Cynllunio
Mae'r swyddfeydd a'r unedau hybrid ac ysgafn wedi'u dylunio i fod yn hyblyg. Ni chaniateir defnyddiau a allai achosi niwsans i ardaloedd preswyl cyfagos oherwydd sŵn nu arogl. Ni chaniateir defnyddiau trwsio moduron neu gerbydau. Ni chaniateir defnydd manwerthu na chownter masnachu.
Rhoddir blaenoriaeth i'r sectorau canlynol:
Gweithgynhyrchu uwch
Technoleg Bwyd-Amaeth
Gwaith Creadigol
Ynni a'r Amgylchedd
Ariannol a Phroffesiynol
Y Telerau
Bydd yr unedau ar gael i'w gosod ar delerau prydles hyblyg gyda seibiannau tenant rheolaidd.
Rhent
Ar gais.
Tâl am Wasanaeth yr Ystad
Bydd pob meddiannydd yn talu cyfran o'r tâl am wasanaeth yr ystâd a fydd yn talu'r costau ar gyfer cynnal a chadw ardaloedd cyffredin y datblygiad a’r safle ehangach
Yswiriant
Bydd y landlord yn yswirio'r eiddo ac yn adennill y premiwm blynyddol oddi wrth y tenant. Cyfrifoldeb y tenant fydd yswiriant cynnwys.
TAW
Bydd TAW yn cael ei godi ar bob cost.
Cynaliadwyedd
Un o uchafbwyntiau Parc Gelli Werdd yw ei fod yn cynnwys adeiladau hynod gynaliadwy.
Gan ddefnyddio egwyddorion Adeiladu Gweithredol a Passivhaus sy'n cynnwys lefelau uchel o insiwleiddio a rhan o'r gofynion trydan yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio Ynni Solar Ffotofoltäig ar y safle, bydd y datblygiad carbon isel hwn yn hyrwyddo lleihau costau ynni.
Wedi'i ddylunio gyda'r nod o gyflawni 'targed carbon sero net ar waith' ac ar ôl derbyn gradd "Rhagorol" BREEAM ac EPC "A," mae'r datblygiad hwn yn cynnwys system rheoli adeiladau arloesol sy'n ymgorffori platfform pwrpasol o ran mesur a monitro ynni i alluogi bilio a monitro perfformiad manwl. Bydd gan denantiaid fynediad at ddangosfwrdd ar-lein i fonitro defnydd trydan i lefel is-gylched a chostau bilio ar gyfer eu hunedau.
Bydd data o'r dangosfwrdd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu dysgu yn y dyfodol mewn perthynas â chynaliadwyedd a datgarboneiddio, i wella perfformiad y datblygiad ac i lywio adeiladu a gweithredu safleoedd newydd.
Drwy fabwysiadu arferion da, dylai tenantiaid allu mwynhau costau ynni is o ganlyniad i nodweddion cynaliadwy'r datblygiad.
Buddion Cynaliadwy Ychwanegol:
Pwyntiau gwefru cyflym.
Mannau parcio pwrpasol ar gyfer "rhannu car".
Storfa ddiogel i feiciau a chawodydd/cyfleusterau newid.
Cynhwysedd.
Toiledau hygyrch ar gael ar gyfer pob uned.
Ystafell "Changing Places" cyflawn ar gael yn adeilad y swyddfa.
Mae'r datblygiad cyfan yn hygyrch, gyda lifft i gyd-fynd â’r grisiau i lawr cyntaf adeilad y swyddfa.
Mannau parcio anabl pwrpasol.