Cymorth ariannol

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/08/2023

Mae Grwpiau Cymorth i Ofalwyr yn cynnig lle diogel a chyfrinachol i ofalwyr gwrdd â gofalwyr eraill a allai fod ar daith debyg i gael sgwrs gyfeillgar, i gael y wybodaeth ddiweddaraf ac i drafod materion sy'n bwysig i ofalwyr. I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr:

Rhif ffôn: 0300 0200 002

Cyfeiriad e-bost: info@ctcww.org.uk

 

Cyfarfodydd:

Caerfyrddin - Bob dydd Iau cyntaf y mis. 12pm-2pm.

Y Ganolfan Magu, Maes Cambria, Heol Ioan, Caerfyrddin SA31 1QG.

Llanelli - Bob trydydd dydd Iau y mis. 1pm–3pm.

Neuadd Les Dafen, Parc Dafen, Llanelli, SA14 8LR.

Rhydaman - Bob trydydd dydd Mawrth y mis. 11am-1pm.

Gateway Elim, Pantyffynnon, Rhydaman, SA18 3HL.

CatchUp - Mae CatchUp yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth a chyngor arbenigol am fudd-daliadau lles i unigolion a'u gofalwyr sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin.

Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin - Cyngor cyfrinachol, annibynnol, diduedd a rhad ac am ddim i bawb ynghylch eu hawliau a'u cyfrifoldebau.