Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Ail Adneuo

Diweddarwyd y dudalen ar: 06/03/2024

Mae'r CDLl Diwygiedig Adneuo yn gosod strategaeth, gweledigaeth, polisïau strategol a phenodol, cynigion a dyraniadau datblygu. Mae'r Cynllun yn cwmpasu ardal Sir Gaerfyrddin ac eithrio'r Parc Cenedlaethol.

Mae'r CDLl Diwygiedig Adneuo yn nodi ac yn dyrannu tir at ddibenion tai a chyflogaeth ac yn nodi ymhle y mae hawl defnyddio'r tir i'r dibenion hyn ac eraill. Mae hefyd yn nodi'r meysydd lle mae polisïau a gynlluniwyd i warchod a gwella'r amgylchedd rhag datblygiadau amhriodol yn berthnasol.

Cyhoeddwyd y CDLl Diwygiedig Adneuo cyntaf ar 29 Ionawr 2020 ac estynnwyd y cyfnod ymgynghori tan 27 Mawrth 2020. Cynhaliwyd cyfnod ymgynghori pellach ar y Cynllun rhwng 11 Medi a 2 Hydref 2020. I weld y fersiwn hon o'r Cynllun, cliciwch ar y bocs "Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf" isod.

Cyhoeddwyd yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad ar 17 Chwefror 2023 a chaeodd yr ymgynghoriad ar 14 Ebrill 2023.

Ni fydd sylwadau a gyflwynir fel rhan o'r ymgynghoriad ar y CDLl Adneuo Diwygiedig cyntaf bellach yn cael eu hystyried. Dim ond y rhai a gyflwynir fel rhan o'r ail Gynllun Adneuo fydd yn cael eu hystyried a'u hanfon ymlaen at yr Arolygydd. Mae'n rhaid i unrhyw sylwadau blaenorol fod wedi’u hailgyflwyno fel rhan o’r ymgynghoriad ar yr ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo.

Mae dogfennau ategol pellach ar gael fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth.

Cliciwch yma am nodiadau canllaw ar ddefnyddio'r Map Rhyngweithiol

Cynllunio