Derbyn i Ysgolion 2023-2024- Gwybodaeth i Rieni

Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol/ysgolion gwirfoddol a reolir cynradd neu uwchradd

Os na fydd rhieni'n llwyddo i gael lle i'w plentyn yn eu dewis ysgol, fe’u hysbysir drwy e-bost o’r rheswm/rhesymau dros hyn a hefyd am eu hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad a’r broses o wneud hynny.

Ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir bydd yr Awdurdod yn trefnu bod Panel Apêl Annibynnol yn ystyried yr apeliadau. Cynhelir y broses apeliadau yn unol â Chôd Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Nid oes hawl i apelio yn achos gwrthod derbyn i ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar, lleoedd rhan-amser i blant 3 oed.

Bydd apeliadau'n cael eu cynnal yn unigol neu fel grŵp os oes mwy nag un apêl ar gyfer yr un ysgol, ac eithrio pan fydd y corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am wneud trefniadau apelio yn rhoi cyfarwyddyd fel arall. Bydd rhieni'n cael cyfle i gyflwyno eu hachos yn breifat naill ai'n uniongyrchol neu gyda chymorth cynrychiolydd a ddewisir ganddynt.

Bydd y Clerc yn hysbysu pob parti o benderfyniad y Panel, a fydd yn rhwymo’r Awdurdod, y Corff Llywodraethu a'r rhieni.

Rhaid i rieni gyflwyno apêl yn erbyn gwrthod lle mewn Ysgol Gymunedol neu Wirfoddol a Reolir drwy lythyr neu e-bost at Uned y Gwasanaethau Democrataidd, Adran y Prif Weithredwr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP. Neu gysylltu drwy e-bost PanelAnnibynnolApeliadauDerbyn@sirgar.gov.uk.

Os bydd angen tystiolaeth feddygol bydd angen ichi ddarparu copïau o adroddiadau sy'n ymwneud â'r diagnosis gan yr Ymgynghorydd a/neu'r Arbenigwr perthnasol. Bydd gan Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir eu trefniadau eu hunain ar gyfer cynnal apeliadau annibynnol. Yn ogystal â'r uchod, ni fydd unrhyw beth yn y broses hon yn atal rhiant â phlentyn sydd â datganiad o anghenion addysgol y gwrthodwyd lle i'r plentyn hwnnw yn yr ysgol a enwir yn y datganiad, rhag cael adolygiad o benderfyniad o'r fath gan Dribiwnlys AAA.

Nifer yr Apeliadau ar gyfer mynediad arferol i Ysgolion Sir Gaerfyrddin ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21


Enw'r Ysgol Nifer yr Apeliadau ar gyfer 21/22 Apeliadau Llwyddiannus ar gyfer 21/22
Cynradd (N2)    
Brynamman 7 7
Brynsierfel 1 1
Brynteg 1 1
Cefneithin 1 0
Ffwrnes 3 1
Gorslas 1 1
Halfway 1 1
Hendy 9 6
Peniel 1 1
Penrhos 1 0
Pum Heol 1 0
Rhydamman 10 9
Saron 3 2
Cyfanswm 40 30
     
Uwchradd (Blwyddyn 7)    
Bro Dinefwr 8 6
Bryngwyn 12 11
Cyfanswm 20 17