Asesiad Gofalwyr

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/03/2024

Fel gofalwr, efallai y bydd gennych anghenion sy'n wahanol i rai'r person rydych yn gofalu amdano.  Rydym yn cydnabod y gall gofalu am rywun fod yn werth chweil, ond gall hefyd fod yn heriol, yn straen ac yn flinedig.  

Mae asesiad gofalwr yn gyfle i chi siarad am eich anghenion, yr hyn sy'n bwysig i chi a'r cymorth y gallwn ei roi i chi i'ch helpu i ofalu am rywun gartref.  

Rhaid i asesiad gofalwr archwilio gyda chi eich anghenion am addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden.

Sut ydw i'n cael asesiad gofalwr?

Rydym yn cynnig asesiad i unrhyw ofalwr sy'n ymddangos bod ganddo anghenion cymorth (beth mae hyn yn ei olygu) 

Gallwch wneud cais ar-lein am asesiad neu fel arall gallwch gysylltu â Llesiant Delta ein Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar 0300 333 22222.

Bydd angen i chi roi rhywfaint o wybodaeth sylfaenol amdanoch chi'ch hun a'r person rydych yn gofalu amdano.  Mae hyn yn cynnwys enwau, cyfeiriadau, dyddiadau geni a rhywfaint o wybodaeth am eich sefyllfa. 

Yna byddwn yn cysylltu â chi i drefnu amser addas i ymweld â chi neu drefnu cyfarfod fel y gallwn drafod eich sefyllfa gyda chi.

Rydym yn cynghori cyn yr asesiad, eich bod yn ystyried trafod pethau gyda'r person rydych yn gofalu amdano, er mwyn ceisio cytuno pa fath o help y gallai fod ei angen ar y ddau ohonoch. (Weithiau mae'n well gan ofalwyr drafod eu rôl gofalu yn breifat ac ar wahân i'r person sy'n derbyn gofal). 

Pwrpas yr ymweliad yw gwrando arnoch chi.

Yn ystod yr asesiad

Yn ystod yr asesiad byddwn yn gofyn i chi am:

  • y graddau y gallwch ac y byddwch yn parhau i allu darparu gofal i'r person rydych yn gofalu amdano
  • i ba raddau rydych yn fodlon ac y byddwch yn parhau i fod yn barod i ofalu am y person rydych yn gofalu amdano
  • y canlyniadau rydych chi am eu cyflawni
  • sut mae gofalu yn effeithio ar eich iechyd, swydd, bywyd cymdeithasol, cyllid, addysg a bywyd teuluol
  • a yw'r person rydych yn gofalu amdano yn cael digon o gefnogaeth a'r math cywir o gefnogaeth
  • Pa gefnogaeth rydych chi'n ei derbyn
  • y sefyllfaoedd rydych yn eu cael yn anodd
  • Pa wasanaethau allai eich helpu
  • Beth sy'n bwysig i chi

Pa fath o help efallai bydd ar gael?

  • Gellir trefnu asesiad o anghenion ar gyfer y person rydych yn gofalu amdano, neu os yw'r ddau ohonoch yn cytuno a'i fod yn cael ei ystyried yn fuddiol gwneud hynny, gellir cynnal asesiad cyfun o'ch anghenion a'r person rydych yn gofalu amdano.
  • Trefnu help gyda'r gefnogaeth rydych chi'n ei darparu ar hyn o bryd
  • Helpu i drefnu gwasanaethau sy'n rhoi seibiant i chi o ofalu am ychydig oriau, diwrnod, penwythnos neu fwy
  • Gwybodaeth am dai, offer neu addasiadau
  • Cyngor budd-daliadau lles
  • Cyfeirio at grwpiau a sefydliadau Gofalwyr, yn lleol ac yn genedlaethol
  • Helpu i drefnu technoleg gynorthwyol Teleofal
  • Eich cofrestru ar gyfer Cynllun Cerdyn Gofalwyr

Efallai y bydd taliadau (byddwn yn cynnig asesiad ariannol) neu restrau aros ar gyfer rhai o'r gwasanaethau hyn, ond nid oes tâl am asesiadau na chyngor. 

gwneud cais am asesiad