Sut y bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei darparu yn Sir Gaerfyrddin


Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu cyllid dros y ddwy flynedd nesaf hyd at fis Mawrth 2025. Mae’r Rhaglen yn gymysgedd o gyllid refeniw a chyfalaf y gellir ei ddefnyddio i gefnogi ystod eang o ymyriadau i feithrin balchder bro a gwella cyfleoedd bywyd.

Nod y Gronfa yw cyflawni hyn drwy pedwar blaenoriaeth buddsoddi:

  1. Cymuned a Lle
  2. Cefnogi Busnesau Lleol
  3. Pobl a Sgiliau 
  4. Lluosi (rhifedd oedolion)

Bydd 3 dull darparu ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Sir Gaerfyrddin

  • Rhaglenni Angor
  • Prosiectau Strategol
  • Prosiectau a Gomisiynwyd

Mae prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r gronfa.

 

Rhaglenni Angor

Mae Rhaglenni Angor yn rhaglenni thematig a reolir gan dimau Awdurdodau Lleol a fydd yn mynd i'r afael â rhannau mawr o'r Cynllun Buddsoddi Lleol yn bennaf drwy gynnig grantiau trydydd parti i sefydliadau.


Prosiectau Strategol

Bydd heriau wedi'u nodi yn y Cynllun Buddsoddi nad ydynt wedi'u cynnwys yn y Rhaglenni Angor. Ymdrinnir â'r rhain trwy agor galwadau am Brosiectau Strategol.

Gweler manylion y prosiectau Strategol

 

Prosiectau a Gomisiynwyd

Bydd y rhain yn cael eu pennu a'u caffael i ddarparu gweithgaredd wedi'i ddiffinio'n fanwl gywir nad yw'n cael ei gyflawni gan y Rhaglenni Angor na'r prosiectau Unig Strategol. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni anghenion ein Cynllun Buddsoddi Lleol.