Llain 8 Parc Hendre
Llain 8 Parc Hendre, Capel Hendre, Rhydaman, SA18 3SJ.

Guide Price - £250,000

  • map
  • cynllun llawr
Dan
gynnig
Floor plan

Manylion Allweddol

LLLEOLIAD
Mae'r Eiddo wedi'i leoli yn Ystad Ddiwydiannol Parc Hendre tua thair milltir i'r de-orllewin o Rydaman, Capel Hendre, gyda chysylltiad â'r A483. Mae'r A483 yn cysylltu â chyffordd 49 Traffordd yr M4 i'r de.

DISGRIFIAD O‘R SAFLE
Mae'r llain yn gyffredinol yn wastad ac yn ymestyn i arwynebedd o 1.66 hectar (4.1 erw) fel y nodwyd ar y cynllun.
Ceir mynediad i'r llain ar hyd ffordd gangen a adeiladwyd o brif ffordd yr ystad a bydd angen paratoi cyn datblygu'r llain o ran gwaith clirio, gwastatáu a chywasgu.

CYNLLUNIO
Y defnydd a ganiateir ar y safle yw B1, B2 a B8. Bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i'r safleoedd gael eu defnyddio ar gyfer gweithgynhyrchu neu ddefnyddiau sy'n ychwanegu gwerth. Gofynnir i bob parti â diddordeb ddarparu manylion llawn i gadarnhau eu bod yn bodloni'r meini prawf hyn.
Bydd angen i unrhyw ddatblygiad hefyd gydymffurfio â Pholisi Cynaliadwy Llywodraeth Cymru o ran BREEAM.

GWASANAETHAU
Credir bod pob prif wasanaeth ar gael i'r llain ond dylai datblygwyr wneud ymholiadau eu hunain gyda'r cyfleustodau statudol ynghylch argaeledd a digonolrwydd eu cyflenwad ar gyfer y datblygiad arfaethedig.
Yn ogystal, gwerthir y llain yn amodol ar unrhyw wasanaethau presennol sydd wedi'u lleoli o fewn y safle ac ar ben hynny bydd yn ofynnol i'r prynwr dalu cyfran resymol tuag at gostau cyn.