Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli
Cydweli, SA17 4LW

  • Nodweddion
  • fideo
  • lluniau
  • Sut i ddod o hyd i ni

Y safle

Mae'r safle'n cynnwys 13 erw o dir, sy'n cynnwys amrywiaeth o adeiladau diwydiannol gwahanol, afon (Gwendraeth Fach) a choetir, yn ogystal â gweithfeydd archeolegol o'r 18fed Ganrif.

Adeiladau allanol

Mae saith adeilad a sied fawr ar y safle, rhai ohonynt yn gydgysylltiedig, tra bod strwythurau llai hefyd fel yr hen swyddfa ac adeilad mwy newydd sydd wedi’i gyflwyno i ymdebygu i efail gof.

Mae rhai adeiladau yn cynnwys olion mannau arddangos sy'n adrodd hanes y safle a gweithgynhyrchu a defnydd tunplat. Defnyddir eraill ar gyfer storio casgliadau neu mae ganddynt fannau gwag y gellid eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o ddyluniadau set.

Cerbydau ar y safle

Yn yr adeiladau ac o'u cwmpas ar y safle mae cymysgedd o gerbydau megis injans trên ac offer llwytho, ynghyd ag injans weindio mawr a pheiriannau pwmpio.

Mae'r amgueddfa'n cadw'r hyn a oedd yn un o weithfeydd tunplat cyntaf Prydain ac erbyn hyn dyma'r gweithfeydd tunplat hynaf sydd i'w cael yn unrhyw le yn Ewrop. Oherwydd ei fod wedi goroesi, mae gan yr hen weithiau le arbennig yn stori Chwyldro Diwydiannol Prydain. Cynhyrchwyd bron i hanner tunplat y byd yng Nghymru yn y 19eg ganrif, a llawer ohono yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r amgueddfa'n dehongli proses y felin becyn, lle'r oedd bariau o haearn gyr yn cael eu cludo ar y trên ac yna'n cael eu trawsnewid gan stêm, peiriannau trwm, gwres a phrosesau cemegol yn gynfasau tun. Cludwyd bocsys trwm o ddalennau i weithfeydd stampio lle cawsant eu gwasgu i mewn i gynnyrch, a rhoddwyd enamel ar lawer ohonynt  wedyn. Roedd nwyddau tunplat Prydeinig yn cael eu hallforio ledled y byd.

Byddai’r safle’n berffaith ar gyfer dramâu cyfnod, sioeau ffuglen wyddonol gyda themâu dystopaidd, neu amrywiaeth o ddefnyddiau eraill. Mae maint rhai o'r adeiladau a'r peiriannau y tu mewn yn creu cyfleoedd eithriadol ar gyfer cynyrchiadau ffilm creadigol.

Parcio: Mae digon o le i barcio ar y safle, ond efallai y bydd angen gwneud trefniadau eraill ar gyfer cerbydau mwy neu griwiau cynhyrchu mwy.

Arlwyo: O bosib. Mae digon o le ar y safle, y tu mewn a’r tu allan, ond byddai’n rhaid gwneud trefniadau ymhell ymlaen llaw pe bai angen trydan neu ddŵr ar y safle.

Cyfyngiadau ffilmio: Mae'n bosibl y gellir ffilmio unrhyw ddiwrnod o'r wythnos os rhoddir digon o rybudd. Nid oes unrhyw staff yn gweithio ar y safle ar hyn o bryd, ond gellid gwneud trefniadau i staff fod yn bresennol yn ystod diwrnodau ffilmio i hwyluso mynediad.

Nid yw trydan a dŵr ar gael ar y safle ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai y gwneir trefniadau i ailgysylltu cyflenwadau os gwneir iawn am hynny.

Mae risgiau iechyd a diogelwch posibl ar y safle, a byddai angen cynnal asesiadau risg a rhoi cynllun ar waith i liniaru'r holl faterion a nodwyd.

Efallai y bydd angen rhoi mesurau lliniaru ar waith i ddiogelu gwrthrychau’r casgliadau.

Dim ond mewn rhai mannau o'r eiddo y gellid bwyta neu yfed fel arfer i osgoi niwed i gasgliadau.

Cyfyngiadau ar ddefnyddio drôn: Ansicr

Wedi'i leoli mewn dyffryn dymunol, mae'r safle'n agos at yr afon a'r coetir, sy'n cynnwys nifer o rywogaethau a warchodir, ac mae'n cynnig amrywiaeth ddefnyddiol o dirweddau a golygfeydd i gyd ar un safle.

Mae dau adeilad rhestredig Gradd II ac un adeilad rhestredig Gradd II*.

 

  • Y safle
  • Adeiladau allanol
  • Cerbydau ar y safle