Cerdyn Gofalwyr

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/03/2024

Mae hwn yn gerdyn y gall Gofalwyr ei gario gyda nhw bob amser. Bydd y cerdyn yn rhybuddio eraill os ydynt mewn damwain neu yn methu â dychwelyd adref i gynnal eu cyfrifoldebau gofalu.

Bydd y cerdyn yn galluogi gwasanaethau brys neu eraill i gysylltu â phobl berthnasol i roi gwybod iddynt fod rhywun gartref na all ymdopi heb gymorth.

Mae'r cerdyn hefyd yn galluogi Gofalwyr i gael mynediad at rai gostyngiadau.

Bydd angen i chi lawr lwytho a chwblhau ffurflen gofrestru yn rhoi manylion y person yr ydych yn gofalu amdano, ynghyd â manylion cyswllt hyd at dri pherson enwebedig a all ymateb mewn argyfwng neu amgylchiadau eraill nas rhagwelwyd.

Anfonwch y ffurflen wedi'i chwblhau i:

Llesiant Delta, Porth y Dwyrain, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YF a fydd Cerdyn Gofalwr gyda rif unigol yn cael ei ddanfon i chi.

Os bydd argyfwng neu ddigwyddiad annisgwyl, bydd y gwasanaethau brys neu eraill yn cysylltu â Delta Wellbeing gan ddyfynnu'r rhif cofrestru unigryw, a bydd hyn yn galluogi staff i ysgogi cefnogaeth trwy gysylltu â'r person(au) enwebedig.

Bydd y person(au) enwebedig yn darparu cefnogaeth interim i osgoi risg o ddirywiad neu argyfwng i'r person bregus gartref.

Gallwch gofrestru ar gyfer y cynllun o hyd. Mewn achos o argyfwng, bydd Llesiant Delta yn galw’r gwasanaethau cymdeithasol yn awtomatig a fydd yn ymateb ac, os oes angen, yn gwneud trefniadau eraill ar gyfer y person sy’n derbyn gofal.

 Yn yr un modd, os nad yw'r person(au) enwebedig ar gael, byddwn yn cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol.

Dylai'r person enwebedig adnabod y person yr ydych yn gofalu amdano a faint o gymorth a chefnogaeth sydd ei angen arnynt. Byddant wedi rhoi caniatâd i ni gysylltu â nhw, byddant yn gwybod sut i gael mynediad i'ch cartref ac yn gwybod beth i'w wneud mewn amgylchiadau o'r fath.

Dylai enwebeion hefyd fod yn ymwybodol o ba feddyg teulu y mae'r person yr ydych yn gofalu amdano wedi'i gofrestru ag ef, ac unrhyw aelod(au) arall o'r teulu y dylent gysylltu ag ef/hi os gelwir arnynt.

Os oes unrhyw newid yn eich amgylchiadau, cysylltwch â Llesiant Delta o rhowch gwybod am y newidiadau drwy: