Ysgolion uwchradd

Mae addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg ar gael o fewn pellter rhesymol i bob cartref yn Sir Gaerfyrddin. Gall unrhyw blentyn sydd yn rhugl ddwyieithog yn yr ysgol gynradd ddilyn llwybr llyfn i addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

Yn union fel yn y cynradd, fe addysgir Cymraeg a Saesneg fel pynciau unigol mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Defnyddir y Gymraeg hefyd fel cyfrwng addysgu ar gyfer pynciau eraill ac fel cyfrwng gweithgareddau allgyrsiol. Fel hyn, mae dwyieithrwydd person ifanc yn cael ei gynnal a’i ddatblygu drwy gydol ei addysg.

Fe fydd disgwyl i berson ifanc sydd wedi dilyn addysg Gymraeg yn y cynradd i barhau gyda’r rhaglen hon yn yr uwchradd er mwyn iddynt allu parhau i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd i’r uwchradd o safbwynt cyfrwng dysgu, fe fydd yr ysgol gynradd ac ysgolion uwchradd cyfagos yn gallu rhoi arweiniad i chi.

Gan fod Saesneg yn iaith sy’n dominyddu’r cyfryngau, y cyfryngau cymdeithasol ayb, bydd sgiliau Cymraeg bobl ifanc yn cael eu hatgyfnerthu os ydynt yn defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth gymaint â phosibl. Mae bob amser yn syniad da i roi’r cyfle iddynt i ddefnyddio Cymraeg gartref, yn eu gweithgareddau hamdden neu wrth wylio’r teledu. Yr allwedd i bobl ifanc fod yr un mor hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg yw iddynt barhau i gymryd mantais o gyfleoedd cyfrwng Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol gynradd. Os ydy person ifanc yn ddwyieithog yn 16 neu 18 oed, gall e/hi addasu’n arbennig o dda at astudiaethau pellach drwy’r naill iaith neu’r llall mewn unrhyw bwnc.