Polisi Diogelu Corfforaethol
Diogelu Pobl yn Sir Gaerfyrddin | Diweddarwyd fis Mehefin 2026
Yn yr adran hon
- Cydnabod pryderon ac ymateb iddynt
- Delio â phryder diogelu
- Rhoi gwybod am bryder
- Monitro ac Adolygu
- Atodiad 1 -Beth yw Camdriniaeth?
- Atodiad 1 parhad - Oedolion sy'n Wynebu Risg - Categorïau a dangosyddion camdriniaeth
- Atodiad 2 - Canllawiau / Deddfwriaeth Berthnasol
- Adodiad 3 - Grŵp Diogelu Corfforaethol (Llywodraethu Diogel) Cylch Gwaith
- Atodiad 2 - Offeryn Archwilio - Hunanasesiad Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin
Llywodraethu
Mae'r cyfrifoldeb am fonitro effeithiolrwydd trefniadau diogelu corfforaethol ar draws Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ei ddirprwyo i'r Grŵp Diogelu Corfforaethol, sy'n cael ei gefnogi gan sawl grŵp cyflawni.
Mae'r Grŵp Diogelu Corfforaethol yn atebol i'r
|
|
|
Adrodd
Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn cyflwyno diweddariad chwe-misol ar drefniadau a gweithgareddau Diogelu Corfforaethol i'r Tîm Rheoli Corfforaethol, yn ogystal ag adroddiad blynyddol i'r Pwyllgor Craffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Yn ogystal, fel partner statudol i Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu diweddariad blynyddol sy'n amlinellu'r trefniadau corfforaethol sydd ar waith i ddiogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg.
Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl y Pwyllgor Craffu yw adolygu a chraffu ar benderfyniadau a gwneud adroddiadau neu argymhellion mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r Cyngor, boed hynny gan y Cabinet neu ran arall o'r Cyngor.
Bydd y pwyllgor craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi her adeiladol i'r Cyngor ynghylch ei weithgarwch diogelu corfforaethol mewn modd diduedd ac annibynnol.
Y Grŵp Diogelu Corfforaethol (Llywodraethu Diogel)
Mae'r Grŵp Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i Lywodraethu Diogel dan arweiniad set ddiffiniedig o flaenoriaethau allweddol sydd wedi'u llywio gan arsylwadau'r Cabinet a Chraffu, archwilwyr mewnol ac allanol, a rheoleiddwyr. Mae'r blaenoriaethau hyn yn cael eu cyflawni a'u monitro gan grwpiau cyflawni diogelu corfforaethol, gyda phwyslais ar weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod y Cyngor yn bodloni ei rwymedigaethau diogelu statudol. Bydd y grŵp yn gwirio bod gan bob maes gwasanaeth drefniadau diogelu cynhwysfawr sy'n destun archwilio a goruchwylio rheolaidd.
Bydd aelodau'r Grŵp Diogelu Corfforaethol yn chwarae rôl weithredol wrth sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion. Bydd pob aelod o'r grŵp yn hyrwyddo diogelu o fewn ei gyfarwyddiaeth a'r sefydliad ehangach. Bydd aelodau yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau diogelu corfforaethol a sicrhau lefelau uchel o gydymffurfiaeth. Bydd gan bob aelod o'r grŵp fynediad brys at y Cyfarwyddwr Statudol, y Prif Weithredwr Cynorthwyol neu'r Aelod Arweiniol dros Ddiogelu os oes angen. Os bydd unrhyw aelod o'r grŵp yn methu mynychu cyfarfod, rhaid i'r aelod sicrhau bod swyddog priodol yn bresennol yn ei le. Mae'n rhaid rhoi gwybodaeth briodol i'r swyddog sy'n dirprwyo, ac mae'n rhaid ei fod yn gallu cyfrannu'n llawn at y cyfarfod.
Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a fydd yn nodi newidiadau mewn themâu a'r dysgu a strategaethau a weithredir i fynd i'r afael â'r newidiadau hynny, yn tynnu sylw at berfformiad y Cyngor wrth gydymffurfio â'r Polisi Diogelu Corfforaethol, ac yn adrodd ar berfformiad diogelu pob maes gwasanaeth. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol drwy'r Tîm Rheoli Corfforaethol.
Bydd Cadeirydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn rhoi gwybod i Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru am unrhyw faterion brys sy'n codi neu themâu sy'n dod i'r amlwg a allai fod yn berthnasol i'r rhanbarth ac ar draws asiantaethau.
Bydd aelodau'r Grŵp Diogelu Corfforaethol yn cynnwys y swyddogion canlynol-
· Cadeirydd - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai (Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol)
· Aelod Arweiniol dros Ddiogelu Corfforaethol (Iechyd Integredig a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Oedolion)
· Y Prif Weithredwr Cynorthwyol - Rheoli Pobl a Pherfformiad
· Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden
· Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
· Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion
· Rheolwr Gwasanaeth Amddiffyn Plant (Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol)
· Uwch-reolwr Amddiffyn Oedolion (Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol)
· Cynrychiolwyr Diogelu Dynodedig y Gyfarwyddiaeth
· Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Partneriaethau Diogel
· Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Gweithlu a Gweithle Diogel
· Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Ymarfer a Pherfformiad Diogel
· Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Grŵp Gweithredol Lleol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (I'w gadarnhau)
Bydd Swyddogion eraill yn cael eu cyfethol yn ôl yr angen a chytunir arnynt gan y grŵp.
Mae cylch gorchwyl y Grŵp Diogelu Corfforaethol i'w weld yn Atodiad 3.
Bydd cymorth busnes dynodedig yn cael ei ddarparu.
Caiff y Grŵp Diogelu Corfforaethol ei gefnogi gan bedwar Grŵp Cyflawni, pob un â'i feysydd ffocws allweddol ei hun. Bydd y grwpiau cyflawni yn cwrdd bob chwarter a byddant yn adrodd wrth y Grŵp Diogelu Corfforaethol. Cadeirydd y grwpiau fydd uwch-swyddog a fydd yn sicrhau bod y meysydd blaenoriaeth, y cynlluniau gweithredu a'r mesurau perfformiad cysylltiedig yn cael eu goruchwylio'n gadarn. Rhestrir rhai o’r prif feysydd ffocws isod:
Grŵp Cyflawni Gweithle / Gweithlu Diogel
· Diogelu fel cyfrifoldeb ar bawb.
· Recriwtio diogel
· Dadansoddi anghenion hyfforddi
· Darparu Hyfforddiant
· Polisïau'r Gweithlu a'r Gweithle
· Polisi/gwiriadau'r DBS
· Contractau Allanol / Gwirfoddolwyr
· Rolau a chyfrifoldebau
· Codi ymwybyddiaeth/cyfathrebu.
· Rhoi gwybod am gam-drin ac esgeuluso
Grŵp Cyflawni Ymarfer a Pherfformiad Diogel
· Diogelu fel cyfrifoldeb ar bawb
· Polisïau Diogelu
· Mesurau Perfformiad
· Archwiliadau / arolygiad
· Adolygu a Monitro
· Ymgorffori Dysgu ar y Cyd
· Rhannu gwybodaeth
· Camau gwella / Ymarfer da
· Ymyrraeth Gynnar/Atal
· Llais y Plentyn/Oedolyn / gwneud diogelu'n bersonol.
· Eiriolaeth
· Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth / adborth
· Cyfathrebu
Grŵp Cyflawni Partneriaethau Diogel
A elwir hefyd yn Grŵp Gweithredol Lleol Sir Gaerfyrddin (CLOG)
Mae Grŵp Gweithredol Lleol Sir Gaerfyrddin yn adrodd wrth Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, a dyma'r grŵp amlasiantaeth gweithredol ar gyfer diogelu oedolion a phlant.
Rhan o gylch gwaith Grŵp Gweithredol Lleol Sir Gaerfyrddin yw cydweithio i sicrhau bod trefniadau diogelu ar y cyd yn gweithredu'n effeithiol yn Sir Gaerfyrddin.
Mae aelodau'r Grŵp Gweithredol Lleol yn cynnwys rheolwyr ac ymarferwyr ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Addysg Uwch ac Addysg Bellach, Iechyd, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf a'r Sector Gwirfoddol.
Ei brif feysydd ffocws yw:
· Systemau a Phrosesau Diogelu Amlasiantaeth
· Cydweithio â Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru
· Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl
· Data/Gwybodaeth Sicrhau Ansawdd
· Llais yr Oedolyn a'r Plentyn
· Polisïau a Gweithdrefnau Amlasiantaeth
· Hyfforddiant Amlasiantaeth
· Archwiliadau Amlasiantaeth
· Perfformiad ac Adolygiadau Amlasiantaeth
Grŵp Gweithredol Lleol Sir Gaerfyrddin (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, Trais Rhywiol -VAWDASV-LOG)
· Ymagwedd Amlasiantaeth at fynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
· Sefydlu Dysgu o Adolygiadau Dynladdiad Domestig
· Nodi Blaenoriaethau Lleol/anghenion heb eu diwallu
· Datblygu Strategaeth Leol/Cynllun Gweithredu
· Llais Goroeswyr
· Cysylltu â Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru
Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru
Sefydlwyd trefniadau'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol i fodloni gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cwmpasu dros hanner tir Cymru, ac mae'n ffinio â 9 sir yng Nghymru, yn ogystal â siroedd yn Lloegr.
Mae swyddogaethau statudol y bwrdd yn cael eu cyflawni gan Awdurdodau Lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, a Phowys, Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Cymru a'r Gwasanaeth Prawf (Cymru). Gall y bwrdd hefyd gynnwys personau neu gyrff eraill y mae o'r farn y dylai fod ganddynt gynrychiolaeth ac sy'n ymwneud â gweithgareddau neu swyddogaethau cysylltiedig â phlant neu oedolion yn ei ardal.
Mewn ymateb i boblogaeth a daearyddiaeth amrywiol y rhanbarth, mae CYSUR a CWMPAS yn cydnabod yr angen i gynnal ffocws lleol a rhanbarthol. Y diben rhanbarthol yw cydgysylltu cyfeiriad strategol, cydweithio, cysondeb a gwelliant ymarfer diogelu ar draws y rhanbarth. Y diben lleol yw cydlynu ymarfer lleol, a gweithio tuag at sicrhau trefniadau lleol effeithiol i ddiogelu a hyrwyddo llesiant oedolion sy'n wynebu risg, plant a phobl ifanc.
Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb cyffredinol dros herio asiantaethau partner perthnasol mewn perthynas â'r mesurau sydd ar waith i amddiffyn plant ac oedolion sy'n wynebu risg. Mae'n rhaid iddo gyhoeddi cynllun blynyddol ac adroddiad blynyddol fel rhan o'i drefniadau llywodraethu ac atebolrwydd.
Mae'r cynllun blynyddol yn amlinellu blaenoriaethau, canlyniadau a gweithgareddau arfaethedig y Bwrdd am y flwyddyn sydd i ddod. Mae'r adroddiad blynyddol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynllun yn ystod y cyfnod adrodd perthnasol.
Mae gan Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru ddwy ffrwd waith benodol, un ar gyfer plant (CYSUR) ac un ar gyfer oedolion (CWMPAS). Caiff y ddwy eu goruchwylio gan fwrdd rhanbarthol cyfunol sy'n cwrdd bob chwarter.
CYSUR yw Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'n acronym ar gyfer 'Child and Youth Safeguarding; Unifying the Region', ac wrth gwrs mae hefyd yn air Cymraeg cyfarwydd. Mae CYSUR yn gyfuniad o'r hen Fyrddau Diogelu Plant Lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
CWMPAS yw Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dyma air Cymraeg sydd hefyd yn Saesneg yn acronym ar gyfer 'Collaborative Working and Maintaining Partnership in Adult Safeguarding'. Mae CWMPAS hefyd yn ymestyn ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Gyda'i gilydd caiff CYSUR a CWMPAS eu hadnabod fel Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.
CADW
yw'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Iau ac mae'n acronym ar gyfer 'Children taking Action Differently in Wales'. Mae pobl ifanc o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys yn rhan o CADW a'r nod yw:
· Sicrhau bod gan bobl ifanc ddealltwriaeth o ddiogelu
· Cynyddu ymwybyddiaeth a rhannu barn pobl ifanc
· Gweithio ar ran pobl ifanc ar draws y pedair sir
· Herio penderfyniadau'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol
Bwrdd Strategol Rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)
Wedi'i sefydlu fel gofyniad statudol o fewn Deddf VAWDASV 2015 i arwain gweithredu'r Ddeddf yn strategol yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bartner statudol allweddol ar y Bwrdd, yn cyfrannu'n llawn at ei ffrydiau gwaith, ac yn sicrhau cysondeb da rhwng y Bwrdd a rhaglenni gwaith y Cyngor.
