Polisi Diogelu Corfforaethol
Diogelu Pobl yn Sir Gaerfyrddin | Diweddarwyd fis Mehefin 2026
Yn yr adran hon
- Cydnabod pryderon ac ymateb iddynt
- Delio â phryder diogelu
- Rhoi gwybod am bryder
- Monitro ac Adolygu
- Atodiad 1 -Beth yw Camdriniaeth?
- Atodiad 1 parhad - Oedolion sy'n Wynebu Risg - Categorïau a dangosyddion camdriniaeth
- Atodiad 2 - Canllawiau / Deddfwriaeth Berthnasol
- Adodiad 3 - Grŵp Diogelu Corfforaethol (Llywodraethu Diogel) Cylch Gwaith
- Atodiad 2 - Offeryn Archwilio - Hunanasesiad Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin
Adodiad 3 - Grŵp Diogelu Corfforaethol (Llywodraethu Diogel) Cylch Gwaith
Mae Diogelu Corfforaethol yn disgrifio’r trefniadau sydd ar waith y mae Cyngor yn eu gwneud ac i sicrhau bod ei gyflogeion i gyd yn chwarae eu rhan i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant ac oedolion a all fod yn wynebu risg o niwed. (Diogelu Corfforaethol: Canllawiau Ymarfer Da, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru/Llywodraeth Cymru)
Mae'r Grŵp Diogelu Corfforaethol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin wedi'i sefydlu i sicrhau bod diogelu yn cael ei roi'n gadarn ar agenda'r awdurdod cyfan, ac nid dim ond y gwasanaethau hynny sydd â dyletswyddau amlwg a chlir mewn perthynas â diogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg.
Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb, a nod y grŵp yw hyrwyddo a chynnal ei bwysigrwydd ar draws pob cyfarwyddiaeth, gan ymgorffori egwyddorion diogelu craidd ar lefel gorfforaethol.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i gyrraedd y safonau uchaf o ymarfer diogelu ar draws y sefydliad cyfan, ac mae'r Grŵp Diogelu Corfforaethol, gyda'i aelodaeth o uwch-swyddogion a'r aelod cabinet arweiniol dros Ddiogelu, a chefnogaeth ei grwpiau cyflawni diogelu cysylltiedig, yn allweddol i gyflawni'r nod hwn.
Nodau ac Amcanion
Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn:
· Rhoi sicrwydd i'r Cabinet a'r Prif Weithredwr fod gweithdrefnau corfforaethol y Cyngor ar draws y sefydliad gyfer diogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg yn gadarn ac yn effeithiol.
· Arwain ac yn cyfeirio'r Cyngor mewn perthynas â threfniadau diogelu corfforaethol, gan sicrhau bod diogelwch a llesiant plant ac oedolion sy'n wynebu risg yn parhau i fod yn flaenoriaeth gorfforaethol.
· Sicrhau bod yr holl weithwyr, gwirfoddolwyr, aelodau etholedig a gwasanaethau dan gontract yn deall eu cyfrifoldebau unigol a chyfunol dros gadw plant ac oedolion yn ddiogel.
· Cefnogi swyddogaethau a dyletswyddau'r Cyfarwyddwr Statudol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.
· Ymateb i sylwadau'r Cabinet, y pwyllgorau craffu, archwilwyr mewnol/allanol a rheoleiddwyr allanol
· Nodi blaenoriaethau diogelu mewn ymateb i'r uchod
· Ystyried a chymeradwyo polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau diogelu corfforaethol o fewn y Cyngor
· Dadansoddi gwybodaeth am berfformiad i sicrhau cydymffurfiaeth â'r polisi diogelu corfforaethol, deddfwriaeth berthnasol, canllawiau statudol a safonau diogelu Sir Gaerfyrddin.
· Cefnogi Swyddogion Arweiniol Diogelu Dynodedig i gydweithio a rhannu gwybodaeth yn effeithiol ar draws gwasanaethau.
· Goruchwylio archwiliadau ac arolygiadau mewnol neu allanol sy'n ymwneud â threfniadau diogelu Cyngor Sir Caerfyrddin, a chydweithio â'r sawl sy'n eu cynnal.
· Goruchwylio a gweithredu ar ganfyddiadau archwilio ac arolygu, gan gynnwys unrhyw welliannau angenrheidiol.
· Helpu archwilio mewnol i fonitro gweithdrefnau diogelu a goruchwylio unrhyw adroddiadau ac argymhellion yn ôl yr angen.
· Nodi a datrys problemau a allai atal rhoi gweithdrefnau diogelu effeithiol ar waith.
· Sicrhau bod perthnasoedd yn cael eu cynnal gydag asiantaethau partner, darparwyr gwasanaeth a Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.
· Sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael a bod cyflogeion, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr, a gwasanaethau dan gontract yn ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.
· Ystyried ac ymateb i wybodaeth am berfformiad diogelu corfforaethol a nodi unrhyw gyfleoedd i wella.
· Ystyried goblygiadau unrhyw Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl lleol, rhanbarthol neu genedlaethol neu unrhyw adolygiad diogelu arall, a sicrhau bod y Cyngor yn ymateb yn effeithiol i unrhyw argymhellion.
· Helpu'r grwpiau cyflawni diogelu corfforaethol i lunio, arwain a monitro datblygiad cynllun gwaith ar gyfer y Cyngor mewn perthynas â diogelu corfforaethol.
· Sicrhau bod adolygiad blynyddol o'r Polisi Diogelu Corfforaethol ac o gynnwys gwefannau mewnol ac allanol.
· Llunio Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol ar gyfer y Pwyllgorau Craffu perthnasol a'r Cabinet, fel y bo'n briodol.
Aelodaeth
· Cadeirydd - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai (Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol)
· Aelod Arweiniol dros Ddiogelu Corfforaethol (Iechyd Integredig a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Oedolion)
· Y Prif Weithredwr Cynorthwyol - Rheoli Pobl a Pherfformiad
· Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden
· Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
· Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion
· Pennaeth Addysg
· Pennaeth Cynhwysiant
· Rheolwr Gwasanaeth Amddiffyn Plant (Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol)
· Uwch-reolwr Amddiffyn Oedolion (Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol)
· Cynrychiolwyr Diogelu Dynodedig y Gyfarwyddiaeth
· Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Partneriaethau Diogel
· Cadeirydd Grŵp Cyflawni - Gweithlu a Gweithle Diogel
· Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Ymarfer a Pherfformiad Diogel
· Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Grŵp Gweithredol Lleol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (I'w gadarnhau)
Gall swyddogion eraill gael eu cyfethol yn ôl yr angen a chytunir arnynt gan y grŵp.
Bydd aelodau'r Grŵp Diogelu Corfforaethol yn chwarae rôl weithredol wrth sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion. Bydd pob aelod o'r grŵp yn hyrwyddo diogelu o fewn ei gyfarwyddiaeth a'r sefydliad ehangach. Bydd Aelodau yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau diogelu corfforaethol a sicrhau lefelau uchel o gydymffurfiaeth. Bydd gan bob aelod o'r grŵp fynediad brys at y Cyfarwyddwr Statudol, y Prif Weithredwr Cynorthwyol neu'r Aelod Arweiniol dros Ddiogelu os oes angen. Os bydd unrhyw aelod o'r grŵp yn methu mynychu cyfarfod, rhaid i'r aelod sicrhau bod swyddog priodol yn bresennol yn ei le. Mae'n rhaid rhoi gwybodaeth briodol i'r swyddog sy'n dirprwyo, ac mae'n rhaid ei fod yn gallu cyfrannu'n llawn at y cyfarfod.
Amlder Cyfarfodydd
Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn cwrdd bob chwarter.
Gellir trefnu cyfarfodydd ad-hoc neu frys ar unrhyw adeg fel sy'n cael ei ystyried yn briodol.
Llywodraethu ac Adrodd
Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn adrodd i'r Tîm Rheoli Corfforaethol bob chwe mis neu'n fwy aml fel y bo'r angen.
Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn llunio adroddiad blynyddol ar gyfer y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi sylw i'r prif feysydd ffocws a gweithgarwch yn y flwyddyn flaenorol, gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad perthnasol, ac yn nodi'r blaenoriaethau sydd ar ddod i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â'r Polisi Diogelu Corfforaethol a disgwyliadau diogelu eraill.
Bydd Cadeirydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol a/neu Gadeirydd y Grŵp Cyflawni Partneriaethau Diogel yn rhoi gwybod i Fwrdd Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru am unrhyw faterion brys sy'n codi neu themâu sy'n dod i'r amlwg a allai fod yn berthnasol i'r rhanbarth ac ar draws asiantaethau.
