Prydau ysgol uwchradd
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Mae Gwasanaeth Arlwyo Sir Gaerfyrddin yn darparu gwasanaeth caffeteria i'r disgyblion mewn 12 o ysgolion uwchradd ar draws y sir, sy'n cynnig digon o ddewis o ran prydau a byrbrydau blasus i helpu eich plentyn i ymdopi â phrysurdeb ei ddiwrnod ysgol.
Mae ein holl fwydlenni'n cydymffurfio â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013, a ddaeth yn ddeddfwriaeth ym mis Medi 2013. Mae'r bwyd rydym yn ei weini yn cael ei baratoi'n ffres ar y safle bob dydd gan ddefnyddio cynhwysion o ansawdd da. Ein nod yw sicrhau bod pob disgybl yn cael prydau iach a maethlon ac y darperir hefyd ar gyfer disgyblion sydd â deiet arbennig.
Mae maeth ein bwydlenni'n cael ei ddadansoddi gan ddefnyddio meddalwedd arbenigol ac mae'r bwydlenni'n werth yr arian. Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth o brydau bargen am £2.80 sef yr un pris â'n lwfans Pryd Ysgol am Ddim. Hefyd drwy gydol y flwyddyn rydym yn trefnu ac yn hyrwyddo diwrnodau thema a chystadlaethau i annog disgyblion i roi cynnig ar brydau newydd.
Mae ein gwasanaeth caffeteria wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd drwy ddatblygu'r systemau arlwyo di-arian sydd ar waith mewn deg o'n hysgolion bellach. Mae'r systemau'n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf gan olygu nad oes yn rhaid i'r disgyblion gario arian gyda hwy drwy gydol y diwrnod ysgol.
Dyma rai o fanteision eraill y system:
- Mae'r gwasanaeth yn gyflymach ac mae llai o aros mewn ciw
- Mae'r plant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn gallu eu cael heb dynnu sylw at hynny gan sicrhau bod mwy o gydraddoldeb a chynhwysiant
- Nid oes angen cario arian, gan atal arian rhag cael ei golli neu'i ddwyn
- Drwy fonitro eu cyfrifon, mae'r disgyblion yn dysgu sgiliau pwysig ynghylch rheoli eu ffordd o fyw
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Sir Gâr
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi