Casgliadau gwastraff ar wahân – yn y gweithle
Diweddarwyd y dudalen ar: 29/10/2024
Mae cyfraith ailgylchu newydd yn y gweithle yn dechrau o 6 Ebrill 2024. Mae'n golygu y bydd angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus ddidoli eu gwastraff i'w ailgylchu yn yr un ffordd ag y mae'r rhan fwyaf o aelwydydd yn ei wneud nawr. Y nod yw gwella ansawdd a maint yr ailgylchu yng Nghymru.
Yr hyn y mae'r gyfraith newydd yn ei olygu?
Bydd yn rhaid i bob gweithle wahanu'r deunyddiau canlynol i'w casglu:
Bwyd
Papur a cherdyn
Gwydr
Metelau, plastigau a chartonau
Tecstilau heb eu gwerthu
Offer trydanol ac electronig gwastraff bach heb eu gwerthu (sWEEE)
Bydd gwaharddiad hefyd ar:
Anfon unrhyw wastraff bwyd (o ba faint bynnag) i garthffosydd
Gwastraff a gesglir ar wahân sy’n mynd i safleoedd llosgi a thirlenwi
Pob gwastraff pren sy’n mynd i safleoedd tirlenwi
Chi sy'n gyfrifol am yr holl wastraff yn y safle rydych chi'n ei feddiannu. Mae'r rhain yn cynnwys gwastraff a gynhyrchir gan eich staff, ymwelwyr a chontractwyr neu werthwyr sy'n gweithio ar y safle.
Mae hefyd yn berthnasol i'r holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff ac ailgylchu sy'n casglu ac yn rheoli gwastraff o weithleoedd.
I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ewch i: www.llyw.cymru/ailgylchuynygweithle
Ailgylchu, Biniau a Sbwriel
Ailgylchu / casgliadau biniau
Bagiau glas - Ailgylchu
Gwastraff bwyd
Gwastraff gardd
Canolfannau Ailgylchu
Mwy ynghylch Ailgylchu, Biniau a Sbwriel