Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg2023 - 28

Rhagair gan y Cynghorydd Glynog Davies

Mae Canlyniadau Cyfrifiad 2021 wedi cynyddu pwysigrwydd llwyddiant y Strategaeth hon eto fyth.

Wrth i Sir Gâr golli’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru am yr ail ddegawd yn olynol, mae’n rhaid gweithredu’n gadarn ac yn hyderus er mwyn atal y trai niweidiol hwn.

Nid oedd yr holl waith cynllunio a gweithredu a wnaed ers cyhoeddi canlyniadau 2011 ac ers llunio Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2016-21 yn ofer fodd bynnag. Yn wir, mae’r gweithredu pwrpasol a chydlynus wedi llwyddo i arafu’r gostyngiad yn sylweddol o 6% yng Nghyfrifiad 2011 i 4% yng Nghyfrifiad 2021. Ar ben hynny, mae profiad siaradwyr Cymraeg Sir Gâr o fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg yn profi y tu hwnt i unrhyw ddata moel fod y Gymraeg yn fyw ac yn hyfyw yn ein Sir. Defnyddir y Gymraeg gan ein trigolion yn helaeth ym mhob ward yn ein Sir ac ym mhob rhan o fywydau ein trigolion, o’n haddysg i’n bywydau hamdden a’n bywydau gwaith.

 

Mae defnydd y Gymraeg yn Sir Gâr a’i pharhad yn gwbl hanfodol i barhad y Gymraeg yng Nghymru.

 

Hyderaf ein bod mewn sefyllfa, o fod wedi gweithredu strategaeth hybu bwrpasol ers pum mlynedd a mwy, a hynny mewn partneriaeth weithredol gadarnhaol gyda phartneriaid lu, i weld gwahaniaeth mawr i hyfywedd y Gymraeg yn Sir Gâr yn ystod cyfnod y Strategaeth hon. Mae’r Strategaeth yn elwa o waelodlin clir a nodwyd yn adroddiad y Strategaeth gyntaf ac, yn fwy na dim, yn elwa o ddealltwriaeth ymarferol go iawn o’r hyn sydd angen ei wneud a sut i’w gyflawni, wedi gweithredu’r Strategaeth gyntaf mor egnïol. Mae ein dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar y Gymraeg o fewn maes yr economi, ac o fewn ein gweithleoedd yn awr yn ddatblygedig ac fe fydd y Strategaeth hon yn datblygu’r Gymraeg yn y meysydd hynny.

Fe fydd hefyd yn parhau, wrth reswm, gyda’r gwaith o gynyddu defnydd y Gymraeg a wneir eisoes yn fywiog yn y sector addysg a’r sector gymunedol drwy’r mentrau iaith, y Ffermwyr Ifanc ac eraill.

Mae’r Strategaeth hon yn datgan nod, gweledigaeth, amcanion ac is-amcanion. Mae’r nod yn un uchelgeisiol ac yn lleisio yn benderfynol ein bod am i Sir Gâr barhau i fod yn gadarnle’r
Gymraeg.


Nod: Anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y Sir. Ein nod yw adfer y Gymraeg yn iaith a siaredir ac a ddefnyddir gan fwyafrif ein trigolion yn gyson, ac ym mhob agwedd ar fywyd.

Mae’r weledigaeth yn lleisio ymhellach ein hawydd i weld y Gymraeg yn norm ym mhob agwedd ar fywyd. Nid cynyddu niferoedd ac annog defnydd yw ein dymuniad yn Sir Gâr ond, yn hytrach, croesawu pobl i’r Gymraeg yn hyderus a heb ymddiheuro:

Gweledigaeth: Rydym eisiau gweld cynnydd yng nghyfran trigolion Sir Gâr sy’n gallu siarad Cymraeg ac yn defnyddio’u Cymraeg yn gyson. Rydym eisiau gweld y Gymraeg yn norm gweithio a gweithredu yn sefydliadau cyhoeddus y Sir ac yn fwyfwy cyffredin ym musnesau’r Sir. Rydym eisiau i’n pobl ifanc weld dyfodol iddynt yn y Sir mewn cymunedau Cymraeg cynaliadwy a ffyniannus, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.

Rydym eisiau i bawb fod yn falch o’r Gymraeg yn Sir Gâr

 

Nodir pedwar 4 amcan lefel uchel i’r Strategaeth hon ac iddynt is-amcanion i gyrraedd y nod ac fe fydd Cynllun Gweithredu’n cael ei lunio i yrru gweithredur Strategaeth yn ei blaen.

Amcan 1 - Cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg
Amcan 2 - Cynnal balchder a hyder trigolion y Sir yn y Gymraeg a’u defnydd ohoni
Amcan 3 - Y Gymraeg yn norm yn y gweithle a’r gweithlu
Amcan 4 - Cymunedau Cymraeg sy’n ffynnu

Rydym wedi adnabod naw maes gwaith ar gyfer y Cynllun Gweithredu a fydd yn rhoi fframwaith ymarferol i ni weithredu amcanion y Strategaeth ac fe fydd cynllunio a gweithredu o fewn pob maes gwaith yn eu tro yn cyflawni’r amcanion uchod.

Bydd y Cynllun Gweithredu yn cael ei baratoi maes o law wrth i ni ymgysylltu gyda phartneriaid a chymunedau ar draws y sir.

I gloi, hoffwn ddiolch i holl bartneriaid y Cyngor Sir am eu
cydweithio parod ar y Strategaeth Hybu gyntaf o’i bath i’r Sir
fod yn statudol gyfrifol amdani. Edrychaf ymlaen yn llawn
cyffro at gyfnod arall o bum mlynedd o gydweithio er budd y
Gymraeg.

 

Cyng. Glynog Davies
Aelod Cabinet dros Addysg a’r Iaith Gymraeg,
Cyngor Sir Gâr

 


Cyflwyniad: Cyd-destun Polisi

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a reoleiddir gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg yn gosod 174 o Safonau Iaith ar Gyngor Sir Gâr yn ei Hysbysiad Cydymffurfio 2016.

Mae’r Safonau yn nodi disgwyliadau o ran triniaeth y Gymraeg wrth i’r Cyngor:

  1. cyflenwi gwasanaethau Cymraeg,
  2. llunio polisi mewn modd sy’n hyrwyddo’r Gymraeg,
  3. gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg,
  4. cadw cofnodion ynglŷn â’r Gymraeg ac yn olaf
  5. hybu’r Gymraeg.

O fewn y Safonau Hybu, mae Safon 145 a 146 yn benodol yn galw ar y Cyngor Sir i lunio’r Strategaeth hon. Safon 145: Rhaid ichi lunio, a chyhoeddi ar eich gwefan, strategaeth 5 mlynedd sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu mynd ati i hybu’r Gymraeg ac i hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn ehangach yn eich ardal; a rhaid i’r strategaeth gynnwys (ymysg pethau eraill).

  1. targed (yn nhermau canran y siaradwyr yn eich ardal) ar gyfer cynyddu neu gynnal nifer y siaradwyr Cymraeg yn eich ardal erbyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd o dan sylw,
    a
  2. datganiad sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cyrraedd y targed hwnnw; a rhaid ichi adolygu’r strategaeth a chyhoeddi fersiwn ddiwygiedig ohoni ar eich gwefan o fewn 5 mlynedd i ddyddiad cyhoeddi’r strategaeth (neu i ddyddiad cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig ohoni).

Safon 146: Bum mlynedd ar ôl cyhoeddi strategaeth yn unol â
safon 145 rhaid ichi:

  1. asesu i ba raddau yr ydych wedi dilyn y strategaeth honno
    ac wedi cyrraedd y targed a osodwyd ganddi, a
  2. cyhoeddi’r asesiad ar eich gwefan, gan sicrhau ei fod yn
    cynnwys yr wybodaeth a ganlyn:
  1. nifer y siaradwyr Cymraeg yn eich ardal, ac oedran y
    siaradwyr hynny;
  2. rhestr o’r gweithgareddau a drefnwyd gennych neu a
    ariannwyd gennych yn ystod y 5 mlynedd flaenorol er mwyn hybu defnyddio’r Gymraeg.

Lluniwyd a gweithredwyd Strategaeth Hybu gyntaf Cyngor SirCaerfyrddin ar gefn y gwaith a wnaed mewn ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad 2011. Roedd Adroddiad Y Gymraeg yn Sir Gâr, a gwaith y Gweithgor y Cyfrifiad a sefydlwyd gan y Cyngor Sir, yn sail gadarn i’r gwaith o lunio a gweithredu Strategaeth Hybu 2016-2001. Crynhoir yr ymdrechion a wnaed ar sail Strategaeth Hybu Un mewn adroddiad cynhwysfawr a osododd, yn ei dro, sail gadarn i lunio’r Strategaeth hon, sef Strategaeth Hybu Dau.

Mae cyd-destun Strategaeth Hybu Dau o safbwynt ymdrechion bwriadus eraill i gynllunio ar gyfer datblygu’r Gymraeg yn Sirol ac yn Genedlaethol wedi newid yn sylweddol ers adeg llunio Strategaeth Un.

Yn 2017 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth uchelgeisiol, Cymraeg 2050 - Miliwn o Siaradwyr. Roedd y Strategaeth yn nodi dau darged penodol, sef:

  • Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050.
  • Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10 y cant (yn 2013–15) i 20 y cant erbyn 2050.

Mae’n fwriad gan y Llywodraeth i ddefnyddio ystadegau’r Cyfrifiad a’r Arolwg Defnydd Iaith i fesur cynnydd yn erbyn y targedau yma.

Ar adeg llunio’r Strategaeth hon, mae Cymraeg 2050 yn dal i sefyll fel craidd cynllunio ieithyddol y Llywodraeth, ac yn 2022, ychwanegwyd ato weledigaeth y Gweinidog newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg, sef Jeremy Miles AS. Rhoddodd yntau bwyslais
ar ddefnyddio’r Gymraeg, ‘darparu a siarad nid jyst creu sefydliadau’. Mae’n symud y pwyslais oddi ar ‘hybu a hwyluso’ a
thuag at gynyddu defnydd y Gymraeg gyda’r neges gyson fod ‘y
Gymraeg yn perthyn i ni i gyd’.

Mae’n nodi’r bwriad o annog mudiadau cydweithredol, a fydd yn
gweithredu’n Gymraeg, o brif ffrydio’r Gymraeg i bob maes polisi o fewn y Llywodraeth, o daclo problem ail gartrefi a thai ac o sefydlu Comisiwn Cymunedau Cymraeg i edrych ar sefyllfa’r Gymraeg ar lefel gymunedol.

Yn 2015, cyhoeddwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol oedd yn gosod saith nod cenedlaethol y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio tuag atynt, er mwyn sicrhau eu bod yn ‘meddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau’. Mae un o’r nodau hynny’n cyfeirio’n uniongyrchol at y Gymraeg a’r angen i greu ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’. Mae arwyddocâd cael nod cenedlaethol sydd yn dod o’r tu allan i faes traddodiadol cynllunio ieithyddol yn atgyfnerthu ein hymdrechion o fewn y maes hwnnw heb os.

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) a’r Ddeddf Llesiant ei hun wedi gwreiddio erbyn hyn ac mae’n dod yn gliriach o hyd sut y gall hyrwyddo’r Gymraeg drwy’r Strategaeth Hybu gydblethu â’r ymdrechion yma i hyrwyddo llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Mae amserlen cynllunio y Strategaeth hon a Chynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr wedi cydredeg yn ystod 2022-23 a bu cyfle i Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg gael mewnbwn i’w chynnwys yn ystod y cyfnod ymgynghori. Mae’r Cynllun Llesiant ar gyfer 2023-28 yn cynnwys nod o ran ‘Helpu i greu cymunedau dwyieithog, diogel ac amrywiol’, ac un o’r prif gamau dros gyfnod y Cynllun Llesiant nesaf fydd i “Gefnogi gweithrediad, datblygiad pellach a monitro Strategaeth Hybu’r Gymraeg”.

Rydym am sicrhau bod dolen wedi ei chreu rhwng y BGC a’r Fforwm Sirol a bod y Fforwm yn trafod materion allweddol am y Gymraeg gyda’r Bwrdd. Yn yr un modd, rydym am sicrhau fod swyddogion y cyrff partner sydd yn eistedd ar y Fforwm yn cael eu cefnogi gan gynrychiolaeth y BGC er mwyn gwireddu amcanion yStrategaeth Hybu.

Mae Mwy Na Geiriau, sef Cynllun y Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol, wedi profi cyfnod o lymder yn ystod y cyfnod ,diwethaf. Yn bennaf o ganlyniad i’r ffaith fod yr holl ,sector wedi cael ei throi ben i waered gan bandemig COVID-19, ni chafodd y ‘cynnig rhagweithiol’ lawer o sylw ar lefel strategol yn ddiweddar. Fodd bynnag, yn dilyn cynnal gwerthusiad annibynnol o Fframwaith Mwy na Geiriau yn 2019, cyhoeddwyd cynllun pum mlynedd newydd o 2022-2027.

Er gwaetha cyfraniad cadarnhaol y polisïau uchod oll, erys nifer o ffactorau sy’n effeithio’n fwyaf andwyol ar y Gymraeg yn Sir Gâr y tu allan i’w cwmpas. Mae fforddiadwyedd tai i bobl ifanc leol er enghraifft yn cael ei ddylanwadu’n bennaf gan fympwy’r farchnad agored ac elw’r sector breifat. Mae’r un yn wir o ran mewnlifiad pobl hŷn o’r tu allan i Gymru i gymunedau Cymraeg. Wedi ymdrechion Strategaeth Un i gydweithio ag arwerthwyr tai i geisio cael gwybodaeth ddefnyddiol i ymgodymu â’r broblem hon, rhaid cydnabod mai mater i Lywodraeth Cymru yw dylanwadu’n ystyrlon ar y ffactorau yma.

Edrychwn ymlaen yn awyddus at gydweithio ar ymdrechion arloesol gan y Llywodraeth yn y maes hwn ac i archwilio pwerau deddfu newydd a allai liniaru effeithiau niweidiol ar y Gymraeg.

Yn yr un modd, mae graddau llwyddiant y Strategaeth hon yn ddibynnol ar ymrwymiad cyrff cyhoeddus eraill sydd y tu allan i reolaeth perchennog y Strategaeth, sef y Cyngor Sir. Erys, gwaith i’w wneud i sicrhau bod cyrff eraill y Fforwm Strategol
Sirol yn ymrwymo i weithredu’r Strategaeth, a hynny ar bob lefel o fewn y sefydliadau.

Mae angen integreiddio nod y Strategaeth hon i waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a sicrhau bod yna gefnogaeth lwyr o’r sefydliadau hynny i’w cynrychiolwyr sydd ar y Fforwm Strategol Sirol er mwyn sicrhau perchnogaeth y Strategaeth ar draws sefydliadau’r sir yn hytrach na dim ond i elfen gyfyngedig Gymraeg y sefydliadau hynny.

Rhaid cofio ‘Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb’ a’n nod ni yw ‘adfer y Gymraeg yn iaith a siaredir ac a ddefnyddir gan fwyafrif ein trigolion yn gyson, ac ym mhob agwedd ar fywyd’.

Nid ar chwarae bach mae cyflawni’r nod.


Cyflwyniad: Cyd-destun ieithyddol

Wrth lunio’r Strategaeth hon, rydyn ni newydd gael canlyniadau cychwynnol Cyfrifiad 2021. Mae nifer a chanran siaradwyr Cymraeg Sir Gaerfyrddin wedi disgyn unwaith yn rhagor.

Rydyn ni wedi colli 6,000 o siaradwyr Cymraeg, sy’n gyfystyr â 4 pwynt canran. Mae’r nifer sy’n ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg bellach yn 72,800 sy’n golygu fod y Sir wedi colli ei safle o fod yr awdurdod lleol gyda’r mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Bellach, mae Gwynedd wedi cymryd y fantell honno.

Er bod Sir Gaerfyrddin wedi gweld y cwymp mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg o gymharu a siroedd eraill Cymru, a hynny unwaith yn rhagor, mae’r gostyngiad yn y ganran yn llai o ostyngiad nag yn y Cyfrifiad diwethaf. Mae’r trai wedi arafu ac mae hynny’n galonogol, ond does dim amheuaeth bod angen gweithredu’n fwy egnïol fyth os ydyn ni am ddal ein gafael o fewn y Sir ar ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn gyfrwng naturiol ein hymwneud â’n gilydd.

Mae’r canlyniadau cychwynnol yn nodi o’r 112 o ardaloedd bach yn Sir Gaerfyrddin, roedd canran y bobl tair oed neu’n hŷn a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn amrywio o 62.2% (ardal o amgylch Brynaman) i 15.0% (ardal gyfagos i Lanelli). Ar yr olwg gyntaf, mae rhai wardiau wedi gweld cynnydd bychan yn nifer y siaradwyr Cymraeg, ac fe fydd yn ddadlennol dadansoddi achosion y twf hwnnw mewn ardaloedd fel Gorslas.

Ond mae’n wir dweud hefyd fod y lleihad mwyaf yn yr ardaloedd hynny sy’n gartref naturiol traddodiadol i’r Gymraeg, lle mae dwysedd y boblogaeth yn draddodiadol yn siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd fel Dyffryn Aman.

Mae’r Gymraeg yn dal i fod yn gryf yn yr ardaloedd yma, ond mae’n colli tir yn gyflym. Fe fydd dadansoddi’r rhesymau y tu ôl i’r dirywiad yma’n hanfodol ar gyfer gweithredu Strategaeth Hybu effeithiol ar gyfer y Sir. Bydd adnabod y tueddiadau trosglwyddo iaith a symudoledd poblogaeth, er enghraifft, yn gymorth i ni fedru adnabod pa gamau a fyddai’n arwain at newid arferion yn yr ardaloedd daearyddol yma.

O gymharu â’r sefyllfa ar draws Cymru, mae canlyniadau cychwynnol y Cyfrifiad yn awgrymu nad ydy’r casgliadau cychwynnol mor berthnasol i sefyllfa Sir Gâr. Nid yw’r lleihad sylweddol yn nifer y plant ieuengaf sy’n medru siarad Cymraeg, sy’n cael ei briodoli i raddau helaeth i gyfnod COVID-19 pan oedd methrinfeydd ac ysgolion ar gau, wedi digwydd yn Sir Gâr.

Mae’r lleihad yn ein niferoedd ni wedi amlygu ei hun yn yr oed 45+ ac mae’r ganran wedi gostwng fwyaf yn yr oed 50 hyd at 80 oed. Eto, bydd dadansoddiad pellach o symudoledd poblogaeth yn taflunio goleuni arwyddocaol ar y newid hwn.

Mae’r gwaith cynllunio ar gyfer y Strategaeth hon wedi cael ei gwblhau cyn i ganlyniadau’r Cyfrifiad gael eu cyhoeddi. Ac mae’n dderbyniol fod y gwaith o gynllunio wedi ei selio ar adroddiad y Strategaeth ddiwethaf, gyda’r manylder ystadegol ac ansoddol sydd ynddo, yn hytrach na ffigurau moel y cyfrifiad.

Mae yna gyfyngiadau i ddefnyddioldeb ffigurau’r Cyfrifiad gan ystyried effeithiau cyfrifo yn ystod cyfnodau clo COVID-19 a’r gwahaniaeth arwyddocaol sydd rhwng y ffigurau a ffigurau arolygon eraill megis cyfrifiad blynyddol y boblogaeth. Wedi dweud hynny, fe fydd yna sylw yn cael ei roi yn Strategaeth 2 i ddadansoddi’r ffigurau pan fyddant ar gael yn eu cyfanrwydd ac i gynllunio rhai blaenoriaethau o ganlyniad.

Mae Ystadegau Arolwg Blynyddol y Boblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhoi darlun tra gwahanol i ni. Ym Mehefin 2011, cofnodir 82,300 (47.2%) o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, sy’n gosod y Sir yn ail i Wynedd o ran nifer. Yn ôl yr un ffynhonnell, ceir 94,000 o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr ym Mehefin 2021, (52.5%), sy’n ein gosod gyda’r nifer uchaf o siaradwyr yng Nghymru. Felly, nid yn unig y mae’r ffigurau yma’n sylweddol uwch na ffigurau’r Cyfrifiad, ond maent hefyd yn dangos tuedd gwbl groes i’r Cyfrifiad o dwf mewn niferoedd a chanrannau yn Sir Gaerfyrddin, fel yn y siroedd eraill.

Gwyddwn am bwysigrwydd data ar ddefnydd Cymraeg yn ogystal ar gyfer cynllunio ieithyddol ystyrlon. Mae’n gwbl allweddol ein bod yn cynnal cymunedau lle mae’r Gymraeg yn norm cymunedol a chymdeithasol ac nid yw nifer y rhai sy’n medru’r Gymraeg ond hanner y darlun.

Yn ôl Arolygon Defnydd Iaith y Comisiynydd a’r Llywodraeth gostyngodd canran y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn Sir Gâr o 80% i 71% rhwng Arolwg 2004-06 ac Arolwg 2013-15. Roedd hyn yn debyg iawn i’r cyfartaledd cenedlaethol ac yn cyfateb i golledion canrannol y siroedd tebyg i ni o ran dwysedd siaradwyr Cymraeg.

Yn anffodus, gorffennwyd Arolwg Defnydd 2019-20 yn gynnar o achos y pandemig. Golygodd hyn fod y sampl draean yn is na’r arolygon blaenorol ac nid oedd modd dadansoddi canlyniadau’r arolwg yn ôl awdurdod lleol fel a wnaed yn yr arolygon blaenorol.

Roedd y canlyniadau cenedlaethol yn awgrymu fodd bynnag fod ‘dros hanner (56%) yn siarad yr iaith bob dydd (waeth beth fo lefelau eu rhuglder) o’i gymharu â 53% yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2013-15, a bron i un ym mhob pump yn siarad yr iaith bob wythnos (19%, union yr un ganran ag yn 2013-15)’.

Ymddengys felly fod y Gymraeg yn cael ei chynnal yn weddol lwyddiannus fel iaith gymunedol a chymdeithasol ar hyn o bryd. Yn amlwg, fe fyddai cael data ystyrlon a chymharol ar ddefnydd
iaith yn ddefnyddiol iawn i fesur effaith Strategaeth Hybu fel
hwn i’r dyfodol.

Ar ddechrau cyfnod Strategaeth Hybu Un, gwnaed ymdrech i ganfod mwy o ddata lleol ar agweddau ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg. Gweinyddwyd holiadur drwy’r mentrau iaith yn bennaf a roddodd ychydig o wybodaeth ddefnyddiol i ni.

Roedd yr adroddiad yn nodi fod 97% o’r ymatebwyr yn ystyried dwyieithrwydd yn fanteisiol ac mai ‘cyfleodd gwaith’ oedd fwyaf blaengar ym meddyliau pobl wrth feddwl am y manteision hynny. Canfuom mai dim ond hanner yr ymatebwyr oedd yn deall na fyddai disgyblion oedd yn derbyn addysg cyfrwng Saesneg yn y sir yn debygol o fod yn ddwyieithog cyn gadael yr ysgol.

Roedd hefyd modd cadarnhau fod ymwybyddiaeth yr ymatebwyr o’r cyrff sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn y sir yn gymharol uchel (rhwng 67% a 82 %). Er gwaethaf defnyddioldeb yr arolwg hwn, roedd y sampl yn rhy fach i fod yn gynrychiadol ac roedd yn rhaid derbyn, yn ogystal, fod yr ymatebwyr yn dod o gynulleidfaoedd arferol y mentrau iaith, yn hytrach na rhoi gwybodaeth i ni am drigolion y sir yn ehangach.

Er bod yna fwriad i ail-redeg yr arolwg ar ddiwedd cyfnod y strategaeth, penderfynwyd nad oedd adnodd ar gael i’w weinyddu, ac er y byddai wedi bod yn ddefnyddiol i ddeall a oedd ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o addysg Gymraeg wedi cael effaith, penderfynwyd nad oedd y seilwaith angenrheidiol ar waith lle ar lefel sirol i ganfod data ystyrlon a chynrychioladol.

Erys felly’r bwlch yma o ran canfod effaith ymgyrchoedd ac ymyraethau’r strategaeth y tu hwnt i ffigurau’r Cyfrifiad ar allu ieithyddol ein trigolion.


Seiliau: Y Gwaith a wnaed yn Strategaeth Un

Wrth lunio Strategaeth Hybu Sir Gâr 2016-2021, sefydlwyd yfarfodydd rheolaidd o Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg i ynorthwyo’r awdurdod lleol i gynllunio, gweithredu a chraffu ar y Strategaeth.

Adnabuwyd gwaith sylweddol y Mentrau Iaith yn ogystal â’r cyrff eraill sy’n hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y sir fel asgwrn cefn y Strategaeth ac yna, yn ystod cyfnod y Strategaeth, cynhaliwyd 10 o gyfarfodydd gan edrych ar faes gwaith ar gyfer ei ddatblygu ym mhob cyfarfod. Ym mhob cyfarfod, cafwyd cyflwyniadau gan swyddogion o’r Cyngor Sir a chynrychiolwyr allweddol sy’n gweithredu yn y meysydd dan sylw. Yn dilyn y drafodaeth, lluniwyd camau gweithredu o’r newydd ar gyfer y maes gwaith. Gosodwyd y camau gweithredu mewn Cynllun Gweithredu a ddiweddarwyd fesul cyfarfod.

Parhaodd y Cynllun Gweithredu yn ddogfen fyw felly drwy gydol y cyfnod. Y tu ôl i gyfarfodydd Fforwm cynhaliwyd cyfarfodydd gydag adrannau amrywiol o fewn y Cyngor i gynllunio ar gyfer y Gymraeg wrth baratoi i gyflwyno i’r Fforwm ac yna yn dilyn y cyfarfod i gynnig ac i ymrwymo i gamau gweithredu newydd.

Ym Medi 2019, cychwynnodd Meri Huws gadeirio cyfarfodydd y Fforwm yn chwarterol, gan ddarparu sefydlogrwydd ac arweiniad i’r trafodaethau a’r cydgynllunio. Bu’n rhaid diwygio cynnwys yr amserlen o ganlyniad i COVID-19 wrth reswm. Roedd y cyfnod clo wedi bwrw nifer fawr o ddarparwyr gwasanaethau a gweithgarwch cymunedol yn drwm ac roedd yn rhaid oedi ar y gwaith craffu ar rai meysydd o ganlyniad. Nid ataliwyd y cyfarfodydd fodd bynnag. Trosglwyddwyd yn syth i blatfform digidol heb golli dim o fomentwm nac ymrwymiad yr aelodau.

Yr amcanion a adnabuwyd ar gyfer y strategaeth oedd:

  1. Caffael sgiliau
  2. Cynyddu hyder a defnydd
  3. Effeithio ar symudiadau poblogaeth
  4. Ardaloedd blaenoriaeth
  5. Marchnata a hyrwyddo

Y meysydd gwaith a adnabuwyd ar gyfer cyrraedd yr amcanion
hyn ac a ddarparodd ganolbwynt i weithredu’r Cynllun
Gweithredu ac i gyfarfodydd y fforwm oedd:

  • Cyn-oed ysgol
  • Cymraeg i Oedolion a Chymraeg yn y Gweithle
  • Hamdden
  • Ieuenctid
  • Tai
  • Cynllunio a chymathu mewnfudwyr (ac adroddiad
  • Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen)
  • Adfywio
  • Sector preifat
  • Pobl ifanc a’r byd gwaith
  • Ardaloedd blaenoriaeth.

 

Lluniwyd adroddiad manwl i bwyso a mesur effaith y Strategaeth yn 2022 a daethpwyd i’r casgliad canlynol ar gynnydd a diffyg cynnydd yn erbyn yr amcanion.

Rhaid cofio bod yna waith sylweddol wedi digwydd ers diwedd cyfnod y Strategaeth ddiwethaf yn ogystal, yn enwedig yn narpariaeth gymunedol ardal Llanelli, ac yn ailsefydlu darpariaeth gynhwysfawr i gefnogi defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg y tu allan i addysg ffurfiol wedi COVID-19.

Gwnaed hefyd waith partneriaeth effeithiol i gynyddu ymwneud trigolion y Sir yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023. Bydd y gwaith hwn yn cael ei adlewyrchu a’i ddatblygu yn Strategaeth Hybu 2023-2028.

Bu’r Fforwm hefyd yn ymdrechu i ddylanwadu ar y meysydd gwaith uchod drwy godi materion gyda chyrff eraill i geisio cael effaith ar yr elfennau o bolisi oedd y tu allan i gyrraedd y cyrff ar y Fforwm Sirol Strategol ar lefel sirol. Llythyrwyd yLlywodraeth a’r Comisiynydd am brentisiaethau cyfrwng Cymraeg, am weithdrefnau ymgynghori’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, am reoliadau hysbysebu ac, yn fwy diweddar llythyrwyd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sirol am y Cynllun Llesiant drafft.

Aeddfedodd y Fforwm felly i geisio dylanwadu ar lefel strategol i faterion sy’n effeithio ar y Gymraeg ac fe fydd yn parhau i wneud hyn yn Strategaeth Hybu 2023-28 wrth i faterion godi.

Cynnydd da Diffyg cynnydd
Gwaith marchnata’r Gymraeg yn y maes gofal plant, trosglwyddo iaith ac addysg : creu adnoddau Dim digon o berchnogaeth o’r adnoddau hyrwyddo a dim prosesau sefydlog a chyson i’w dosbarthu
Nifer cynyddol o feithrinfeydd preifat cyfrwng Cymraeg Darpariaeth Gofal Plant / cyn oed ysgol. Cynnydd y lleoliadau Cymraeg wedi darfod, trafferthion recriwtio
Datblygiadau yn y maes dysgu Cymraeg i Oedolion, gan gynnwys gweithredu ar-lein, y Ganolfan yn casglu data defnyddiol a phrosbectws ar-lein ar y cyd, yn golygu bod negeseuon yn gallu bod yn fwy effeithiol a mynediad i wersi yn fwy llyfn Niferoedd dysgwyr Cymraeg i oedolion sy’n byw yn Sir Gâr yn gymharol isel yn dilyn COVID-19
Arlwy da o gyrsiau Cymraeg i athrawon ac arbenigedd mewn darpariaeth ddwys gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant Dim digon o gydgynllunio rhwng y ddarpariaeth gymunedol a gwaith hyrwyddo’r Gymraeg i atgyfnerthu targedau’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (SCGA)
Arlwy da a mwy cydlynus o gyfleoedd anffurfiol i ddysgwyr Dim digon o’n hathrawon yn cymryd mantais o’r arlwy dysgu sydd ar gael
Polisïau cyrff cyhoeddus yn annog datblygu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Darpariaeth o gyrsiau Cymraeg yn y gweithleoedd amrywiol a phwrpasol Ymdrechion i hyrwyddo arlwy anffurfiol ar y cyd i ddysgwyr heb gynyddu niferoedd
Coleg Sir Gâr yn cynyddu nifer y cyrsiau gall myfyrwyr eu dilyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Cydweithio rhwng Coleg Sir Gâr a’r Brifysgol ar ddatblygu llwybrau o astudio pellach i uwch trwy gyfrwng y Gymraeg Dim digon o gynnydd mewn sgiliau Cymraeg yn y gweithle
  Diffyg data ar bobl ifanc Sir Gâr mewn addysg uwch a phellach sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Cynnydd da Diffyg cynnydd
Y Mentrau wedi addasu eu ffyrdd o weithredu i ymateb i sefyllfa’r Pandemig. Hyblygrwydd a gwytnwch yn y cyrff sy’n darparu’n gymunedol, e.e. CFfI Effaith y pandemig ar aelodaeth yr Urdd.
Effaith y pandemig ar yr holl sefydliadau sy’n trefnu digwyddiadau i’r cyhoedd
Canolfan yr Egin yn fan deniadol i ymgynnull, rhyngweithio a defnyddio’r Gymraeg Effaith y pandemig ar weithgarwch yr Atom
Sefydlu canolfan newydd gyfoes, ganolog a hyfyw yn Llandeilo yn gyrchfan naturiol i’r Gymraeg Effaith y pandemig a materion staffio ar ddarpariaeth Menter Gwendraeth Elli, yn enwedig yn Llanelli
Cyfleoedd anffurfiol i ddefnyddio’r Gymraeg yng ngweithluoedd y Cyngor Sir ac eraill Diffyg cynnydd mewn gweinyddu yn Gymraeg er mwyn creu gweithleoedd lle mae defnyddio’r Gymraeg yn naturiol, sy’n caniatáu i bobl gynnal eu hyder yn eu sgiliau Cymraeg
Ymdrechion penodol wedi eu gwneud o fewn y maes hamdden gyda Theatrau Sir Gâr yn darparu llawer mwy o arlwy Cymraeg a chanolfannau hamdden y sir a’r marchnadoedd yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg Ymdrechion i ganfod ffyrdd o farchnata gweithgareddau cymunedol Cymraeg ar y cyd ac yn fwy egnïol wedi pylu
  Y gwaith o ddatblygu gallu tiwtoriaid nofio i ddarparu’n Gymraeg a dwyieithog heb olygu cynnydd digonol mewn darpariaeth o wersi nofio Cymraeg. Dim system wedi ei sefydlu sy’n cynnig nac yn darparu gwersi Cymraeg yn ddigon cyson
  Gwaith Arweinwyr iaith o fewn adrannau ein cyrff cyhoeddus heb ddatblyg
Cynnydd da Diffyg cynnydd
Creu’r Pecyn Croeso Diffyg defnydd o’r pecyn croeso. Diffyg defnydd o’r pecyn croeso
Cychwyn ar y gwaith o gydlynu ymdrechion datblygu iaith a datblygu economi. Cychwyn cadarn o ran disgwyliadau achyfleoedd ieithyddol ym Mhentre Awel. Trafferthion recriwtio siaradwyr Cymraeg i’r gweithlu. Pobl ifanc ddim yn gwerthfawrogi mantais eu sgiliau Cymraeg ar gyfer y gweithle.
Polisïau a gweithredoedd yn y maes tai yn cynyddu darpariaeth tai fforddiadwy, yn ennyn pobl leol i’r ddarpariaeth ac yn lleihau nifer y tai gwag yn y sir gan greu amodau ffafriol i drigolion lleol i aros yn y sir.. Prosiect y Deg Tref ddim bob amser yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i ddatblygu hyfywedd y Gymraeg yn y cymunedau wrth ddatblygu’r economi
Gwaith cynllunio iaith o fewn proses y CDLI, yn enwedig datblygu methodoleg newydd i fesur effaith defnydd tir ar y Gymraeg. Diffyg arweiniad cenedlaethol a gwybodaeth gadarn ar effaith adeiladu ar yr iaith Gymraeg o safbwynt niferoedd y lleoliadau a ganiateir ar gyfer adeiladu tai a’u lleoliadau daearyddol.
Cryfhau’r polisi enwi tai a strydoedd y Cyngor. Diffyg mcydlyniant (neu gorff arweiniol) ymdrechion i baratoi pobl ifanc y Sir i’r byd gwaith a dwyn perswâd arnynt i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau iaith i’w defnyddio yn y gweithle, a’u hannog i ddatblygu gyrfaoedd mewn meysydd ble mae angen siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu o fewn y sir.
Sefydlu ac ehangu prosiect Profi gan Fenter Gorllewin Sir Gâr.. Diffyg darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn elfen astudio a chymhwyso prentisiaethau
Sefydlu darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yr Urdd a meithrin yn y meysydd gofal plant, chwaraeon, ac awyr agored Diffyg gweithleoedd y Sir i ddarparu a hyrwyddo prentisiaethau cyfrwng Cymraeg
Cychwyn ar y gwaith o wella darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn y Sir. Diffyg corff arweiniol i gydlynu ymdrechion i wella sefyllfa prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn y sir
Ymdrechion Coleg Sir Gâr i fagu hyder pobl ifanc yn eu sgiliau Cymraeg o fewn meysydd astudio sy’n arwain at waith lle mae sgiliau Cymraeg yn benodol o angenrheidiol.. Ariannu Swyddogion Helo Blod Lleol yn dirwyn i ben.

Creu’r adnodd electronig ‘Y Gymraeg mewn Busnes’, a’i ddosbarthu drwy brosiectau fel rhai Menter a Busnes.

Gweithredu nifer o brosiectau penodol i gynyddu defnydd y Gymraeg yn y sector preifat.

 
Cyllid datblygu’r economi yn cael ei raeadru at brosiectau penodol i hyrwyddo’r Gymraeg.  
Cynnydd da Diffyg cynnydd
Denu cyllid i beilota prosiect yn yr Ardaloedd Blaenoriaeth Cyfnod byr y prosiect peilot
Cydweithio’r tair Menter ar gyflawni ac adrodd ar y prosiect Anhawster capasiti’r Mentrau i weithio’n ficro mewn ardaloedd penodol a darparu gweithgarwch ar draws yr ardal hefyd
  Diffyg hyblygrwydd cyrff hyrwyddo’r Gymraeg cenedlaethol i mymateb i ofynion sirol oherwydd cynlluniau a thargedau cenedlaethol
  Ffocysu ar ardaloedd digon penodol i symbylu newid
Gwaith cychwynnol Datblygu’r Gymraeg yn Llanelli: ymdrech i weithredu gyda sail tystiolaeth gadarn a gweithredu’n strategol a phartneriaethol  
Cynnydd da Cynnydd da
Yr holl adnoddau hyrwyddo’r Gymraeg a grëwyd Diffyg system effeithiol i ddosbarthu a defnyddio’r adnoddau a grëwyd
Rhai enghreifftiau da o ddosbarthu’r deunyddiau Diffyg ymgyrchoedd penodol ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg
Ymroddiad holl gyrff y Fforwm i drefnu gweithgarwch ar ddyddiau cenedlaethol hyrwyddo’r Gymraeg Diffyg dylanwad ar gyrff allanol i ddosbarthu deunyddiau hyrwyddo’r Gymraeg
Ymdrechion i greu sianeli i rannu adnoddau hyrwyddo Rhai cyrff yn dal i golli cyfle i ddosbarthu adnoddau a grëwyd gan gyrff erail

Nod a gweledigaeth

Nod: Anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y Sir. Ein nod yw adfer y Gymraeg yn iaith a siaredir ac a ddefnyddir gan fwyafrif ein trigolion yn gyson, ac ym mhob agwedd ar fywyd.

Wrth lunio Strategaeth Hybu Sir Gâr 2016-2021, sefydlwyd cyfarfodydd rheolaidd o Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg i gynorthwyo’r awdurdod lleol i gynllunio, gweithredu a chraffu ar y Strategaeth.

Er bod aelodau’r Fforwm yn gytûn ynglŷn â pharhau gyda’r un nod i’r cyfnod nesaf o bum mlynedd, nodwyd hefyd bod awydd i newid gêr o safbwynt y nod hwn. Yn dilyn yr holl waith o gydgynllunio, dylanwadu a chydweithio a wnaed yn ystod y pum mlynedd diwethaf a chyn hynny, rydym yn teimlo fod sail ac angen i ni fod yn fwy hyderus wrth drafod y Gymraeg yn y Sir bellach.

Credwn ein bod wedi cyrraedd man yn hanes y Gymraeg yn y Sir lle y dylem symud oddi wrth ‘annog defnydd’ a thuag at ddatgan fod y Gymraeg yn elfen greiddiol o hunaniaeth y Sir, a chroesawu pawb at yr iaith ac at gymuned yr iaith, heb ymddiheuro. Rydym eisiau gweithredu mewn modd sy’n derbyn fod y Gymraeg yn norm yn y Sir ac nid angen cael ei ‘normaleiddio’ bellach. I adlewyrchu hyn, cydluniwyd y weledigaeth ganlynol i lywio’r ymagwedd y byddwn yn ei harddel wrth weithredu’r Strategaeth hon.

 

Gweledigaeth: Rydym eisiau gweld cynnydd yng nghyfran trigolion Sir Gâr sy’n gallu siarad Cymraeg ac yn defnyddio’u Cymraeg yn gyson. Rydym eisiau gweld y Gymraeg yn norm gweithio a gweithredu yn sefydliadau cyhoeddus y Sir ac yn fwyfwy cyffredin ym musnesau’r Sir. Rydym eisiau i’n pobl ifanc weld dyfodol iddynt yn y Sir mewn cymunedau Cymraeg cynaliadwy a ffyniannus, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.

Rydym eisiau i bawb fod yn falch o’r Gymraeg yn Sir Gâr.

Rydym hefyd yn cydnabod y bydd canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn amlygu ardaloedd daearyddol o fewn y sir sydd heb gyrraedd y sefyllfa yma o hyder ieithyddol eto, a bydd ffigurau’r Cyfrifiad newydd yn sbarduno ein hymateb i’r heriau yma. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys y bydd ‘trosglwyddo iaith’ a ‘materion mewnfudo ac allfudo’ yn feysydd y bydd y Strategaeth hon yn eu harchwilio’n fanylach wrth ddadansoddi canlyniadau’r Cyfrifiad
hefyd.

Bydd amcanion sylfaenol Strategaeth Un, megis creu mwy o siaradwyr hyderus, a chynnal defnydd y Gymraeg drwyddi draw yn parhau yn y Strategaeth hon wrth reswm, ond bydd yna bwyslais mwy penodol ar y Gymraeg a’r economi, y gweithlu a’r gweithle gan fod rhain yn themâu lle rydyn ni, fel Fforwm, wedi datblygu dealltwriaeth gliriach o’r modd y mae angen gweithredu er mwyn gwella sefyllfa’r Gymraeg yn y Sir.

Teimla’r Fforwm hefyd fod ‘Marchnata’r Gymraeg’ wedi symud, ymlaen yng nghyfnod y Strategaeth hon. Ymddengys ei fod bellach yn fwy addas i’w drin ymhlyg yn yr amcanion eraill, fel nodwedd o holl waith Strategaeth Dau. Bydd y gwaith o godi statws y Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth o elfennau penodol o’r Gymraeg (fel addysg Gymraeg, a’r angen am sgiliau Cymraeg yn y gweithlu) yn cael ei wneud fel rhan greiddiol o gyflawni’r amcanion oll. Fe fydd ymgais hefyd, yn ystod y cyfnod o bum mlynedd nesaf, i nodi cynulleidfaoedd o fewn y sir sydd ddim yn deall arwyddocâd a manteision dwyieithrwydd a’r iaith Gymraeg fel agwedd sylfaenol ac unigryw ar hunaniaeth a diwylliant ein sir. Byddwn ni’n ceisio cyfleu’r negeseuon hyn mewn ffyrdd newydd ac arloesol.

Fe fydd y Fforwm hefyd yn blaenoriaethu data’r Cyfrifiad, gan ddadansoddi ar lefel gymunedol y tueddiadau mwyaf arwyddocaol ac ymateb drwy gynllunio ar lefel ddaearyddol. Amser a ddengys beth fydd y blaenoriaethau daearyddol newydd ac fe fydd yn rhaid blaenoriaethu’n ofalus er mwyn bod yn realistig am yr hyn a all gael ei gyflawni gyda’r adnoddau sydd ar gael.

Mae’r Strategaeth hon yn categoreiddio’r is-amcanion yn rhai y dylid rhoi sylw iddynt yn y tymor byr, canolig a hir. Mae angen gwneud hyn er mwyn rhoi cyfeiriad clir a chydnabod nad ydyw’n realistig ceisio cyflawni popeth yr un pryd. Mae’r Strategaeth hefyd yn nodi maes gwaith i gyfateb â phob is-amcan, a hynny er mwyn gosod cyfeiriad gweithredol clir.

 

Dulliau Gweithredu a monitro’r Amcanion:

Mecanwaith

Gwnaed y rhan fwyaf o waith cynllunio Strategaeth Hybu Dau yng nghyfarfodydd y Fforwm Strategol Sirol. Wedi gwneud gwaith manwl ar asesu llwyddiant Strategaeth Un, cafwyd trafodaethau ar amcanion a blaenoriaethau yn deillio o hynny.

Roedd y gwaith cynllunio hefyd yn cymryd mewnbwn o’r partneriaethau a’r dogfennau isod i ystyriaeth, a rhoddwyd gwagle ar gyfer dadansoddi a chloriannu goblygiadau data Cyfrifiad 2021 yn y Strategaeth yn ogystal, gan nad oedd amseru’r data yn caniatáu ystyriaeth lawn ohonynt wrth lunio Strategaeth Dau.

Fel ar gyfer Strategaeth Un, mae holl gyrff y Fforwm yn gweithredu’r Strategaeth drwy hyrwyddo’r Gymraeg a darparu cyfleoedd i drigolion y Sir ddefnyddio’r Gymraeg. Mae manylder eu darpariaeth yn eu cynlluniau blynyddol a’u strategaeth hwy fel cyrff annibynnol. Mae’r cyrff cenedlaethol sy’n aelodau o’r Fforwm yn gweithredu yn ôl targedau cenedlaethol ar y cyfan, ac er bod eu hamcanion yn alinio’n union gydag amcanion y Strategaeth hon, nid oes llawer o fodd cael mewnbwn i’w darpariaeth ar lefel sirol.

Fodd bynnag, mae cyfarfodydd y Fforwm a’r Strategaeth Hybu hon yn gyfle gwerthfawr i sicrhau ein bod yn cydgynllunio ar lefel sirol o fewn ffiniau’r targedau cenedlaethol hynny. Mae’n rhaid cydnabod bod yna gyrff a phartneriaethau cymunedol sy’n cyfrannu’n anuniongyrchol i’r Strategaeth hon. Mae nifer o gapeli a chorau, neuaddau pentref a chlybiau amrywiol yn darparu cyfleoedd cymdeithasol allweddol Cymraeg heb fod yn cyfrannu’n uniongyrchol i unrhyw strategaeth ehangach.

Er bod gwaith craidd hybu’r Gymraeg yn y Sir yn mynd rhagddo yn unol â chynlluniau cyrff unigol, fe fydd yna Gynllun Gweithredu ar gyfer y Strategaeth hon, a fydd yn adnabod camau gweithredu ar gyfer mynd i’r afael ag amcanion y Strategaeth. Dyma fydd yn gyrru’r gwaith yn ei flaen ac fe fydd y Fforwm yn derbyn diweddariadau ar lafar oddi wrth y cyrff sy’n cyfrannu at y pwyntiau gweithredu yma’n chwarterol.

Byddwn yn datblygu fframwaith mesur effaith, sy’n nodi mesuryddion ar gyfer amcanion y Strategaeth.

Fe fydd pob maes gwaith yn cael ei amserlennu i gyfarfodydd y Fforwm yn ei dro ac wrth i’r meysydd gwaith gael sylw yng , nghyfarfodydd y Fforwm Sirol. Bydd pob maes gwaith yn cael ei drafod ddwywaith yng nghyfnod y Strategaeth ac fe fydd y data felly’n cael ei ddiweddaru ddwywaith. Bydd hyn yn galluogi’r Fforwm i dracio cynnydd yn unol â’r amcanion wrth i’r cyfnod o bum mlynedd fynd rhagddo.

Ar ddiwedd y pum mlynedd, fe fydd dadansoddiad manwl o sefyllfa’r Gymraeg yn y Sir yn cael ei baratoi, a fydd yn rhoi gwybodaeth fanwl i ni ar effaith y Strategaeth a’r cynllun gweithredu. Bydd yr adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth ystadegol o gyfrifiadau ac arolygon cenedlaethol yn ogystal.


Amcanion, Is-amcanion, meysydd gwaith a phrif bartneriaid

Amcan 1 - Cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg

Amcan 2 - Cynnal balchder a hyder trigolion y Sir yn y Gymraeg a’u defnydd ohoni

Amcan 3 - Y Gymraeg yn norm yn y gweithle a’r gweithlu

Amcan 4 - Cymunedau Cymraeg sy’n ffynnu


Amcan 1: Cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg

 

  • Is-amcan: Tymor Byr

    Is-amcan: Gwneud y Gymraeg yn norm yn y cyfnod cyn oed ysgol

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Cyn oed ysgol: Gofal plant,
    • Addysg cyn oed ysgol,
    • Hyrwyddo addysg Gymraeg,
    • Ôl-16: addysg blynyddoedd cynnar a hyfforddiant maes blynyddoedd cynnar
    • Gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd (CSG)
    • Mudiad Meithrin
    • Cymraeg i Blant
    • Cymraeg i Oedolion
    • Meithrinfeydd preifat, Dechrau’n Deg (CSG)
    • Grwpiau rhieni a babanod
    • Adran blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru
    • Cwlwm
    • Adran Addysg a Phlant CSG
    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
    • Coleg Sir Gâr
    • Hywel Dda
  • Is-amcan: Tymor Canolig

    Is-amcan: Gwneud y Gymraeg yn norm yn y cyfnod cyn oed ysgol

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Trosglwyddo iaith, Cyfleoedd cymdeithasol / cymunedol
    • Mentrau Iaith
    • Adran Addysg CSG
    • Cymraeg i Blant
    • Cylchoedd Meithrin
    • Siopau Cymraeg
    • S4C
    • Yr Egin
    • Health Board
    • Yr Atom
    • Uned y Gymraeg Llywodraeth Cymru
    • Neuaddau pentref
  • Is-amcan: Tymor Byr

    Is-amcan: Cefnogi amcanion y CSGA o wella dilyniant disgyblion mewn addysg Gymraeg o un cyfnod sylfaen i’r llall

    Maes Gwaith Prif bartneriaid

    Hyrwyddo addysg Gymraeg

    • Adran Addysg CSG
    • Ysgolion Sir Gâr
    • Mentrau
  • Is-amcan: Tymor Canolig

    Is-amcan: Sicrhau bod trigolion Sir Gâr yn deall am Gymreictod y sir ac yn gwybod bod cyrsiau Cymraeg ar gael i bawb

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Cymraeg i Oedolion
    • Cymathu mewnfudwyr
    • Prifysgol Aberystwyth
    • Tîm Datblygu’r Gymraeg CSG
    • Cynghorau tref a chymuned
    • Mentrau
    • Hywel Dda
    • Cyrff cyhoeddus
    • Neuaddau cymunedol
    • Adran Dai CSG
    • Cymdeithasau Tai
    • Busnesau Twristiaeth
    • Ysgolion y sir
  • Is-amcan: Tymor Hir

    Is-amcan: Cefnogi hwyrddyfodiaid ifanc a’u teuluoedd i integreiddio i addysg Gymraeg

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Hyrwyddo Addysg Gymraeg
    • Cyfleoedd cymdeithasol / cymunedol
    • Mentrau
    • Ysgolion
    • Tîm Datblygu’r Gymraeg CSG
    • Urdd
  • Is-amcan: Tymor Hir

    Is-amcan: Cefnogi disgyblion ysgolion cyfrwng Saesneg i uniaethu â’r iaith Gymraeg a’i pherchnogi

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Cymathu mewnfudwyr
    • Cyfleoedd cymdeithasol / cymunedol
    • Mentrau
    • Tîm Datblygu’r Gymraeg CSG
    • Ysgolion
    • Urdd
  • Is-amcan: Tymor Canolig

    Is-amcan: Cefnogi mewnfudwyr hŷn i gymunedau gwledig y sir heb iddynt meffeithio’n andwyol ar ddefnydd y Gymraeg yn y gymuned

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Cymraeg i Oedolion
    • Cyfleoedd cymdeithasol / cymunedol
    • Prifysgol Aberystwyth
    • Cymraeg i Oedolion CSG
    • Mentrau
    • Merched y Wawr
    • Neuaddau cymunedol
  • Is-amcan: Tymor Hir

    Is-amcan: Cynyddu nifer trigolion Sir Gâr sy’n dysgu Cymraeg

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Cymraeg i Oedolion
    • Prifysgol Aberystwyth
    • Adran Addysg CSG
    • Canolfan Dysgu Cymraeg
    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
    • Cyrff cyhoeddus

Amcan 2: Cynnal balchder a hyder trigolion y Sir yn y Gymraeg a’u defnydd ohoni

  • Is-amcan: Tymor Byr

    Is-amcan: Sicrhau bod cyfleoedd i holl ddisgyblion sy’n derbyn addysg Gymraeg y sir i ddefnyddio’u Cymraeg y tu allan i’r ysgol Cynnal a hyrwyddo cyfleoedd hamdden i blant a phobl ifanc:mentrau, yr Urdd, CFfI, clybiau chwaraeon, adran hamdden y sir

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Cyfleoedd cymdeithasol/ cymunedol
    • Mentrau Iaith
    • Urdd
    • CFfI
    • Actif Sir Gâr
    • Coleg Sir Gâr
    • Cangen Coleg Cymraeg Prifysgol y Drindod Dewi Sant
    • Clybiau chwaraeon
    • Busnesau hamdden
    • Siarter iaith
  • Is-amcan: Tymor Canolig

    Is-amcan: Sicrhau ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig a chynyddu defnydd disgyblion ail iaith o’u Cymraeg y tu allan i’r ysgol

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Cyfleoedd cymdeithasol/cymunedol
    • Ymwybyddiaeth iaith
    • Mentrau
    • Urdd
    • Yr Egin
    • Yr Atom
    • Siarter iaith
    • Actif
  • Is-amcan: Tymor Canolig

    Is-amcan: Creu continwwm di-dor o addysg cyfrwng Cymraeg statudol i addysg bellach i bobl ifanc y sir

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Ôl-16
    • Coleg Cymraeg
    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
    • Coleg Sir Gâr
    • Ysgolion y Sir
  • Is-amcan: Tymor Canolig

    Is-amcan: Sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn parhau i ddatblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg wrth symud o addysg statudol i addysg bellach ac uwch o fewn y sir

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Ôl-16
    • Coleg Cymraeg
    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
    • Coleg Sir Gâr
    • Ysgolion y Sir
  • Is-amcan: Tymor Canolig

    Is-amcan: Sicrhau bod ein pobl ifanc yn deall manteision parhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a bod modd iddyn nhw wneud hynny

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Ôl-16
    • Coleg Cymraeg
    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
    • Coleg Sir Gâr
    • Ysgolion y Sir
    • Mentrau Iaith
  • Is-amcan: Tymor Canolig

    Is-amcan: Sicrhau ymwybyddiaeth eang trigolion y sir o holl gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol Cymraeg y sir

    Marchnata a hyrwyddo

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Cyfleoedd cymdeithasol/cymunedol
    • Theatrau Sir Gâr
    • Yr Egin
    • Yr Atom
    • Neuaddau Cymunedol
    • Choirs
    • Corau, Canolfannau Cymraeg a chanolfannau treftadaeth
    • Mentrau Iaith

     

  • Is-amcan: Tymor Hir

    Is-amcan: Cynyddu defnydd y sector preifat a’r trydydd sector o’r Gymraeg drwy hyrwyddo Helo Blod, canllawiau a chymorth amrywiol

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Sector preifat
    • Mentrau Iaith
    • Adran Datblygu Economaidd CSG
    • Menter a Busnes
    • Antur Cymru
  • Is-amcan: Tymor Canolig

    Is-amcan: Sicrhau bod defnydd digidol bywiog o’r Gymraeg ymysg trigolion y sir

    Cyfryngau cymdeithasol:

    • Presenoldeb y Gymraeg a Chymreictod ar y cyfryngau cymdeithasol,
    • Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd gyda chynnwys Cymraeg,
    • Deunydd Cymraeg digidol newydd,
    • Rhwydweithio digidol Cymraeg,
    • Rhannu llwyddiannau am y Gymraeg ac yn Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol

     

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Cyfleoedd cymdeithasol/cymunedol
    • S4C
    • Mentrau Iaith
    • Canolfan Dysgu Cymraeg
    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
    • Yr Egin
    • Ysgolion
    • Llywodraeth Cymru
  • Is-amcan: Tymor Hir

    Is-amcan: Cynyddu defnydd trigolion Sir Gâr o wasanaethau cyhoeddus cyfrwng Cymraeg. Hyrwyddo gwasanaethau, codi disgwyliadau ac ymwybyddiaeth

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Sector cyhoeddus
    • Cyrff cyhoeddus
    • Comisiynydd y Gymraeg
    • BGC

Amcan 3: Y Gymraeg yn norm yn y gweithle a’r gweithlu

 

  • Is-amcan: Tymor Byr

    Is-amcan: Sicrhau cynnydd blynyddol yn sgiliau Cymraeg gweithluoedd y sector cyhoeddus

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Sector cyhoeddus
    • Cyngor Sir Gâr
    • Hywel Dda
    • Heddlu Dyfed-Powys
    • Comisiynydd Heddlu
    • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
    • Coleg Sir Gâr
    • BGC
  • Is-amcan: Tymor Byr

    Is-amcan: Cynyddu faint o weinyddu sy’n digwydd yn Gymraeg a nifer y gweithleoedd sy’n gweinyddu drwy gyfrwng y Gymraeg

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Sector cyhoeddus
    • Cyngor Sir Gâr
    • Hywel Dda
    • Heddlu Dyfed-Powys
    • Comisiynydd Heddlu
    • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
    • Coleg Sir Gâr
    • BGC
  • Is-amcan: Tymor Canolig

    Is-amcan: Cynnal defnydd anffurfiol y Gymraeg yn y gweithle

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Sector cyhoeddus
    • Cyngor Sir Gâr
    • Hywel Dda
    • Heddlu Dyfed-Powys
    • Comisiynydd Heddlu
    • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
    • Coleg Sir Gâr
    • BGC
  • Is-amcan: Tymor Hir

    Is-amcan: Recriwtio siaradwyr Cymraeg i weithluoedd â blaenoriaeth

    Hyrwyddo cyfleoedd gwaith lle mae angen y Gymraeg fel sgil

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Ôl-16
    • Partneriaeth Sgiliau a Gwaith
    • Mentrau iaith
    • Coleg Sir Gâr
    • Pentre Awel
    • Cwlwm
    • Gyrfa Cymru
    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

     

  • Is-amcan: Tymor Canolig

    Is-amcan: Cynyddu darpariaeth addysg bellach ac uwch Cymraeg o fewn y sir

    Hyrwyddo darpariaeth Gymraeg Coleg Sir Gâr a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Ôl-16
    • Coleg Cymraeg
    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
    • Coleg Sir Gâr
    • Ysgolion uwchradd y sir

     

  • Is-amcan: Tymor Canolig

    Is-amcan: Gwella mynediad at hyfforddiant proffesiynol Cymraeg

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Ôl-16
    • Colegau a phrifysgolion
    • Byrddau achredu proffesiynol
  • Is-amcan: Tymor Byr

    Is-amcan: Cynyddu nifer y lleoedd profiad gwaith a phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg sy’n cael eu darparu yng ngweithleoedd y sir

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Ôl-16
    • Profi
    • Sefydliadau cyhoeddus
    • Colegau
    • Byrddau arholi ac achredu
    • Rhaglenni cenedlaethol, prentisiaethau
  • Is-amcan: Tymor Byr

    Is-amcan: Hyrwyddo’r Gymraeg fel sgil gwerthfawr yn y byd gwaith, yn enwedig i bobl ifanc

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Ôl-16
    • Gyrfa Cymru
    • Profi
    • Mentrau Iaith
    • Ymwybyddiaeth iaith
    • Cyngor gyrfaol
    • BGC

Amcan 4: Cymunedau Cymraeg sy’n ffynnu

 

  • Is-amcan: Tymor Byr

    Is-amcan: Sicrhau bod datblygiadau strategol ac economaidd yn cael effaith gadarnhaol ar ffyniant y Gymraeg yn y sir

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Rhaglenni a chynlluniau strategol
    • Datblygu economaidd
    • Deiliad Portffolio Economi y Cyngor Sir
    • Adran Datblygu Economaidd CSG
    • Partneriaid Arfor
    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
    • Pentre Awel
    • Prosiect y Deg Tref - y Gronfa Ffyniant Gyffredin
    • Shared Prosperity Fund,
    • Mentrau cymunedol
    • Llywodraeth Cymru
  • Is-amcan: Tymor Byr

    Is-amcan: Sicrhau bod polisïau’r CDLI yn sbarduno ffyniant y Gymraeg yn y gymuned ac yn yr economi

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Cynllunio defnydd tir
    • Tai cymdeithasol a thai cyngor
    • Adran gynllunio CSG
    • Cydbwyllgorau corfforaethol
  • Is-amcan: Tymor Byr

    Is-amcan: Sicrhau bod datblygiadau deddfwriaethol ynglŷn â defnydd tai a thir yn cael eu defnyddio er budd y Gymraeg yn y sir

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Cynllunio defnydd tir
    • Tai cymdeithasol a thai cyngor
    • CSG
    • Llywodraeth Cymru
  • Is-amcan: Tymor Byr

    Is-amcan: Dadansoddi data’r cyfrifiad ac ymateb gydag ymyraethau a chynlluniau

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Data’r Cyfrifiad
    • Fforwm Sirol
    • Tîm data CSG
    • Mentrau Iaith
  • Is-amcan: Tymor Hir

    Is-amcan: Cefnogi cynaladwyedd canolfannau Cymraeg a chanolfannau treftadaeth a chymunedol sy’n gweithredu yn Gymraeg. Marchnata, hyrwyddo a chynyddu capasiti canolfannau sy’n annog defnydd y Gymraeg

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Datblygu economaidd
    • Mentrau Iaith
    • CSG
  • Is-amcan: Tymor Canolig

    Is-amcan: Dylanwadu ar raglenni economaidd a strategol sirol a chenedlaethol i sicrhau budd i gymunedau gwledig

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Datblygu economaidd
    • Fforwm Strategol Sirol
    • Datblygu Economaidd CSG
    • Tîm Polisi CSG
    • Uned y Gymraeg, Hywel Dda
    • Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy
  • Is-amcan: Tymor Canolig

    Is-amcan: Cynyddu argaeledd tai ar gyfer pobl ifanc y sir yn enwedig pobl ifanc sy’n dod o’r sir

    Maes Gwaith Prif bartneriaid
    • Tai
    • Adran Dai CSG
    • Cymdeithasau Tai