Coleg i ddisgyblion blwyddyn 11
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Wyt ti ym mlwyddyn 11 yn yr ysgol ac yn teimlo bod angen rhywbeth gwahanol arnat?
Mae ein darpariaeth Mynediad Ieuenctid yng Ngholeg Sir Gâr wedi’i bwriadu ar gyfer dysgwyr sy’n perthyn i’r categorïau canlynol:
- Yn mynd i fod yn dechrau ym Mlwyddyn 11 yn y flwyddyn academaidd nesaf,
- Yn cytuno gyda’r Ysgol bod Mynediad Ieuenctid yn llwybr dilyniant da,
- Yn gallu dangos diddordeb go iawn mewn rhaglen alwedigaethol/cwrs a ddewiswyd
- Yn meddu ar lefelau llythrennedd a rhifedd sy’n gyson â’r disgwyliadau ar gyfer eu dewis gwrs
- Yn gallu ymddwyn mewn ffordd nad yw’n gwrthdaro â dyletswyddau a pholisïau’r Coleg ym meysydd diogelu, ymddygiad, parch a chydraddoldeb.
Sut ydw i’n ymgeisio?
Bydd yn rhaid iti fod ym mlwyddyn 10 neu 11 (blwyddyn 11 fel arfer ar gyfer lleoliadau yn y coleg) i ymgeisio am le ar ein rhaglen Mynediad Ieuenctid.
Os wyt ti’n meddwl am ymgeisio, dylet fod yn ymwybodol bod yn rhaid i’r Ysgol wneud atgyfeiriad gyda chefnogaeth rhieni/gwarcheidwaid.
Cwrs yn y Coleg | Campws | Lleoedd ar gael |
---|---|---|
Celf, Dylunio a’r Cyfryngau | Pibwrlwyd | 2 |
Gofal am Anifeiliaid Bach | Pibwrlwyd | 2 |
Astudiaethau Ceffylau | Pibwrlwyd | 2 |
Gweinyddu Busnes ac Adwerthu Sylfaen | Pibwrlwyd | 2 |
Arlwyo Lefel 1 | Pibwrlwyd | 2 |
Peirianneg Cerbydau Modur | Pibwrlwyd | 2 |
Galwedigaethau Crefftau Adeiladu (a elwir yn Aml Sgil, yn cynnwys sawl crefft) | Rhydaman | 16 |
Gofal Plant | Rhydaman | 2 (Gwiriad DBS yn ofynnol) |
Lefel Mynediad Gyffredinol | Rhydaman | 2 |
Amaethyddiaeth/Peirianneg Amaethyddol | Gelli Aur | 2 |
Cyn sylfaen gyda rhagflas o’r pynciau canlynol yn ogystal â Gwobr Dug Caeredin a gwasanaethau cyhoeddus, chwaraeon, adeiladu, peirianneg, technoleg gwybodaeth, teithio a thwristiaeth | Y Graig | 2 |
Y Celfyddydau Perfformio naill ai Actio neu Gerdd | Y Graig | 2 (yn ddibynnol ar gyfweliad/clyweliad) |
Gwyddor Chwaraeon | Y Graig | 2 |
Gwasanaethau Cyhoeddus | Y Graig | 2 |
Therapi Harddwch | Y Graig | 2 |
Trin Gwallt | Y Graig | 2 |
Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Y Graig | 2 (Gwiriad DBS yn ofynnol) |
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Sir Gâr
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi