Strategaeth Drawsnewid 2022 - 2027

Incwm a Masnacheiddio

1. Nod cyffredinol

Datblygu agwedd fwy masnachol at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor gyda’r bwriad o gynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir.

 

2. Beth mae angen inni ei drawsnewid a pham?

Un o brif flaenoriaethau Rhaglen TIC yw chwilio am ffyrdd o gynhyrchu mwy o incwm o ffioedd a thaliadau, a chodi lefelau dyledion y mae’r Cyngor yn llwyddo i’w hadennill.

Daw’r rhan fwyaf o incwm blynyddol y Cyngor o gyllid Llywodraeth Cymru, Dreth Gyngor ac Ardrethi Busnes, a daw gweddill yr incwm o ffïoedd a thaliadau a godir gan y Cyngor. Caiff llawer o’r taliadau hyn eu pennu bob blwyddyn fel rhan o broses pennu cyllideb y Cyngor, a chaiff rhai eu pennu’n genedlaethol neu trwy statud. Gall taliadau fod yn ffynhonnell incwm pwysig a gallant helpu i wella neu gynnal gwasanaethau. Yn am lawn, nid yw taliadau’n seiliedig ar gost darparu’r gwasanaeth ac o’r herwydd gellir darparu cymhorthdal amrywiol ar eu cyfer. Byddai gwell gwybodaeth ar y berthynas rhwng costau a thaliadau yn helpu adnabod lle y mae cymorthdaliadau presennol yn anghymesur â lefel y deilliannau cadarnhaol a ddarperir i unigolion neu gymunedau.

Mae hon yn un enghraifft o lle y gallai’r Cyngor weithio mewn ffordd fwy fasnachol i gynhyrchu mwy o incwm. Fodd bynnag, mae masnacheiddio’n golygu mwy nag adolygu ffïoedd a thaliadau, gan ei fod yn cynnwys edrych ar y busnes yn ei grynswth ac adnabod cyfleoedd newydd i gynhyrchu incwm. Mae nifer o awdurdodau lleol yn sylweddoli erbyn hyn y gall lefel uwch o fasnacheiddio, a’r cynnydd mewn refeniw fyddai’n deillio o hynny, ddarparu ar gyfer ffordd fwy cynaliadwy o ddelio â heriau parhaus cyllidebau’n crebachu a gofynion cynyddol. Gwelodd astudiaeth Archwilio Cymru ar ‘Masnacheiddio mewn Llywodraeth Leol’ (Hydref 2020) fod cynghorau lleol yn ‘ystyried ffyrdd gwahanol o wneud arbedion, diogelu gwasanaethau a chreu incwm. O ganlyniad mae masnacheiddio’n dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer cynghorau.’

Yn sgil hyn mae rhai Cynghorau wedi creu rolau Rheolwr Masnachol i greu’r gallu a’r arbenigedd i yrru’r agenda hwn yn ei flaen yn eu priod sefydliadau, gan gydnabod yr ad-daliad arwyddocaol ar fuddsoddiad y gallai’r rôl hon ei gynnig.

Bu ffrwd waith Incwm TICyn gweithio i adnabod y cyfleoedd i weithredu mewn ffordd fwy masnachol ar draws y sefydliad, gan edrych ar y mathau o sgiliau a gallu sydd ar gael neu y bydd eu hangen i gefnogi hynny. Cynhaliwyd gweithdai gyda gwasanaethau allweddol fydd yn cael eu defnyddio i ddatblygu Achos Busnes er mwyn i’r Cyngor fabwysiadu ffordd fwy masnachol o weithio. Mae’r gwaith cychwynnol a wnaed hyd yn hyn wedi dangos yn barod fod yna fuddion amlwg o fuddsoddi mewn capasiti ac arbenigedd ychwanegol yn y maes hwn, fel y gwelwyd yn llwyddiant Is-adran Gwasanaethau Hamdden y Cyngor, sydd wedi cynyddu’n arwyddocaol ei gweithgareddau cynhyrchu incwm dros y 5 mlynedd diwethaf, gan olygu y gellid lleihau lefel y cymhorthdal sydd ei angen gan y Cyngor i allu darparu’r gwasanaethau hynny.

 

3. Prif Amcanion

  • Annog proses o ddatblygu diwylliant ac ymagwedd fwy masnachol ar draws y sefydliad er mwyn cynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir gan y Cyngor.
  • Sicrhau bod gan y Cyngor sgiliau a galluoedd digonol i gefnogi’r ymagwedd hon.
  • Sicrhau bod ffïoedd a thaliadau gwasanaethau yn adlewyrchu costau darparu’r gwasanaeth hwnnw oni bai fod achos busnes yn datgan fel arall
  • Adnabod y potensial i gynhyrchu mwy o incwm trwy gael mwy o bobl i ddefnyddio gwasanaethau
  • Cynnig eglurder o ran y defnydd o ostyngiadau a chymorthdaliadau.
  • Adolygu polisïau casglu incwm y Cyngor i sicrhau y caiff incwm ei gasglu yn y ffordd fwyaf effeithlon.
  • Adolygu cyfleoedd i gynyddu incwm o hysbysebu a nawdd.
  • Adnabod mwy o gyfleoedd cynhyrchu incwm trwy werthu gwasanaethau’r Cyngor i gyrff eraill yn y sectorau cyhoeddus/preifat tra’n sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r fframwaith deddfwriaethol perthnasol.
  • Cryfhau prosesau adennill dyledion ymhellach a sicrhau bod capasiti digonol i adennill y lefelau uchaf posib o ddyledion.

 

4. Beth fydd ein prif flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt?

  • Datblygu adroddiad achos busnes sy’n nodi dyheadau’r Cyngor a chyfleoedd pellach ar gyfer masnacheiddio a’r mathau o alluoedd a sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r agenda hwn erbyn Mehefin 2023
  • Datblygu Strategaeth Fasnachol ar gyfer y sefydliad erbyn Medi 2023
  • Datblygu fframwaith i gefnogi’r gwaith o geisio adennill costau wrth bennu ffïoedd a thaliadau’r Cyngor erbyn Ebrill 2023
  • Cyflwyno rhaglen dreigl o adolygiadau adennill costau er mwyn cyfrannu at y broses o bennu ffïoedd a thaliadau i’r dyfodol erbyn Ebrill 2024
  • Cyflwyno rhaglen sy’n cefnogi’r gwaith o gyflwyno cynllun peilot o hysbysebion ar gylchfannau’r Cyngor wedi’i chwblhau erbyn Mawrth 23 a’i chyflwyno’n llawn erbyn diwedd 23/24.
  • Adnabod cyfleoedd eraill i gynyddu incwm o hysbysebion a nawdd a sicrhau y defnyddir ffordd fwy cydlynol o weithio er mwyn cynhyrchu’r lefel uchaf bosib o incwm erbyn Medi 2023.
  • Datblygu fframwaith/canllawiau i gefnogi gwasanaethau i adnabod cyfleoedd cynhyrchu incwm trwy ddarparu/gwerthu gwasanaethau i gyrff sector cyhoeddus/preifat eraill erbyn Medi 2023.
  • Cryfhau trefniadau rheoli achos ymhellach i gefnogi’r gwaith o adennill mwy o ddyledion i’r Cyngor erbyn Ebrill 2023.
  • Datblygu camau allweddol i werthuso deilliannau’r fenter Buddsoddi i Arbed a neilltuodd adnoddau ychwanegol i’r swyddogaeth adennill dyledion erbyn Ebrill 2023.

 

5. Sut fyddwn ni’n mesur effaith y newidiadau hyn?

  • Cynhyrchu mwy o incwm.
  • Adennill mwy o ddyledion.