Canolbwyntio
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Mae gallu plant/pobl ifanc i ganolbwyntio a ffocysu’n datblygu wrth iddynt dyfu'n hŷn. Mae'n wahanol i bob plentyn/person ifanc. Bydd rhai plant/pobl ifanc yn cael anhawster arbennig i dalu sylw, gyda diffyg amynedd a/neu gyda gorfywiogrwydd, yn fwy felly na'u ffrindiau. Weithiau gelwir hyn yn Anhwylder Diffyg Canolbwyntio Gorfywiogrwydd neu ADHD.
Gall plant/pobl ifanc ag anawsterau ADHD:
- ymddangos fel pe na baent yn gwrando ar yr hyn sy'n cael ei ddweud;
- cael trafferth trefnu eu hunain;
- golli sylw'n hawdd;
- fod yn aflonydd;
- mynd allan o'u sedd a/neu redeg o gwmpas;
- cael trafferth aros a chymryd eu tro.
Gellir cysylltu'r problemau hyn ag anawsterau ymddygiadol a chymdeithasol.
Sut bydd yr ysgol yn helpu?
Gall ysgolion helpu drwy:
- atgyfnerthu ymddygiad da yn gadarnhaol;
- cynnal awyrgylch tawel;
- sicrhau bod ceryddu ac ailgyfeirio yn ymwneud â'r dasg;
- parchu hunan-barch plentyn;
- rhannu tasgau a chyfarwyddiadau yn gamau bach;
- addysgu a chefnogi sgiliau trefnu;
- cynnig dewis o wobrau.
Dylai plant, pobl ifanc, rhieni neu ofalwyr siarad â'r ysgol i ddechrau os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am allu'r dysgwr i ganolbwyntio neu ffocysu.
Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd yn ôl eu hanghenion yn yr ystafell ddosbarth. Efallai y bydd angen iddynt weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu i gefnogi anghenion neu helpu i nodi angen. Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol drwy broses gwneud penderfyniadau.
Dolenni cyswllt:
