Ein Dysgwyr
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/11/2024
Mae Dysgu Sir Gâr yn ymdrechu i sicrhau bod y dysgwr wrth wraidd ei holl weithgareddau. Rydym yn croesawu eich cyfranogiad i'n helpu ni i wella ein gwasanaeth drwy werthusiadau, adborth a digwyddiadau.
Mae ein Dysgwyr yn disgrifio sut y mae cymryd rhan mewn dysgu yn cyfoethogi eu bywyd, gwella eu cyfleoedd bywyd, a mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysu. Mae dysgwyr yn gwella eu llesiant drwy ystod o ddosbarthiadau diddordeb personol ac academaidd, sy'n cynnwys crefftau, celf a cherdd. Maent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi pellach a gynhelir gan y bartneriaeth neu gan sefydliadau partner ehangach. Er enghraifft, mae dysgwyr ESOL yn rhannu bwyd a ryseitiau traddodiadol fel rhan o'u dysgu ac mewn digwyddiadau cymdeithasol ychwanegol. Mae hyn yn eu galluogi i greu ffrindiau newydd, gwella eu dealltwriaeth o ddiwylliannau eraill a hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol.
Mae ein Dysgwyr yn manteisio ar ryngweithio â dygwyr eraill o bob cwr o'r byd, ynghyd â dysgu am ddiwylliant Cymru. Fe'u hanogir i ddisgrifio digwyddiadau diwylliannol y maent wedi'u mynychu yng Nghymru, fel Sul y Cofio, a thrafod digwyddiadau tebyg yn eu gwledydd eu hunain. Mae hyn yn datblygu eu dealltwriaeth o'r gymuned leol, y byd ehangach a phwysigrwydd goddefgarwch a pharchu eraill.
Rydym hefyd wedi dechrau cymryd camau cadarnhaol er mwyn ymateb i fwy o alw gan ddysgwyr am faterion yn gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mae aelodau o staff wedi cael eu cefnogi i gael eu hyfforddi'n ffurfiol mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl ac mae'r holl staff wedi mynychu dysgu proffesiynol ar bynciau fel ymarfer sy'n seiliedig ar drawma. Mae hyn wedi helpu staff i feddu ar well dealltwriaeth o sut y mae nodi a chefnogi dysgwyr â phryderon iechyd meddwl.
Rydym am i'n dysgwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u clywed, ac rydym yn croesawu eich adborth. Rydym eisiau gwybod beth yr ydym yn ei wneud yn dda a beth allwn ni ei wneud yn well. Rydym yn trin pob sylw, awgrym a chwyn o ddifri, i'n helpu i wella ein gwasanaeth yn barhaus.
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Sir Gâr
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi