Cynllun Trechu Tlodi

Rhagair

Y Cynghorydd Linda Davies Evans,
Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi

Mae'r Cynllun Trechu Tlodi hwn yn ddogfen bwysig i'r Cyngor wrth i ni fynd ati i geisio lleihau peth o'r pwysau mae tlodi'n ei achosi i bobl a chymunedau lleol. Mae'n siomedig bod yn rhaid i ni baratoi cynllun o'r fath, ond y gwir amdani yw bod mwyfwy o'n trigolion a'n cymunedau bellach yn wynebu heriau o achos tlodi. O ganlyniad rydym ni fel Cyngor, gan weithio gyda'n partneriaid, yn awyddus i helpu ym mha bynnag ffordd y gallwn.

Rydym yn cydnabod yn fawr fod yr argyfwng costau byw presennol yn cael effaith fawr ar ein trigolion, ond rydym hefyd yn cydnabod yr effaith hirdymor a gaiff tlodi felly rydym yn awyddus i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi a dod o hyd i ffyrdd o gynorthwyo ein trigolion i godi eu hunain allan o dlodi.

Rhaid i ni sylweddoli na allwn ni fel Cyngor ddatrys tlodi ein hunain - mae angen rhoi sylw i nifer o'r ffactorau sy'n cyfrannu at y sefyllfa, ar lefel Gymreig ac ar lefel y DU. Fodd bynnag mae gennym rôl flaenllaw o ran cefnogi ein trigolion a'n cymunedau i helpu eu hunain, trwy waredu'r hyn sy'n eu rhwystro rhag cael cymorth, a grymuso pobl i wneud drostynt eu hunain.

Gyda hyn mewn golwg, mae mynd i'r afael â thlodi yn flaenoriaeth thematig i'r Cyngor fel rhan o'i Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2022-27, a bydd yn allweddol o ran gwneud cynnydd mewn perthynas â'n hamcan llesiant i alluogi ein pobl i fyw a heneiddio'n dda. Yn ogystal, mae trechu tlodi ac effaith tlodi yn un o amcanion llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin, ac fel Cyngor byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill ar feysydd lle mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd, er mwyn gwneud cynnydd ar yr amcan hwn.

Mae'r Cynllun hwn yn ymateb i'n gweithgarwch dros y 12 mis nesaf, ac yn canolbwyntio i raddau helaeth ar gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae hefyd yn nodi meysydd datblygu allweddol a fydd yn ein galluogi i fireinio ein cynllun tymor hwy er mwyn mynd i'r afael ag achosion ehangach tlodi. Yn ystod y 12 mis nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Strategaeth Genedlaethol ar Dlodi Plant, ac wedi i hynny ddigwydd, byddwn yn adolygu ein dull gweithredu ac yn datblygu ymhellach ein cynllun trechu tlodi tymor canolig/hir.

Rwy'am gydnabod mewnbwn a chefnogaeth y Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi, sef panel o aelodau etholedig trawsbleidiol, sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r cynllun hwn mewn modd ystyriol, adeiladol ac ystyrlon. Mae'r cyfraniad hwn i'w groesawu'n fawr wrth i ni gyd wneud ein gorau i gefnogi trigolion a chymunedau Sir Gâr.