Canllaw Cais Cynllunio

Math o Gais Cynllunio

Categori A - Datblygiad Mawr

  • Mwynau a gwastraff – AD i'w darparu
  • Datblygiad preswyl o 10 neu fwy o anheddau
  • Arwynebedd llawr newydd neu newid defnydd o 1,000 metr sgwâr neu fwy neu lle mae arwynebedd y safle yn un hectar neu fwy
  • Datblygiad sy'n destun Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA)

Categori B – Datblygiad bach

  • Datblygiad preswyl o rhwng 1-9 annedd neu lle mae arwynebedd y safle yn llai na 0.5 hectar
  • Arwynebedd llawr newydd neu newid defnydd o lai na 1,000 metr sgwâr neu lle mae arwynebedd y safle yn llai nag un hectar.

Categori C – Datblygiad deiliad tŷ a datblygiad arall

  • Ceisiadau gan ddeiliaid tai
  • Datblygu telegyfathrebu
  • Hysbysiadau Amaethyddol Ymlaen Llaw
  • Caniatâd Adeilad Rhestredig
  • Caniatâd hysbyseb
  • Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer defnydd neu ddatblygiad arfaethedig
  • Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer defnydd neu ddatblygiad presennol
  • Caniatâd Ardal Gadwraeth
  • Caniatâd Gorchymyn Cadw Coed
  • Caniatâd Coed mewn Ardal Gadwraeth
  • Gwrychoedd

gwneud cais ar-lein am ganiatâd cynllunio