Cronfa Her
Bydd Cronfa Her Arfor yn agored i geisiadau cydweithredol gan unrhyw unigolion, sefydliadau, grwpiau cymunedol neu fusnesau sy'n barod i ddangos ateb arloesol i her sy'n bodoli yn eu cymuned leol.
Uchelgais Cronfa Her rhaglen Arfor fydd archwilio atebion sy'n cryfhau'r berthynas rhwng y Gymraeg a'r economi, ac rydym yn chwilio am gynlluniau sy'n cynnig profi'r canlynol:
Bod y Gymraeg yn hwb i'r economi
Bod y Gymraeg yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth newydd i gyflogwyr a staff
Gall defnyddio'r Gymraeg helpu i greu brand ac atyniad i fusnesau
Gall defnyddio'r Gymraeg danio ymdeimlad o falchder, gan gynnwys ymdeimlad o berthyn i gymuned
Mae Menter a Busnes yn gweinyddu y Gronfa ar rhan rhanbarth Arfor.
Cofrestwch yma am fwy o fanylion
Llwyddo'n Lleol 2050
Mae gan brosiect Llwyddo'n Lleol 2050 gyfle cyffrous i 12 unigolyn ymuno â rhaglen newyddiaduraeth dros gyfnod o 6 wythnos. Fel rhan o'r rhaglen, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn sesiynau wythnosol gan arbenigwyr yn y maes.
Menter a Busnes sydd yn gweithredu'r rhaglen yma. Rhaid ymgeisio cyn Hydref 2023.
Ymgeisiwch yma
Llwyddo'n Lleol 2050 Gyrfaoedd
Fel rhan o raglen Llwyddo’n Lleol, mae gan fusnesau sydd wedi lleoli yn Sir Gâr gyfle i fod yn rhan o gynllun cyffrous a gall rhoi cymorth ariannol i fusnesau i gynnal person ifanc yn y gweithle.
Rydym yn awyddus i glywed gan fusnesau yn sectorau isod;
- Sector greadigol
- Technoleg
- Gwyrdd/sector adnewyddadwy
- Technoleg amaethyddol
- Digidol
- Marchnata digidol
Cofrestrwch yma drwy gwblhau’r ffurflen cyn 12 o Dachwedd 2023. Bydd swyddog prosiect yn cysylltu i drafod ymhellach ar sut allwch chi fuddio drwy’r cynnig yma wrth roi cyfle i berson ifanc. Snap Surveys (welcomesyourfeedback.net)
Am drafod mwy yn gyntaf? Cysylltwch Ceri Jenkins ceri.jenkins@menterabusnes.co.uk