Erbyn hyn mae'n rhaid i bron pob datblygiad gyflwyno cais SuDS i'r Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB) ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae angen gwneud hyn er mwyn sicrhau bod y datblygiad yn dangos yn gyfreithiol gydymffurfiaeth â'r safonau SuDs statudol ar gyfer dylunio, adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw systemau draenio dŵr wyneb sy'n gwasanaethu datblygiadau newydd.

Gallwch gyflwyno'ch cais SuDS fel cais ar wahân i'r SAB neu ochr yn ochr â'ch cais cynllunio. Ni chaiff y gwaith adeiladu ddechrau oni bai bod y system ddraenio ar gyfer y gwaith wedi'i chymeradwyo gan y SAB.

Dyma drosolwg symlach ar gyfer preswylfa sengl neu ymgeiswyr amaethyddol

Mae'r Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB) yn swyddogaeth statudol a ddarperir gan yr awdurdod lleol i sicrhau bod cynigion draenio ar gyfer pob datblygiad newydd lle mae'r ardal adeiladu yn 100mneu fwy ac sydd â goblygiadau draenio yn cael eu cynllunio a'u hadeiladu yn unol â'r safonau cenedlaethol o ran draenio cynaliadwy a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. Mae'n rhaid cyflwyno cais SuDS sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r safonau SuDS statudol ar gyfer dylunio, adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw systemau draenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd i'r SAB i'w gymeradwyo.

Fel rhan o'n swyddogaethau fel SAB, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Gwerthuso a chymeradwyo ceisiadau am systemau draenio ar gyfer datblygiadau lle bo gwaith adeiladu'n effeithio ar ddraenio.
  • Mabwysiadu a chynnal a chadw systemau draenio dŵr wyneb yn unol ag Adran 17 o Atodlen 3 o'r Ddeddf. Mae'n bwysig nodi y bydd y SAB ond yn ymgymryd â'i ddyletswydd i fabwysiadu systemau sydd wedi cydymffurfio â'r safonau statudol. Bydd yn rhaid i ddatblygwyr ymrwymo i gytundeb mabwysiadu cyfreithiol fel rhan o'r broses rhoi caniatâd.
  • Cymeradwyo system ddraenio ar ffordd sy'n cael ei chynnal a'i chadw ag arian cyhoeddus ond ni fydd yn ei mabwysiadu. Ffyrdd sy'n cael eu cynnal a'u cadw gan arian cyhoeddus yw'r rheiny y mae Adran 41 o Ddeddf Priffyrdd 1980 yn berthnasol iddynt.

Cysylltwch â Ni:

Trwy e-bost: SABregistrations@Sirgar.gov.uk
Dros y ffôn: 01267 228828

Mae llawer iawn o wybodaeth ar gael, ac mae'r tudalennau gwe canlynol yn adnodd defnyddiol sy'n rhad ac am ddim i gael rhagor o wybodaeth am Ddraenio Cynaliadwy a'ch helpu i ddeall beth fydd angen i chi ei ystyried.

Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru

SuDS Cymru

Susdrain

 

Daeth y ddeddfwriaeth hon i rym ar 7fed Ionawr 2019. O ran safleoedd a datblygiadau presennol sydd â chaniatâd cynllunio neu ystyrir bod caniatâd wedi'i roi iddynt (p'un a yw'n amodol ar unrhyw amodau sy'n gysylltiedig â mater a gadwyd yn ôl ai peidio), neu safleoedd lle mae cais dilys wedi dod i law ond nid oes penderfyniad yn ei gylch erbyn 7fed Ionawr 2019, ni fydd angen i'r rheiny gyflwyno cais SuDS.

Bydd angen cael cymeradwyaeth o hyd os cafodd y caniatâd cynllunio ei roi yn amodol ar amod sy'n gysylltiedig â mater a gadwyd yn ôl ac na wneir cais am gymeradwyo'r mater a gadwyd yn ôl cyn 7fed Ionawr 2020.

Mae angen cymeradwyaeth SAB ar gyfer yr holl waith adeiladu sydd â goblygiadau draenio lle mae'r datblygiad neu'r ailddatblygiad yn fwy na phreswylfa sengl neu sy'n cynnwys adeiladu adeilad neu strwythur arall ar ddarn o dir sy'n 100m2 neu'n fwy na hynny (oni bai ei fod yn dod o dan un o'r eithriadau penodol neu'r trefniadau trawsnewidiol).

Yn y ddeddfwriaeth ar gyfer draenio cynaliadwy:

  • Mae gwaith adeiladu yn golygu unrhyw beth a wneir sy'n gyfystyr â chreu adeilad neu strwythur arall, neu a wneir mewn cysylltiad â hynny neu wrth baratoi at hynny, ac
  • Mae gan waith adeiladu oblygiadau draenio os bydd yr adeilad neu'r strwythur yn effeithio ar allu'r tir i amsugno dŵr glaw.
  • Yn gyffredinol, diffinnir ardal adeiladu yn y rheoliadau ar gyfer draenio cynaliadwy fel adeiladu adeilad neu strwythur arall ar ddarn o dir 100 metr sgwâr neu fwy.

Canllaw ar gwblhau’r ffurflen cais llawn Opens in a new tab

Nid ydym yn gyfrifol am gymeradwyo, ac o ganlyniad nid ydym yn mabwysiadu system draenio sy'n:

  • Ffurfio rhan o'r rhwydwaith ffyrdd strategol
  • Ffurfio rhan o'r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol
  • Ffurfio rhan o harbwr
  • Gwasanaethu datblygiad a ganiateir sy'n llai na 100m2
  • Cael eu hadeiladu gan y bwrdd draenio mewnol o dan ei swyddogaethau yn y Ddeddf Draenio Tir 1991

Os oes gennych ddyluniad draenio ac yr hoffech gael adborth ar hyn cyn cyflwyno cais llawn, manteisiwch ar y cyfle i gyflwyno cais cyn ymgeisio am SuDS yn ffurfiol.

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio er mwyn trafod yn fanwl ofynion draenio eich safle a'r hyn y mae angen i chi ei gyflwyno gyda'ch cais.

Bydd hyn yn sicrhau bod y dyluniad SuDS arfaethedig yn addas, yn unol â'r safonau cenedlaethol, a bod y safle'n addas. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn defnyddio'r gwasanaeth hwn cyn i chi gyflwyno eich cais llawn, er mwyn cyfyngu ar yr oedi o ran cymeradwyo a lleihau'r gost yn yr hirdymor.

Os ydych wedi cael adborth cadarnhaol gan y SAB ynglŷn â'ch Cais Cyn Ymgeisio am SuDS, bydd angen i chi gyflwyno Cais SuDS Llawn i'w asesu a'i gymeradwyo er mwyn i'ch prosiect symud ymlaen at y cam adeiladu posibl.

Lawrlwytho ffurflen Cyn Ymgeisio am SuDS Opens in a new tab

Os yw eich nifer o anheddau yn hysbys, defnyddiwch Gyfrifiannell 1.

Os nad yw nifer yr anheddau’n hysbys a bod arwynebedd llawr gros yr adeiladau a/neu’r tir a grëwyd neu a newidiwyd (h.y. unrhyw beth heblaw anheddau preswyl) (m2) yn hysbys, defnyddiwch Gyfrifiannell 2.

Os nad yw nifer yr anheddau neu arwynebedd llawr gros adeiladau a/neu dir a grëwyd neu a newidiwyd yn hysbys, defnyddiwch Gyfrifiannell 3.

Sylwch y dylai'r ardal adeiladu a ddefnyddir i gyfrifo'r ffi HEFYD gynnwys ar gyfer eitemau o'r fath fel; tramwyfeydd, llwybrau, tirlunio, garejis, gweithdai, patios ac ati p'un a ellir eu hystyried yn dreiddiedig yn eu ffurf adeiledig ai peidio. 

 

Cyfrifiannell 1


Cyfrifiannell 2


Cyfrifiannell 3


Drosi erwau i hectarau
Drosi metrau sgwâr i hectarau

 

Y gofyniad lleiaf i Gais SAB fod yn ddilys yw:

  • Talu'n llawn y ffi gywir ar gyfer cyflwyno cais SAB: dolen gyswllt i'r Gyfrifiannell
  • Cynllun lleoliad safle, sy'n nodi ffiniau'r safle (gyda'r Gogledd wedi'i nodi)
  • Cynllun yn nodi'r ardal adeiladu a'r strategaeth ddraenio
  • Cynllun cynnal a chadw ffurfiol sy'n amlinellu gweithgareddau cynnal a chadw, pa mor aml y bydd y rhain yn cael eu cynnal a phwy sy'n gyfrifol am y gweithgareddau hynny
  • Cyfrifiadau dŵr wyneb ar gyfer elfennau SuDS arfaethedig
  • Datganiad ynghylch a yw'r cais yn ymwneud â datblygiad sy'n destun cais Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) ai peidio.

A hefyd:

Os na chynigir Cynaeafu Dŵr Glaw, yna bydd angen canlyniadau prawf treiddio hefyd (rydym yn ei gwneud yn ofynnol i'r prawf gael ei gwblhau a'i gyflwyno i safonau BRE365).

Os yw'r unig opsiwn ymarferol ar gyfer y cais yn cynnwys cysylltiad arfaethedig â rhwydwaith carthffosydd presennol, yna bydd angen Caniatâd/Cytundeb mewn Egwyddor hefyd gan berchennog y garthffos.

Draenio Priffyrdd: HighwayDrainConnect@Sirgar.gov.uk

Dŵr Cymru: developer.service@dwrcymru.com

Nodwch na fydd cyflwyniad sydd heb fod yn cynnwys unrhyw rai o'r gofynion yn ddilys.

Ar ôl i'r holl wybodaeth ddod i law, er boddhad y SAB, bydd gan y SAB 7 wythnos i wneud penderfyniad ynghylch cais; fodd bynnag, os yw'r cais yn destun Asesiad Effaith Amgylcheddol bydd gan y SAB 12 wythnos i wneud penderfyniad.

Felli rydym yn argymell yn gryf eich bod yn defnyddio ein gwasanaeth cyn ymgeisio cyn i chi gyflwyno cais llawn.

Anfonwch eich Cais SuDS i SABRegistrations@Sirgar.gov.uk

 

CYFLWYNO CAIS LLAWN NEU CYN-GAIS 'SuDS' Opens in a new tab

Er mwyn cynyddu'r tebygolrwydd bod Cais Llawn SuDS wedi'i ddilysu'n llwyddiannus rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno Cais Cyn Ymgeisio SuDS. Mae Proses Cyn Ymgeisio SuDS yn syml yn amlinellu mewn egwyddor sut rydych yn bwriadu rheoli'r dŵr wyneb o'ch datblygiad. Gall y tîm SAB roi adborth i chi ynglŷn â'ch cynigion draenio cyn i chi gyflwyno a thalu am Gais Llawn SuDS.

Caiff y ffioedd eu cyfrifo ar sail maint yr ardal adeiladu.

  • Nid oes angen i chi wneud cais am ardaloedd adeiladu sy'n llai na 100m2 (oni bai bod y cais yn cynnwys mwy nag un breswylfa)
  • Bydd angen i chi gyflwyno'r ffi briodol gyda'ch cais
  • Ceir gostyngiad o 50% ar gyfer ceisiadau a gyflwynir gan gynghorau cymuned

Cyfrif Ffioedd

Drosi erwau i hectarau
Drosi metrau sgwâr i hectarau

Sylwch y dylai'r ardal adeiladu a ddefnyddir i gyfrifo'r ffi HEFYD gynnwys ar gyfer eitemau o'r fath fel; tramwyfeydd, llwybrau, tirlunio, garejis, gweithdai, patios ac ati p'un a ellir eu hystyried yn dreiddiedig yn eu ffurf adeiledig ai peidio.

Ffioedd Arolygu: 

Os caiff eich cais ei gymeradwyo, fel arfer bydd o leiaf un archwiliad safle a ffi gysylltiedig o £168. Byddwch yn derbyn anfoneb am hyn ynghyd â'ch caniatâd SAB.

Os oes gennych safle mawr, neu safle lle mae'r systemau draenio yn cael eu mabwysiadu gan y SAB, yna bydd sawl archwiliad yn cael eu cyflyru. Gwneir hyn, gan ymgynghori â chi, yr ymgeisydd neu'r asiant, a chodir tâl o £168 am bob arolygiad. Bydd yr archwiliadau hyn yn sicrhau cydymffurfiaeth â'r caniatâd sydd wedi'i gymeradwyo.

Mae'r ffioedd hyn yn seiliedig ar Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, Atodlen 3, Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffioedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018.

Bydd angen i chi ddarparu'r manylion canlynol wrth dalu - math o gais, cyfeirnod y cais neu enw a lleoliad y cais os nad oes cyfeirnod gennych eto, a'r ffi gywir.

  • Ar-lein - Talu ar-lein ar yr un pryd ag y byddwch yn cyflwyno eich ffurflen gais, dyma'r ffordd fwyaf effeithlon o dalu a bydd yn osgoi unrhyw oedi wrth brosesu eich cais.
  • Dros y ffôn - Rydym yn derbyn cardiau debyd Maestro, Solo neu Visa. Os hoffech siarad ag aelod o staff o'r tîm arianwyr, ffoniwch 01267 228686 yn ystod oriau swyddfa, 9am - 5pm.
  • Drwy'r post - Gwnewch eich siec yn daladwy i 'Cyngor Sir Caerfyrddin' a'i phostio i'r cyfeiriad isod: Cofrestriadau SAB, Swyddfeydd y Cyngor, Heol Cilgant, Llandeilo SA19 6HW.
  • Yn bersonol ­- Gallwch dalu ag arian parod, cerdyn credyd/debyd neu siec yn eich Hwb agosaf yn Rhydaman, Caerfyrddin neu Lanelli.
  • Taliad BACS - anfonwch neges e-bost at SABRegistrations@sirgar.gov.uk i gael rhagor o fanylion a sefydlu taliad BACS.

Os byddwch yn dewis talu dros y ffôn, drwy'r post, yn bersonol neu drwy BACS, ni fydd eich cais yn cael ei brosesu nes bod y taliad wedi'i gysoni a fydd yn achosi ychydig o oedi.

Llwythwch mwy