Polisi Diogelu Corfforaethol
Diogelu Pobl yn Sir Gaerfyrddin | Diweddarwyd fis Mehefin 2026
Yn yr adran hon
- Cydnabod pryderon ac ymateb iddynt
- Delio â phryder diogelu
- Rhoi gwybod am bryder
- Monitro ac Adolygu
- Atodiad 1 -Beth yw Camdriniaeth?
- Atodiad 1 parhad - Oedolion sy'n Wynebu Risg - Categorïau a dangosyddion camdriniaeth
- Atodiad 2 - Canllawiau / Deddfwriaeth Berthnasol
- Adodiad 3 - Grŵp Diogelu Corfforaethol (Llywodraethu Diogel) Cylch Gwaith
- Atodiad 2 - Offeryn Archwilio - Hunanasesiad Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin
Cwmpas
Yn ôl Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: -
Plentyn sy'n wynebu risg yw plentyn sy'n:
· profi camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, neu sy'n wynebu risg o hynny,
· sydd ag anghenion gofal a chymorth, boed yr awdurdod yn diwallu unrhyw rai o'r anghenion hynny ai peidio.
Oedolyn sy'n wynebu risg yw oedolyn sy'n:
· profi camdriniaeth, esgeulustod, neu sy'n wynebu risg o hynny,
· sydd ag anghenion gofal a chymorth, boed yr awdurdod yn diwallu unrhyw rai o'r anghenion hynny ai peidio ac;
· sydd methu amddiffyn ei hun rhag y gamdriniaeth neu'r esgeulustod, neu'r risg o hynny, o ganlyniad i'r anghenion hynny.
Y diffiniad o blant a phobl ifanc yw unrhyw un nad yw wedi cyrraedd ei ben-blwydd yn 18 oed eto. Nid yw hyn yn eithrio person ifanc 16 oed sydd mewn Addysg Bellach, neu sy'n aelod o'r Lluoedd Arfog, yn yr ysbyty, mewn sefydliad i droseddwyr ifanc, neu yn y carchar. Amlinellir esboniad llawn o bob math o gam-drin ac esgeuluso yn Atodiad 1.
