Gofalwyr ifanc ac Oedolion Ifan sy'n Ofalwyr

Diweddarwyd y dudalen ar: 21/02/2024

Mae Gofalwyr Ifanc yn blant neu bobl ifanc o dan 18 oed sy’n gofalu am rywun yn eu teulu sydd â salwch, anabledd, iechyd meddwl gwael neu broblemau gyda chyffuriau neu alcohol. Efallai eu bod yn cymryd cyfrifoldebau gofalu ymarferol a/neu emosiynol y byddai oedolyn yn eu cyflawni fel arfer.

Gallai’r person y maent yn gofalu amdano fod yn:

  • mam neu dad
  • brawd neu chwaer
  • taid neu nain neu berthynas arall

Gallai’r cymorth y mae gofalwr ifanc yn ei ddarparu cynnwys:

  • gwaith tŷ, coginio a siopa
  • gofalu am frodyr a chwiorydd iauhelpu rhywun i ymolchi a gwisgo
  • sicrhau bod y person y maent yn gofalu amdano yn ddiogel
  • siarad ag asiantaethau eraill (er enghraifft, y meddyg) am y person y maent yn gofalu amdano
  • rhoi meddyginiaeth
  • rhoi cymorth emosiynol

Nid yw bob amser yn hawdd bod yn ofalwr ifanc. Dyma rai o’r problemau y gallai gofalwyr ifanc eu hwynebu:

  • anawsterau gyda'r ysgol a gwneud gwaith cartref
  • dim digon o amser i weld ffrindiau
  • poeni am y person y maent yn gofalu amdano
  • teimlo'n wahanol i eraill
  • pobl eraill ddim yn deall sut beth yw bod yn ofalwr ifanc/gofalwr sy'n oedolyn ifanc

Mae oedolion ifanc sy'n gofalu yn ofalwyr rhwng 16 a 25 oed. Efallai eu bod yn jyglo eu cyfrifoldebau gofalu gyda:

  • gofynion addysg bellach neu uwch
  • chwilio am waith neu lywio'r system budd-daliadau
  • dechrau eu bywydau gwaith
  • perthynas emosiynol ddifrifol

Mae yna wasanaethau sy'n cefnogi gofalwyr ifanc/oedolion ifanc sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin. Mae pob gwasanaeth yn cynnig cymorth unigol yn seiliedig ar yr anghenion a nodwyd gan y Gofalwr ifanc. Gall hyn gynnwys: cefnogaeth 1-1, cefnogaeth grŵp cyfoedion a/neu eiriolaeth.