad i safle'r ysgol. Mae preswylwyr y ffyrdd sydd wedi'u cynnwys yn y Strydoedd Ysgol hefyd yn cael mynediad. Gwneir hyn fel arfer drwy ddefnyddio hawlenni ar gyfer staff ysgol a phreswylwyr.

Gall perchnogion cerbydau wneud cais am hawlen ddigidol drwy lenwi ffurflen gais. 

Bydd unrhyw gerbyd sy'n dod i mewn i'r parth yn ystod oriau gweithredu'r cynllun nad yw wedi cael eithriad (ac sydd wedi sicrhau hawlen ddigidol gyfredol) yn cael hysbysiad tâl cosb yn awtomatig).

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am eithriad, ewch i: Strydoedd Ysgol


Cyffyrdd sgwâr

Rhoddir cyffyrdd sgwâr ar gyffyrdd prysur er mwyn hwyluso llif y traffig trwy’r gyffordd.    Hefyd, gellir eu gosod er mwyn cadw lle yn rhydd ar y ffyrdd er mwyn sicrhau bod gan y gwasanaethau brys allanfa glir o orsafoedd tân ac ysbytai.  

Adnabod cyffordd sgwâr

Dangosir cyffyrdd sgwâr melyn gan linellau croesymgroes wedi’u peintio ar y lôn gerbydau:

Yellow box junction
Gellir dod o hyd iddynt ar gyffyrdd ffyrdd ac ar rai cylchfannau ac nid oes unrhyw ofynion i gyffyrdd sgwâr ymddangos ynghyd ag arwyddion neu Orchymyn Rheoli Traffig.

Defnyddio cyffordd sgwâr

Gellir dod o hyd i reolau cyffyrdd sgwâr yn Rheolau’r Ffordd Fawr (174)

Cewch chi fynd i mewn i gyffordd sgwâr melyn pan fydd eich allanfa yn glir a phan fydd digon o le ar ochr arall y gyffordd i’ch cerbyd ddod allan o’r blwch yn llwyr heb stopio. Cewch chi stopio mewn cyffordd blwch melyn pan fyddwch yn troi i'r dde os cewch eich atal rhag troi gan draffig yn dod tuag atoch, neu gan gerbydau eraill sy'n aros i droi i'r dde.

Byddwn yn dosbarthu HTCau am methu cydymffurfio â rheolau cyffyrdd sgwâr.

  • Sicrhewch fod eich ffordd allan yn glir. Os byddwch yn dilyn y cerbyd o'ch blaen heb wneud hynny, mae’n bosibl y bydd yn stopio ac yn eich atal rhag croesi’r gyffordd yn llwyr.
  • Er bod y golau traffig yn wyrdd, nid yw hynny’n golygu nad yw rheolau cyffyrdd sgwâr mewn grym.
  • Peidiwch â chaniatáu i yrwyr eraill ddwyn pwysau arnoch i fynd i mewn i’r blwch pan na fydd ffordd allan glir ar gael

Troadau a waherddir

​Mae rhai symudiadau (troadau) penodol a waherddir ar rai o’n ffyrdd. Gall anwybyddu’r gwaharddiadau hyn fod yn beryglus iawn a gall arwain at ddamwain.

Mae troad a waherddir yn digwydd pan fydd gyrwyr yn anwybyddu arwyddion sy'n rhoi cyfarwyddiadau o ran cyfeiriad mae'n rhaid iddynt ei gymryd neu beidio â'i gymryd. Mae gorfodi troadau a waherddir yn helpu i reoli sut mae traffig yn defnyddio’r ffordd ac mae’n ei wneud yn ddiogelach ar gyfer cerddwyr a gyrwyr eraill.

Cydnabod arwydd am droad a waherddir

Rhestrir yr arwyddion hyn yn Rheolau’r Ffordd Fawr, yr hoffech chi gyfeirio ato o bosibl. Maent yn arwyddion naill ai â:

  • Saeth wen ar gefndir glas sy’n dangos y cyfeiriad mae’n rhaid i chi ei gymryd, neu
  • Cylch coch allanol gyda llinell goch sy’n dangos y cyfeiriad mae’n rhaid i chi beidio â mynd iddo
Beth mae’n rhaid i chi ei wneud Arwydd Traffig
Syth ymlaen yn unig: Mae'n rhaid i chi barhau yn syth ymlaen yn unig. Mae’n rhaid i chi beidio â throi i’r chwith, i’r dde neu wneud tro pedol.. Straight ahead only
Troi i’r chwith yn unig: Mae’n rhaid i chi droi i’r chwith ar y gyffordd o’ch blaen. Mae’n rhaid i chi beidio â throi i’r dde, mynd yn syth ymlaen neu wneud tro pedol. Left turn only
Troi i’r dde yn unig: Mae’n rhaid i chi droi i’r dde ar y gyffordd o’ch blaen. Mae’n rhaid i chi beidio â throi i’r chwith, mynd yn syth ymlaen neu wneud tro pedol. Right turn only
Troi i'r chwith: Mae’n rhaid i chi droi i’r chwith. Mae’n rhaid i chi beidio â throi i’r dde, mynd yn syth ymlaen neu wneud tro pedol. Turn left
Troi i’r Dde:  Mae’n rhaid i chi droi i’r dde. Mae’n rhaid i chi beidio â throi i’r chwith, mynd yn syth ymlaen neu wneud tro pedol. Right turn

 

Beth mae’n rhaid i chi beidio â’i wneud Arwydd Traffig
Gwneud troad i’r dde

No right turn

Gwneud troad i’r chwith Do not Make a left hand turn
Gwneud tro pedol Do not Make a U-turn.

 

Hwb