LLAIN 5, YSTÂD DDIWYDIANNOL CAPEL HENDRE
CAPEL HENDRE, RHYDAMAN, SA18 3RJ.

£55,000

  • lluniau
  • map
Floor plan

Manylion Allweddol

Mae'r Eiddo wedi'i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Capel Hendre sydd wedi'i hen sefydlu, ac sydd tua thair milltir i'r de-orllewin o Rydaman, yng Nghapel Hendre, a wasanaethir gan yr A483. Mae'r A483 yn cysylltu â chyffordd 49 Traffordd yr M4 i'r de.

Mae'r llain yn safle sydd ar lethr graddol gyda llawr caled concrit gwastad yn rhannol ac mae'n ymestyn dros arwynebedd o 0.33 hectar (0.82 erw) fel y dangosir mewn ymylon coch at ddibenion adnabod ar y cynllun.

Mae'r mynediad i'r llain o brif ffordd yr ystâd ac mae ffens balisâd fetel o amgylch terfyn y safle (cytunir ynghylch yr union ffiniau i'w trosglwyddo ar y safle).

Caniateir defnyddio'r safle at ddibenion unrhyw ddefnydd o fewn dosbarthiadau B1, B2 a B8.
Bydd angen i unrhyw ddatblygiad, os yw'n briodol, gydymffurfio â Pholisi Cynaliadwy Llywodraeth Cymru o ran BREEAM.