Strategaeth Drawsnewid 2022 - 2027

Cyd-destun


Un o’r darnau pwysicaf o ddeddfwriaeth newydd a ymddangosodd yn y 10 mlynedd diwethaf fydd yn cael dylanwad mawr ar y ffordd y bydd y Cyngor yn cyflawni ei Raglen Drawsnewid yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2015. Mae hon yn ddyletswydd statudol i bob Cyngor yng Nghymru ac mae’n golygu newid arwyddocaol ym mhrosesau ac ymddygiadau Cynghorau. Nod y Ddeddf yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy. Dywed y ddeddf:

‘... bod yn rhaid i’r corff weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.’

Mae hyn yn creu cyfle pwysig i gysoni nodau ac amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gyda rhai’r agenda trawsnewid ehangach a sicrhau bod y ‘5 Ffordd o Weithio’ yn cael eu hystyried a’u hintegreiddio’n llawn wrth i’r Rhaglen Drawsnewid gael ei chynllunio, ei gweithredu a’i gwerthuso.

 

Ffordd o Weithio

Cyfleoedd i’r Rhaglen Drawsnewid

Hirdymor

Bydd y Rhaglen Drawsnewid yn ceisio adnabod a gweithredu atebion cynaliadwy i helpu’r Cyngor i wneud gwell defnydd o’i adnoddau.

Bydd y rhaglen yn ceisio cyflawni casgliad cytbwys o flaenoriaethau i gefnogi’r Cyngor i gyflawni ei amcanion yn y tymor byr, canol a hirach.

Integreiddio

Hefyd, bydd angen i’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau o fewn y Rhaglen Drawsnewid ystyried yr effaith ar, a rhyngddibyniaethau gyda, blaenoriaethau trawsnewid eraill ac amcanion ehangach y Cyngor a phartneriaid. Bydd unrhyw fentrau neu gynigion am newid hefyd yn ystyried cyfleoedd i integreiddio rhaglenni gwaith a phrosesau gydag eraill lle y mae hynny’n cynnig budd amlwg i’r defnyddiwr terfynol.

Cynnwys

Mae’r trawsnewid presennol wedi mabwysiadu ffordd gynhwysol a chyfranogol iawn o weithio ac mae’n rhaid iddo gynnwys staff o bob rhan a lefel o’r sefydliad yn ei waith. Erbyn hyn, bydd cam newydd y trawsnewid yn rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio cydgynhyrchu – i sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth yn chwarae rhan lawn mewn unrhyw adolygiadau neu ailgynllunio prosesau a modelau darparu gwasanaethau.

Cydweithio

Un o’r prif egwyddorion fydd yn cynnal y Rhaglen Drawsnewid yw y bydd y Cyngor yn ymrwymo i gydweithio a gweithio mewn partneriaeth gydag eraill lle y mae hynny’n cynnig budd amlwg o ran deilliannau cadarnhaol i’r defnyddiwr terfynol.

Atal

Un o nodweddion allweddol methodoleg gwella gwasanaethau’r Cyngor yw cefnogi gwasanaethau i gael gwell dealltwriaeth o natur gofynion cwsmeriaid yn eu meysydd gwasanaeth nhw, ac adnabod materion y gellid eu hatal pe bai’r Cyngor yn rhoi mwy o bwyslais ar ddeall a mynd i’r afael â’r rheswm sylfaenol am y ceisiadau hynny a thrwy hynny atal materion rhag mynd yn rhai mwy difrifol. 

Mae angen ystyried hefyd oblygiadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a sut all y Rhaglen Drawsnewid gefnogi’r Cyngor i gyflawni rhai o brif ofynion y Ddeddf. Er enghraifft, mae Rhan 6 y Ddeddf yn darparu ar gyfer gwell trefn wella ar gyfer Cynghorau ac mae’n ceisio ‘sefydlu system berfformiad a llywodraethiant fwy cyson sy’n rhoi’r baich ar y Cyngor i gymryd perchnogaeth o’i welliant ei hun.’

 

Heriau

Mae effaith hirdymor pandemig Covid-19 yn debygol o fod yn bellgyrhaeddol a bydd yn cyflwyno nifer o heriau i’r sefydliad i’r dyfodol, ond rhai cyfleoedd hefyd.

Cyn y pandemig, roedd llywodraeth leol eisoes yn wynebu cynnydd yn y galw am lawer o’i gwasanaethau, yng nghyd-destun llai o adnoddau cyllidebol. Y tebygrwydd yw y gallai’r pandemig wneud yr heriau hyn yn llawer mwy difrifol, er na wyddom eto beth fydd yr effaith lawn ar y sefydliad yn y tymor canol i hirach.

Arweiniodd pandemig Covid-19 at wariant ariannol enfawr gan Lywodraeth y DU, a gall yr angen i fynd i’r afael â’r lefelau hanesyddol o ddyled wladol arwain yn y dyfodol at dynhau gwariant cyhoeddus yn y tymor byr i ganol, a gallai hynny yn ei dro arwain at amgylchedd ariannol arbennig o heriol i’r sector cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau lleol. Mae’r codiadau arwyddocaol ym mhrisiau ynni a bwyd yn 6 mis cyntaf 2022 eisoes yn creu heriau ariannol i’r Cyngor.

Efallai hefyd fod effeithiolrwydd ymateb y Cyngor i bandemig Covid wedi codi disgwyliadau ein cwsmeriaid, yn enwedig felly yn y ffordd maen nhw’n cael gafael ar a derbyn gwasanaethau. Gall hyn olygu y bydd rhaid i’r Cyngor edrych ar y ffordd mae’n darparu’r gwasanaethau hynny ac ystyried symud at drefniant 24awr/7-diwrnod ar gyfer darparu gwasanaethau.

Mae denu a chadw gweithlu hyblyg ac wedi’i hyfforddi’n dda yn un o brif ddyheadau llawer o sefydliadau, ond mae’r farchnad waith bresennol yn cynnig her arwyddocaol i lawer yn y sector cyhoeddus. Erbyn hyn, mae’r Cyngor yn gweithredu mewn amgylchedd llawer mwy cystadleuol o ran cyfleoedd a chyflogau, ac mae nifer o wasanaethau’n cael cryn anhawster i ddenu staff addas, cymwysedig.

Mae datblygiadau pellach yn y defnydd o dechnoleg a grëwyd gan y pandemig yn awr yn cynnig cyfle pwysig i’r Cyngor o ran ehangu mynediad at wasanaethau ac awtomeiddio prosesau swyddfa gefn.

Newid hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r sefydliad hwn ar hyn o bryd. Mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ym mis Chwefror 2019, cyhoeddodd y Cyngor ‘argyfwng newid hinsawdd’ a chytunodd yn unfrydol i ddod yn awdurdod Carbon Sero Net erbyn 2030. Er bod y Cyngor wedi cytuno gweithio mewn ffordd raddol a phragmataidd yn hyn o beth, derbyniwn y bydd angen newid trawsnewidiol mewn rhai meysydd os yw’r targedau uchelgeisiol hyn yn mynd i gael eu cyflawni. Mae cyfle erbyn hyn i gysoni nodau’r agenda datgarboneiddio gyda rhai’r Rhaglen Drawsnewid ehangach.

 

Trawsnewid – Ein Gweledigaeth

‘Creu newid mewnol sylweddol a chyflym dros gyfnod o 5 mlynedd fydd yn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei nodau ac amcanion yn llwyddiannus fel y’u hamlinellir yn ei Strategaeth Gorfforaethol.’

Bydd y Rhaglen yn ceisio tanio newid a blaengaredd arwyddocaol ar hyd a lled y Cyngor ac yn ein helpu sicrhau’r deilliannau gorau oll gyda’r adnoddau sydd ar gael.

Bydd yn ceisio galluogi’r Cyngor i:

  • Fod yn sefydliad modern, blaengar a deinamig.
  • Sicrhau dyfodol ariannol cynaliadwy.
  • Datblygu gweithlu medrus a hyblyg a dod yn ‘Gyflogwr o Ddewis’.
  • Darparu gwasanaethau mwy pwrpasol, o ansawdd uchel i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid am lai o gost i’r Cyngor.

 

Prif Amcanion

  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu Cyngor sy’n ariannol gynaliadwy, all ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n cynnig gwerth am arian.
  • Adnabod a helpu sicrhau arbedion ariannol trwy weithio’n fwy effeithlon neu dorri costau.
  • Datblygu ymagwedd fwy masnachol at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor gyda’r bwriad o greu mwy o gyfleoedd cynhyrchu incwm.
  • Cyflwyno rhaglen gwella gwasanaethau sy’n sicrhau y gall y Cyngor ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a chynnig y safonau gofal cwsmer uchaf.
  • Cefnogi ailfodelu gwasanaethau er mwyn darparu gwasanaethau modern, hyblyg a deinamig a gynlluniwyd ar sail anghenion y cwsmer/defnyddiwr terfynol.
  • Dod yn sefydliad mwy creadigol a blaengar.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr terfynol i gytuno ar y ffordd fwyaf priodol o ddarparu gwasanaethau.
  • Parhau i ddatblygu gweithlu ystwyth, hyblyg, wedi’i rymuso ac wedi’i hyfforddi’n dda sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a chynnig y safonau gofal cwsmer uchaf.
  • Gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg i gynorthwyo’r Cyngor i ddod yn sefydliad mwy modern, deinamig.
  • Gweithredu’n Gyngor deallus trwy wneud defnydd effeithiol o ddata i reoli a gwella perfformiad, ac i reoli gofynion yn effeithiol trwy waith atal ac ymyrraeth gynnar.
  • Darparu cyfle i rannu a chydnabod arfer da ar draws y sefydliad.
  • Adnabod lle y gall fod angen capasiti a/neu adnoddau ychwanegol i gefnogi’r broses o newid a thrawsnewid.
  • Gwneud defnydd effeithiol o gyfathrebu, ymgysylltu â staff a rhaglenni dysgu a datblygu i helpu creu’r diwylliant a’r newid ymddygiad angenrheidiol.

 

Deilliannau a fwriedir o’r Rhaglen Drawsnewid:

  • Gwella ansawdd gwasanaethau a chynnig gwell gwerth am arian
  • Gwasanaethau mwy cost-effeithlon
  • Gwasanaethau pwrpasol, ymatebol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
  • Gweithlu hyblyg sydd wedi’i hyfforddi’n dda iawn
  • Gweithlu mwy ymgysylltiedig ac uwch ei gymhelliant
  • Datblygu diwylliant dysgu a ‘gallwn wneud’ ymhellach
  • Y safonau gofal cwsmer gorau
  • Creu arbedion ariannol
  • Arbedion a buddion amgylcheddol
  • Cynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir
  • Prosesau gwaith modern ac effeithlon