Cyflogwyr a Gofalwyr sy'n Gweithio

Diweddarwyd y dudalen ar: 21/02/2024

A ydych yn gwybod faint o’ch gweithwyr sydd hefyd yn gofalu am berthynas, gŵr neu wraig, partner neu ffrind anabl, bregus neu sâl ar ôl oriau gwaith? 

A ydych yn ymwybodol y bydd cefnogi’r gweithwyr hyn sy'n ofalwyr yn gwella cynhyrchiant a chadw staff? 

A ydych yn gwybod bod deddfwriaeth yn rhoi hawliau penodol i'r gofalwyr yr ydych yn eu cyflogi? 

Os ydych wedi ateb ‘nac ydw’ i unrhyw un o’r cwestiynau hyn mae cymorth wrth law. 

Mae gan yr holl weithwyr sydd wedi gweithio'n ddi-fwlch am o leiaf 26 wythnos yr hawl i wneud cais am weithio’n hyblyg ac i’w cais gael ei ystyried o ddifrif gan eu cyflogwr. Yn benodol mae hawl gan rieni plant dan chwech oed neu blant anabl dan 18 oed i wneud cais i’w cyflogwr am weithio’n fwy hyblyg.  Gall y cais ymwneud ag oriau gwaith, amseroedd gweithio a man gweithio a gallai gynnwys ceisiadau am batrymau gwaith gwahanol. 

Rhaid i’r cais gael ei gyflwyno’n ysgrifenedig ac mae dyletswydd statudol ar y cyflogwr i ystyried y cais o ddifrif ac i'w wrthod dim ond os bydd rhesymau busnes clir dros wneud hynny.  Mae gan weithwyr sy’n gwneud cais am weithio’n hyblyg yr hawl i gael cwmni cydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur yn y cyfarfod. 

Mae’r Ddeddf Gwaith a Theuluoedd hefyd yn cyflwyno hawl newydd i ofalwyr oedolion wneud cais am weithio’n hyblyg.  Daeth hyn i rym ar 6 Ebrill 2007.  Diffiniad gofalwr yw gweithiwr sy'n gofalu neu sy'n disgwyl gofalu am oedolyn sydd: 

  • Yn briod â’r gweithiwr, neu’n bartner neu’n bartner sifil iddo/iddi; neu 
  • Yn berthynas agos i’r gweithiwr; neu 
  • Heb fod yn rhan o'r categorïau hyn ond sy'n byw yn yr un cyfeiriad â’r gweithiwr.Mae’r diffiniad yn cynnwys rhiant, rhiant yng nghyfraith, plentyn sy’n oedolyn, plentyn a fabwysiadwyd sy’n oedolyn, brawd neu chwaer (gan gynnwys brawd neu chwaer yng nghyfraith), ewythr, modryb, mam-gu neu dad-cu, a llys-berthynas. 

Felly, fel cyflogwr beth dylech chi ei wneud? 

Cynyddu Ymwybyddiaeth 

  • Drwy gyfeirio’n uniongyrchol at ofalwyr mewn polisïau, gweithdrefnau a llawlyfrau cwmni. 
  • Drwy hysbysu/hyfforddi’r holl reolwyr a staff mewn perthynas â materion o ran Gofalwyr. 
  • Drwy roi gwybodaeth am systemau cefnogaeth sydd ar gael i staff sy’n ofalwyr. 

Gofyn i staff am eu sylwadau 

  • Defnyddio holiadur cyfrinachol i ofyn i staff a ydynt yn ofalwyr a beth yw eu hanghenion 
  • Nodi’r canfyddiadau a’u rhoi ar waith 

Ystyried 

  • Rhoi absenoldeb â thâl/di-dâl (absenoldeb gofalwyr) 
  • Darparu mynediad preifat at ffôn mewn swyddfa 
  • Addasu oriau gwaith i ddarparu ar gyfer apwyntiadau/sefyllfaoedd brys 
  • Cytuno ar drefniadau gweithio gwahanol e.e. oriau, lleoliad, llwyth gwaith (rhannu swydd, gweithio gartref, gweithio yn ystod y tymor, oriau blynyddol) 
  • Sicrhau bod staff yn gallu gorffen yn brydlon ac yn cael rhybudd ymlaen llaw am unrhyw angen i weithio oriau ychwanegol 
  • Darparu llinell gwnsela allanol ar gyfer staff 
  • Cynnal arolygon agweddau gweithwyr yn rheolaidd  
  • Sefydlu grwpiau ffocws neu grwpiau cefnogaeth o gydweithwyr sy’n ofalwyr anffurfiol ar sail wirfoddol 
  • Sicrhau bod amgylchiadau ac ymrwymiadau gweithwyr yn cael eu deall a’u parchu 

Yn benodol mae’n hanfodol ffurfioli a chyhoeddi unrhyw gamau a gytunwyd.  Er ei bod yn ddefnyddiol iawn cael polisi ffurfiol clir, yr allwedd i ddarparu’r cymorth gorau yw cadw'r hyblygrwydd er mwyn bodloni anghenion unigolion.  Nid yw gofalwyr yn grŵp unffurf ac nid dull ‘un ateb sy’n addas i bawb’ fydd yr un mwyaf defnyddiol. Er enghraifft mae’n bosibl y bydd rhai gofalwyr angen digon o hyblygrwydd i ymateb i gynnydd annisgwyl neu gyfnodol yn y gofal sydd ei angen. 

Os ydych yn sefydliad mawr bydd angen sicrhau bod rheolwyr yn gwneud penderfyniadau mewn modd teg a chyson. 

Monitro, Gwerthuso ac Adolygu 

  • Dylai sefydliadau fonitro’r polisïau gofalwyr sy’n cael eu defnyddio er mwyn adolygu eu heffeithiolrwydd 
  • Gellid cysylltu'n unigol ag unrhyw rai sydd wedi eu nodi eu hun yn ofalwr er mwyn monitro eu hanghenion/sylwadau, a hynny ar ôl cael eu caniatâd.  Mae rhaglenni sefydlu yn gyfle gwych i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith aelodau newydd o staff ynghylch ymrwymiad y sefydliad i ofalwyr ac i ennill ymddiriedaeth aelodau newydd o staff er mwyn iddynt rannu'r ffaith eu bod yn ofalwr â'r sefydliad. 
  • Mae arolwg agweddau rheolaidd yn ffordd eithaf da o bwyso a mesur amrywiaeth o faterion a gallai hyn gynnwys unrhyw bolisïau neu faterion o ran gofalwyr. 

Mae angen i sefydliad sicrhau bod ei bolisïau’n gweithio a’u hadolygu a/neu eu haddasu’n rheolaidd.