Canllaw Cais Cynllunio

Dilysu

Rhaid i gais cynllunio gael ei ddilysu cyn y gellir derbyn ei fod yn gyflawn ac yn barod i'w brosesu gyda'r holl ddogfennau angenrheidiol.

Y rhesymau annilys mwyaf cyffredin

Mae llawer o geisiadau yn annilys pan gânt eu derbyn. Mae hyn yn arafu'r broses ddilysu tra'n aros i wybodaeth bellach/ddiwygiedig ddod i law. Dewch o hyd i'r rhestr isod o'r rhesymau mwyaf cyffredin dros fod yn annilys: 
  • Dim ffi/ffi anghywir wedi ei thalu 
  • Angen Arolwg Ystlumod/Tylluanod Gwyn 
  • Effaith neu ddylanwad Hawl Tramwy Cyhoeddus (HTC) ar y datblygiad gan nad yw wedi cael ei ddangos ar gynllun y safle/bloc 
  • Cynllun lleoliad y safle yn anghywir. Er enghraifft: 
    • dim pwynt gogleddol wedi ei nodi 
    • graddfa anghywir/dim graddfa wedi ei darparu 
    • mynediad i'r briffordd heb ei ddangos lle bo'n berthnasol 
    • llinell ddatblygu goch anghywir 
  • Angen adroddiad tir halogedig 
  • Angen Asesiad Risg Llifogydd
  • ffurflenni cais anghyflawn 
  • tystysgrifau perchnogaeth wedi eu llenwi'n anghywir (o fewn y ffurflen gais) 
  • gwybodaeth ategol annigonol neu ddiffygiol megis; datganiad dylunio a mynediad, arolwg coed, arolwg rhywogaethau a warchodir 
Byddwn yn cyfathrebu â chi neu eich asiant ynghylch annilysrwydd eich cais. Byddwn yn tynnu sylw at y problemau ac yn rhoi cyfle i chi eu cywiro.
PORTH CYNLLUNIO: RHESTR O OFYNION DILYSU

Cynlluniau

Mae arnom angen i Gynlluniau fodloni’r Gofynion Cenedlaethol ar gyfer cynlluniau h.y.: 
  • Wedi eu lluniadu i raddfa fetrig safonol a nodwyd 
  • Dileu ‘Peidiwch â graddio’ a rhoi geiriad addas arall yn ei le sy’n caniatáu i’r ACLl greu graddfa o’r lluniad 
  • Bar graddfa wedi ei nodi i gyd-fynd â chymhareb y raddfa a nodwyd 
  • Wedi ei ddarparu ar fap cyfoes (Cynllun Lleoliad a Chynllun Bloc) 
  • Nodwch y Gogledd (Cynllun Lleoliad a Chynllun Bloc) 
  • Wedi ei ddarparu ar y raddfa a nodir ar y cynllun h.y. os yw’r cynllun yn nodi 1:100 @A3 rhaid darparu’r cynllun yn A3 (yn electronig a chopi caled) 
  • Lle mae cynllun sy'n seiliedig ar yr Arolwg Ordnans yn cael ei gyflwyno i ddibenion cynllunio, rhaid dangos yr hawlfraint a rhif y drwydded
Gall ymgeiswyr/asiantiaid wneud yr isod i helpu i gyflymu’r broses gynllunio: 
  • Darparu cynlluniau yn ddelfrydol ar raddfa i ffitio A4 neu A3 (bydd hyn yn dibynnu ar faint y datblygiad) 
  • Ansawdd derbyniol sy'n glir ac yn ddarllenadwy 
  • Rhaid lanlwytho cynlluniau a gyflwynir yn electronig yn y cyfeiriad a nodir ar y cynllun
  • Enwi a rhoi teitl mewn modd rhesymegol, gan adlewyrchu eu cynnwys 
  • Pob cynllun wedi ei rifo 
  • Pob cynllun wedi ei gyflwyno fel dogfen ar wahân wedi ei labelu'n glir. 
  • Dileu manylion personol megis rhifau ffôn symudol. Mae hyn er mwyn lleihau'r golygu sydd ei angen i gydymffurfio â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 
  • Rhaid cyflwyno pob cynllun fel ffeiliau PDF un dudalen ar wahân. Ni dderbynnir cynlluniau PDF gyda nifer o dudalennau wedi eu cyfuno.
PORTH CYNLLUNIO: MAPIAU CYNLLUNIO 

Dilysu

Dim ond pan fydd cais wedi cael ei ddilysu y bydd y cloc yn dechrau tician ar yr 8 neu 16 wythnos y dylai’r Cyngor eu cymryd i gyhoeddi penderfyniad.
RHESTR LLYWODRAETH CYMRU O OFYNION DILYSU 

Ceisiadau Blaenorol

CHWILIO YN ÔL CYFEIRIAD AM GEISIADAU BLAENOROL AR YR UN SAFLE 

Gellir gweld ceisiadau cynllunio o 2007 ymlaen ar y map. Ewch i'r dudalen hon am wybodaeth ar sut i chwilio am geisiadau cyn 2007.

Map o geisiadau cynllunio