Polisi Diogelu Corfforaethol
Diogelu Pobl yn Sir Gaerfyrddin | Diweddarwyd fis Mehefin 2026
Yn yr adran hon
- Cydnabod pryderon ac ymateb iddynt
- Delio â phryder diogelu
- Rhoi gwybod am bryder
- Monitro ac Adolygu
- Atodiad 1 -Beth yw Camdriniaeth?
- Atodiad 1 parhad - Oedolion sy'n Wynebu Risg - Categorïau a dangosyddion camdriniaeth
- Atodiad 2 - Canllawiau / Deddfwriaeth Berthnasol
- Adodiad 3 - Grŵp Diogelu Corfforaethol (Llywodraethu Diogel) Cylch Gwaith
- Atodiad 2 - Offeryn Archwilio - Hunanasesiad Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin
Pwrpas
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sy'n wynebu risg yn flaenoriaeth fawr i Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r Polisi Diogelu Corfforaethol hwn yn darparu fframwaith ar gyfer pob aelod o staff a Gwasanaeth yn y Cyngor, gan nodi cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn ogystal â’r dulliau y bydd y Cyngor yn eu defnyddio i wybod yn sicr ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl gyflogeion, gweithlu, gwirfoddolwyr, a chynghorwyr y Cyngor Sir, a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. At ddibenion y polisi hwn, diffinnir 'gweithlu' fel y rheiny sy'n gwneud gwaith i'r Cyngor, gan gynnwys cyflogeion parhaol a dros dro, myfyrwyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr a gyflogir gan asiantaethau cyflogaeth, contractwyr ac ymgynghorwyr.
Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb, pa un a ydynt yn gweithio i’r Cyngor ynteu ar ran y Cyngor.
Y bwriad yw y bydd y Polisi Diogelu Corfforaethol hwn yn ategu ac nid yn disodli unrhyw gyfrifoldebau sydd eisoes wedi’u nodi mewn deddfwriaeth, polisi neu ganllawiau.
Mae'r polisi corfforaethol yn ategu dogfennau diogelu eraill yr awdurdod lleol fel:
- Polisi a Chanllawiau Recriwtio Diogel
- Polisi Datgelu Camarfer
- Polisi / Gwiriadau a Hunan-ddatgeliadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - Canllawiau i reolwyr
- Canllawiau i Wirfoddolwyr
- Canllawiau Caffael
- Canllawiau ynghylch Safonau Ymddygiad
- Côd Ymddygiad (Rhan o Gyfansoddiad y Cyngor)
