Gwybodaeth i'r diwydiant

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/11/2023

Mae dod â chysylltedd gwell i Sir Gaerfyrddin yn flaenoriaeth i Gyngor Sir Caerfyrddin.

Bydd trigolion Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe yn elwa o raglen Ddigidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy'n cwmpasu pob rhan o Ddinas Bae Abertawe.

Fel rhan o'r rhaglen ddigidol, bydd y blaenoriaethau canlynol yn cael sylw:

  • Sicrhau bod gan ddinasoedd, trefi a pharciau busnes y rhanbarth fynediad i'r rhyngrwyd ffibr llawn
  • Paratoi y rhanbarth ar gyfer 5G a'r rhyngrwyd pethau, sy'n cynnwys cartrefi smart, gweithgynhyrchu smart, technoleg amaethyddiaeth, profiad rhithwir, a thechnoleg y gellir ei gwisgo i gefnogi gofal iechyd, byw â chymorth, a sectorau eraill.

Mae Rheolwr Seilwaith y Genhedlaeth Nesaf a Swyddog Cymorth ac Ymgysylltu Seilwaith Digidol ar waith yn Sir Gaerfyrddin i ddarparu cefnogaeth i ddiwydiant a'r cyhoedd.

Cysylltwch a Bandeang@Sirgar.gov.uk am wybodaeth pellach.