Cartref Dylan Thomas
Taith Dylan, Talacharn SA33 4SD

  • Nodweddion
  • fideo
  • lluniau
  • Sut i ddod o hyd i ni

Cartref Dylan Thomas

Fe'i lleolir ar yr arfordir sy'n edrych dros Afon Tâf wrth iddi droelli ei ffordd i Fae Caerfyrddin. Mae gan gartref Dylan Thomas, sy'n adeilad bychan ar ffurf bwthyn, nifer fach o ystafelloedd dros dri llawr. Mae rhai ystafelloedd wedi’u dodrefnu i edrych fel pe bai Dylan Thomas newydd eu gadael, tra bod eraill yn arddangos stori Dylan Thomas ac amryw o bethau cofiadwy o’i fywyd a’i oes.

Y sied ysgrifennu

Ychydig ar hyd y llwybr arfordirol cul sy’n arwain at gartref Dylan Thomas mae Sied Ysgrifennu Thomas. Mae hwn wedi'i ddodrefnu i ymdebygu i'r modd y gadawodd Thomas hi ar ôl iddo farw. Er nad yw’n agored i ymwelwyr fel arfer, mae’r Sied yn cynnig man bach ond atmosfferig gyda golygfeydd hyfryd ar draws y Bae sy’n ail-greu’r amgylchedd creadigol a ysbrydolodd bardd gorau Cymru.

Yma yr oedd Dylan Thomas a’i deulu yn y byw ar un adeg a dyna... lle cwblhaodd y bardd mawr weithiau enwog fel Under Milk Wood.

Fe'i lleolir ar yr arfordir sy'n edrych dros Afon Tâf wrth iddi droelli ei ffordd i Fae Caerfyrddin. Mae gan gartref Dylan Thomas, sy'n adeilad bychan ar ffurf bwthyn, nifer fach o ystafelloedd dros dri llawr. Mae rhai ystafelloedd wedi’u dodrefnu i edrych fel pe bai Dylan Thomas newydd eu gadael, tra bod eraill yn arddangos stori Dylan Thomas ac amryw o bethau cofiadwy o’i fywyd a’i oes.

Ychydig ar hyd y llwybr arfordirol cul sy’n arwain at gartref Dylan Thomas mae Sied Ysgrifennu Thomas. Mae hwn wedi'i ddodrefnu i ymdebygu i'r modd y gadawodd Thomas hi ar ôl iddo farw. Er nad yw’n agored i ymwelwyr fel arfer, mae’r Sied yn cynnig man bach ond atmosfferig gyda golygfeydd hyfryd ar draws y Bae sy’n ail-greu’r amgylchedd creadigol a ysbrydolodd bardd gorau Cymru.

Parcio: Nid oes lle i barcio ger cartref Dylan Thomas oherwydd bod y lôn yn gul. Mae’r maes parcio agosaf 10 munud i ffwrdd ar droed a gall  fod o dan ddŵr ar lanw uchel.

Arlwyo: Mae yna rai byrddau picnic yng nghefn cartref Dylan Thomas, ond dim ond lle i grŵp bach o bobl. Mae hefyd ystafell de yno.

Cyfyngiadau ffilmio: Mae'n bosibl y gellir ffilmio unrhyw ddiwrnod o'r wythnos os rhoddir digon o rybudd. Nid oes angen cyfyngu’r  ffilmio i ddiwrnodau pan fydd yr eiddo ar agor neu ar gau.

Fodd bynnag, pe bai angen ffilmio ar ddiwrnodau pan fyddai'r eiddo fel arfer ar agor i'r cyhoedd, byddai angen cau cartref Dylan Thomas er hwylustod i’r criw ffilmio. Felly byddai angen digolledu'r eiddo am unrhyw golled o ran enillion posibl ac amser staff ychwanegol sydd ei angen i fonitro/diogelu casgliadau neu fod yn bwyntiau cyswllt i'r tîm ffilmio.

Efallai y bydd angen rhoi mesurau lliniaru ar waith i ddiogelu gwrthrychau’r casgliadau. Gall rhai  gwrthrychau, megis paentiadau, fod yn sensitif i olau a bydd angen eu tynnu oddi ar yr arddangosfa neu eu gorchuddio. Efallai y bydd angen symud gwrthrychau eraill i osgoi difrod/llwch.

Dim ond mewn ambell ystafell yn yr eiddo y gellid bwyta neu yfed fel arfer i osgoi niwed i gasgliadau. 

Gallai mynediad i'r tŷ a'r ystafell de fod yn heriol i bobl â phroblemau symudedd gan fod 40 gris i'r tŷ a 10 gris i'r patio. Nid oes mynediad i gadeiriau olwyn na thoiled hygyrch.

Cyfyngiadau ar ddefnyddio drôn: Ansicr

Mae Cartref Dylan Thomas a'r Sied Ysgrifennu ill dau yn adeiladau rhestredig Gradd II.

 

  • Cartref Dylan Thomas
  • Y sied ysgrifennu